Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/01/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 168 KB

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunangynhaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol

        

(a)     Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2018 er mwyn derbyn cadarnhad pellach gan yr asiant ynglŷn â rhai agweddau penodol o’r cais ynghyd â chynnal ymweliad safle. Nodwyd y cynhaliwyd ymweliad safle ar 23 Gorffennaf 2018.

 

          Cyfeiriwyd at y niferoedd aros, gan nodi y derbyniwyd cadarnhad y byddai nifer y gwesteion yn amrywio yn ôl y tymor ond mai’r nifer tebygol ar un adeg fyddai rhwng 50% a 60% (hyd at 70-mewn nifer) o gyfanswm niferoedd aros yr adeilad.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys cadarnhad gan Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor mai prin oedd y math yma o ddarpariaeth yn sirol.

 

          Nodwyd bod y ffordd i’r safle yn gul a throellog, ond ni chredir y byddai’r bwriad yn golygu cynnydd a niwed sylweddol amlwg o ran symudiadau traffig o gymharu â’r defnydd hanesyddol fel cartref nyrsio preswyl, felly ni chredir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion polisïau TRA2 a TRA4 o’r CDLl.

 

          Eglurwyd nad oedd rheolaeth o ddefnydd presennol y safle ac fe fyddai’r cais hwn yn gwella’r sefyllfa. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o ran mesurau lliniaru i warchod a hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad o ran cytuno arwyddion a phecynnau gwybodaeth.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi TWR2 o’r CDLl;

·         Bod y cynllun busnes a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn dangos y byddai’r elw a fyddai’n deillio o’r datblygiad yn cynyddu;

·         Bod asesiad trafnidiaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         O ystyried defnydd sefydledig y safle, ni fyddai’r sefyllfa trafnidiaeth yn waeth;

·         Bod y bwriad yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod yr adeilad yn hardd a bod angen ei ddiogelu rhag dirywiad;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd ond gellir rheoli defnydd o’r safle gydag amodau;

·         O ystyried nad oedd preswylwyr y cartref yn ddefnyddwyr ceir byddai’r symudiadau traffig yn sylweddol uwch. Cwestiynu os oedd y fynedfa yn ddiogel;

·         Yn ansicr o’r bwriad gyda phryder ei fod yn or-ddatblygiad. Byddai 4 rhan ar gyfer 120 o unigolion heb lawer o reolaeth o’r safle. Gyda nifer uwch o unigolion, tua 200, pan gynhelir priodas ar y safle, ddim yn gweld digon o le eistedd ar gyfer gymaint o bobl.

 

         Mewn ymateb i ymholiad gan aelod o ran safbwynt yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 25/06/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif: C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 146 KB

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi adeilad ar wahan i’w ddefnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i’r adeilad presennol.

 

 

(a)      Eglurodd y Swyddog Rheolaeth Dablygu yn seiliedig ar bryderon sydd wedi codi ynghylch y cais, a gofynnwyd i’r Pwyllgor ei ohirio ar gyfer cynnal ymweliad á’r safle ar ddiwrnod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.  

 

PENDERFYNWYD:   Gohirio’r cais a chynnal ymweliad á’r safle fel awgrymir uchod.