5 Cais Rhif C16/1336/39/LL - Anhywel, Lon Pant Morgan, Abersoch PDF 263 KB
Tŷ newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd R.
H. Wyn Williams
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Tŷ
newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn
y cyfarfod.
Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli y tu fewn i ffin
datblygu pentref Abersoch a hefyd tu mewn i’r
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer
datblygu tŷ ar y safle hwn
wedi ei wrthod,
yn ogystal, fe wrthodwyd
apêl yn erbyn
y penderfyniad hwnnw ar y sail y byddai’r cynllun yn ormesol
ar dŷ Carrog (drws nesaf)
ac fe fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle ac o ganlyniad ni fyddai’n diogelu
cymeriad yr AHNE. Amlygwyd bod yr Arolygydd yn ei
benderfyniad yn cydnabod bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle at ddibenion preswyl yn dderbyniol
o ran cymeriad trefol ehangach y dirwedd. Nodwyd bod y cynllun arfaethedig yn sylweddol llai
na’r bwriad blaenorol.
Ychwanegwyd er bod y safle o fewn yr AHNE, roedd
hefyd yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu
pentref Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Nodwyd bod llawer o wahanol ddyluniadau i dai’r ardal
ac nid oedd un patrwm adeiladu
nodweddiadol. Roedd y dyluniad, er yn
fodern, o ran graddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.
Bwriedir amddiffyn rhan sylweddol o’r llystyfiant presennol, ynghyd â sicrhau y bydd rhagor o goed a
llwyni’n cael eu plannu. Tynnwyd
sylw bod yr Uned AHNE o'r farn
na fyddai'r
datblygiad yn cael effaith annerbyniol
ar yr AHNE.
Cyfeiriwyd at y pryderon a godwyd o ran effaith ar fwynderau preswylwyr
tŷ Carrog, ystyrir fod lleihad
i swmp yr
adeilad o gymharu â’r cynllun blaenorol
ynghyd â’r ffaith bod yr adeilad
ymhellach i ffwrdd o’r ffin
yn golygu na fyddai’n
ymwthiol.
Nodwyd bod y cynllun gerbron yn ymateb i
bryderon yr Arolygydd ar y cais blaenorol ac yn eu datrys
ac felly roedd y bwriad yn dderbyniol.
(b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-
·
Bod y cais blaenorol wedi
colli mewn apêl ac nid oedd y sefyllfa wedi newid;
·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd
- na fyddai lle i geir droi rownd yn y cwrtil gan orfod bagio i’r lôn brysur.
Gwrthododd y Cyngor gais tebyg yng Nghysgod y Graig, ac fe wrthodwyd ar apêl,
ar sail priffyrdd o ran bagio i’r lôn;
·
Ei bryder bod y Gwasanaeth
Cynllunio yn cael ei herio’n ddifrifol gan yr ymgeiswyr o ystyried bod y cais
drws nesaf wedi ei wrthod oherwydd bod y clogwyn yn berthnasol;
·
Hwn fyddai’r unig dŷ i’w
weld uwchben y wal felly collir yr olygfa yn rhan o Lwybr Arfordir Llŷn;
· Bod cyfamod caeth, ar dir drws nesaf i’r safle a roddwyd i Abersoch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
11 Cais Rhif C16/1336/39/LL Anhywel, Lon Pont Morgan, Abersoch PDF 261 KB
Tŷ
newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd
R H Wyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adeiladu ty newydd dwy loft a gwaith cysylltiedig
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais llawn
ydoedd i adeiladu tŷ annedd deulawr modern a ddyluniwyd i gynnwys dwy ystafell
wely, dwy ystafell ymolchi, stydi ac ystafell fyw / cegin. Cyflwynwyd
hefyd fanylion tirlunio bwriadedig ynghyd a manylion trefniadaeth parcio a throi ar gyfer
dau gerbyd ger mynedfa gerbydol
newydd. Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer datblygu
tŷ ar y safle hwn wedi
ei wrthod yn 2013 ac, yn ogystal, fe wrthodwyd
apêl yn erbyn
y penderfyniad hwnnw. Eglurwyd bod y cynllun newydd a gyflwynwyd yn sylweddol wahanol
i’r cynllun a ystyriwyd yn flaenorol.
Disgrifiwyd y tŷ arfaethedig fel un gyda tho fflat a thyfiant arno
(to “gwyrdd”) wedi’i osod ar ddau lefel. Byddai angen codi lefel y tir ger y
ffordd er mwyn creu safle gwastad ar gyfer parcio a throi. Byddai angen gostwng
lefel y tir ar waelod y safle er mwyn gosod yr adeilad i mewn i'r llethr. Yn sgil hyn byddai lefel to’r rhan uchaf o’r
tŷ 0.3m yn is na brig to tŷ Carrog (drws nesaf), ac 1.2m yn is na
brig to’r cynllun a wrthodwyd yn 2013.
Bydd waliau
ochr yr adeilad
yn cael eu
gorchuddio gyda cherrig tra
byddai’r edrychiad blaen a chefn wedi eu gorchuddio gan gladin pren, gyda
ffenestri sylweddol yn wynebu’r môr.
Nodwyd bod y
Cyngor Cymuned yn gwrthwynbeu’r cais oherwydd gorddatblygiad ar safle cyfyng ac amlwg ynghyd a phryder am
ddiogelwch mynediad. Eglurwyd hefyd, er bod y safle o fewn yr ANHE ei fod
yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu pentref
Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Yn ogystal,
fe ystyriwyd y byddai y deunyddiau naturiol a ddewiswyd fel gorffeniadau yn gweddu gyda'r
tirlun mewn modd anymwthiol. Nid oedd yr
Uned AHNE o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith
annerbyniol ar yr AHNE ac felly, ysytiwyd bod y cynnig yn gyson
gyda pholisiau perthnasol.
Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio
perthnasol ynghyd a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod yr holl
bryderon wedi eu datrys a bod y cynllun
bellach yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r
polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:-
-
er
penderfyniad yr apêl, bod y cynllun eto yn agos i’r lon ac yn parhau yn adeilad
dau lawr
-
bod y datblygiad
yn atal goleuni
o’r de ac yn goredrych ar dŷ
Carrog
-
bod cymdogion
yn colli preifatrwydd
-
y byddai
yn anodd plannu 2m o dyfiant ar y llethr i osgoi
goredrych - yr angen am blannu
yn cyfaddef goredrychiad posib
-
byddai modd ychwanegu at y
datblygiad i’r dyfodol
(c)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant ar
ran yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:-
- bod y datblygiad dipyn yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11