Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C16/1336/39/LL - Anhywel, Lon Pant Morgan, Abersoch pdf eicon PDF 263 KB

newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R. H. Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tŷ newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. 

 

          Nodwyd bod y safle wedi ei leoli y tu fewn i ffin datblygu pentref Abersoch a hefyd tu mewn i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

 

          Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer datblygu ar y safle hwn wedi ei wrthod, yn ogystal, fe wrthodwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw ar y sail y byddai’r cynllun yn ormesol ar Carrog (drws nesaf) ac fe fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle ac o ganlyniad ni fyddai’n diogelu cymeriad yr AHNE. Amlygwyd bod yr Arolygydd yn ei benderfyniad yn cydnabod bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle at ddibenion preswyl yn dderbyniol o ran cymeriad trefol ehangach y dirwedd. Nodwyd bod y cynllun arfaethedig yn sylweddol llai na’r bwriad blaenorol.

 

          Ychwanegwyd er bod y safle o fewn yr AHNE, roedd hefyd yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu pentref Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Nodwyd bod llawer o wahanol ddyluniadau i dai’r ardal ac nid oedd un patrwm adeiladu nodweddiadol. Roedd y dyluniad, er yn fodern, o ran graddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle. Bwriedir amddiffyn rhan sylweddol o’r llystyfiant presennol, ynghyd â sicrhau y bydd rhagor o goed a llwyni’n cael eu plannu. Tynnwyd sylw bod yr Uned AHNE o'r farn na fyddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar yr AHNE.

 

          Cyfeiriwyd at y pryderon a godwyd o ran effaith ar fwynderau preswylwyr Carrog, ystyrir fod lleihad i swmp yr adeilad o gymharu â’r cynllun blaenorol ynghyd â’r ffaith bod yr adeilad ymhellach i ffwrdd o’r ffin yn golygu na fyddai’n ymwthiol.

 

          Nodwyd bod y cynllun gerbron yn ymateb i bryderon yr Arolygydd ar y cais blaenorol ac yn eu datrys ac felly roedd y bwriad yn dderbyniol.

         

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Bod y cais blaenorol wedi colli mewn apêl ac nid oedd y sefyllfa wedi newid;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd - na fyddai lle i geir droi rownd yn y cwrtil gan orfod bagio i’r lôn brysur. Gwrthododd y Cyngor gais tebyg yng Nghysgod y Graig, ac fe wrthodwyd ar apêl, ar sail priffyrdd o ran bagio i’r lôn;

·         Ei bryder bod y Gwasanaeth Cynllunio yn cael ei herio’n ddifrifol gan yr ymgeiswyr o ystyried bod y cais drws nesaf wedi ei wrthod oherwydd bod y clogwyn yn berthnasol;

·         Hwn fyddai’r unig dŷ i’w weld uwchben y wal felly collir yr olygfa yn rhan o Lwybr Arfordir Llŷn;

·         Bod cyfamod caeth, ar dir drws nesaf i’r safle a roddwyd i Abersoch  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 16/01/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 11)

11 Cais Rhif C16/1336/39/LL Anhywel, Lon Pont Morgan, Abersoch pdf eicon PDF 261 KB

Tŷ newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd R H  Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu ty newydd dwy loft a gwaith cysylltiedig

 

(a)    Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i adeiladu annedd deulawr modern a ddyluniwyd i gynnwys dwy ystafell wely, dwy ystafell ymolchi, stydi ac ystafell fyw / cegin. Cyflwynwyd hefyd fanylion tirlunio bwriadedig ynghyd a manylion trefniadaeth parcio a throi ar gyfer dau gerbyd ger mynedfa gerbydol newydd. Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer datblygu ar y safle hwn wedi ei wrthod yn 2013 ac, yn ogystal, fe wrthodwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Eglurwyd bod y cynllun newydd a gyflwynwyd yn sylweddol wahanol i’r cynllun a ystyriwyd yn flaenorol.

 

Disgrifiwyd y tŷ arfaethedig fel un gyda tho fflat a thyfiant arno (to “gwyrdd”) wedi’i osod ar ddau lefel. Byddai angen codi lefel y tir ger y ffordd er mwyn creu safle gwastad ar gyfer parcio a throi. Byddai angen gostwng lefel y tir ar waelod y safle er mwyn gosod yr adeilad i mewn i'r llethr.  Yn sgil hyn byddai lefel to’r rhan uchaf o’r tŷ 0.3m yn is na brig to tŷ Carrog (drws nesaf), ac 1.2m yn is na brig to’r cynllun a wrthodwyd yn 2013.

 

Bydd waliau ochr yr adeilad yn cael eu gorchuddio gyda cherrig tra byddai’r edrychiad blaen a chefn wedi eu gorchuddio gan gladin pren, gyda ffenestri sylweddol yn wynebu’r môr.

 

Nodwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynbeu’r cais oherwydd gorddatblygiad ar safle cyfyng ac amlwg ynghyd a phryder am ddiogelwch mynediad. Eglurwyd hefyd, er bod y safle o fewn yr ANHE ei fod yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu pentref Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Yn ogystal, fe ystyriwyd y byddai y deunyddiau naturiol a ddewiswyd fel gorffeniadau yn gweddu gyda'r tirlun mewn modd anymwthiol. Nid oedd yr Uned AHNE o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar yr AHNE ac felly, ysytiwyd bod y cynnig yn gyson gyda pholisiau perthnasol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol ynghyd a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod yr holl bryderon wedi eu datrys a bod  y cynllun bellach yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

-       er penderfyniad yr apêl, bod y cynllun eto yn agos i’r lon ac yn parhau yn adeilad dau lawr

-       bod y datblygiad yn atal goleuni o’r de ac yn goredrych ar Carrog

-       bod cymdogion yn colli preifatrwydd

-       y byddai yn anodd plannu 2m o dyfiant ar y llethr i osgoi goredrych -  yr angen am blannu yn cyfaddef goredrychiad posib

-       byddai modd ychwanegu at y datblygiad i’r dyfodol

 

(c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

-       bod y datblygiad dipyn yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11