Agenda item

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunangynhaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol

        

(a)     Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2018 er mwyn derbyn cadarnhad pellach gan yr asiant ynglŷn â rhai agweddau penodol o’r cais ynghyd â chynnal ymweliad safle. Nodwyd y cynhaliwyd ymweliad safle ar 23 Gorffennaf 2018.

 

          Cyfeiriwyd at y niferoedd aros, gan nodi y derbyniwyd cadarnhad y byddai nifer y gwesteion yn amrywio yn ôl y tymor ond mai’r nifer tebygol ar un adeg fyddai rhwng 50% a 60% (hyd at 70-mewn nifer) o gyfanswm niferoedd aros yr adeilad.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys cadarnhad gan Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor mai prin oedd y math yma o ddarpariaeth yn sirol.

 

          Nodwyd bod y ffordd i’r safle yn gul a throellog, ond ni chredir y byddai’r bwriad yn golygu cynnydd a niwed sylweddol amlwg o ran symudiadau traffig o gymharu â’r defnydd hanesyddol fel cartref nyrsio preswyl, felly ni chredir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion polisïau TRA2 a TRA4 o’r CDLl.

 

          Eglurwyd nad oedd rheolaeth o ddefnydd presennol y safle ac fe fyddai’r cais hwn yn gwella’r sefyllfa. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o ran mesurau lliniaru i warchod a hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad o ran cytuno arwyddion a phecynnau gwybodaeth.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi TWR2 o’r CDLl;

·         Bod y cynllun busnes a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn dangos y byddai’r elw a fyddai’n deillio o’r datblygiad yn cynyddu;

·         Bod asesiad trafnidiaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         O ystyried defnydd sefydledig y safle, ni fyddai’r sefyllfa trafnidiaeth yn waeth;

·         Bod y bwriad yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod yr adeilad yn hardd a bod angen ei ddiogelu rhag dirywiad;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd ond gellir rheoli defnydd o’r safle gydag amodau;

·         O ystyried nad oedd preswylwyr y cartref yn ddefnyddwyr ceir byddai’r symudiadau traffig yn sylweddol uwch. Cwestiynu os oedd y fynedfa yn ddiogel;

·         Yn ansicr o’r bwriad gyda phryder ei fod yn or-ddatblygiad. Byddai 4 rhan ar gyfer 120 o unigolion heb lawer o reolaeth o’r safle. Gyda nifer uwch o unigolion, tua 200, pan gynhelir priodas ar y safle, ddim yn gweld digon o le eistedd ar gyfer gymaint o bobl.

 

         Mewn ymateb i ymholiad gan aelod o ran safbwynt yr aelod lleol, nododd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod gan yr aelod lleol bryder am y lôn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Bioamrywiaeth

4.     Cyfyngu defnydd i wyliau yn unig

5.     Cynllun Rheoli’r safle

6.     Gwarchod Coed

7.     Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru

8.     Amodau Dŵr Cymru

9.     Deunyddiau

10.   Cyfyngu niferoedd aros

11.   Cynllun Rheoli Trafnidiaeth

12.  Mesurau lliniaru effaith ieithyddol

Dogfennau ategol: