5 Cais Rhif C17/1056/39/LL - Frondeg, Llanengan, Pwllheli PDF 270 KB
Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog
ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn,
clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais
ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr,
codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad
newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 er mwyn cynnal ymweliad
safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac fe
welwyd y safle o dri lle gwahanol sef o’r fynedfa bresennol, y fynedfa
arfaethedig a heibio’r tŷ presennol.
Nodwyd bod yr asiant wedi cadarnhau nad yw’r garafan sefydlog ar gyfer
rheolwr yn rhan o’r cais. Bwriedir creu
llecyn parcio ar gyfer 25 o gerbydau ymwelwyr i’r fynwent a defnyddwyr y capel
cyfagos.
Nodwyd
bod y safle o fewn Ardal Cadwraeth a’r AHNE a’r swyddogion wedi datgan pryder y
byddai’n amharu ar y tirlun ac ni fyddai tirlunio yn lleihau ardrawiad y bwriad
ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon am amlygrwydd y
safle yn y dirwedd. Tynnwyd sylw hefyd
at y diwygiadau a’r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr asiant a oedd ar y
ffurflen sylwadau hwyr, ond yr unig fater a oedd yn faterol i’r cais gerbron ydoedd diddymu’r garafan
statig ar gyfer warden o’r cais.
O
safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle o faint cyfyng gyda
charafanau wedi eu lleoli o amgylch y terfynau a nodir nad oedd ardal amwynder
wedi ei ddangos ac ni fyddai digon o le ar gyfer darpariaeth o’r fath oherwydd
maint y llecyn.
Lleolir
y safle ar lethr gyda gwrychoedd o gwmpas y safle ond nid yw’r tirlunio
presennol yn ddigonol i guddio nac integreiddio’r unedau arfaethedig i’r
tirlun. Tra nodir bod y cynllun yn datgan y bwriedir adeiladu gwrych newydd ar
gyrion rhan o’r trac newydd ni fyddai hynny’n ddigonol ar gyfer creu datblygiad
derbyniol.
Datgan
yr ymgeisydd bod y fynedfa bresennol yn beryglus ac anhwylus ac felly fod rhan
o’r bwriad yn ymwneud gyda gwaith sylweddol i greu trac newydd ynghyd â llefydd
parcio ar gyfer ymwelwyr i’r fynwent a’r capel cyfagos. Ystyrir y byddai’r elfen yma yn cael effaith
sylweddol niweidiol ar y tirlun, ac yn ystod yr ymweliad safle, gwelwyd y lle
parcio a maint y trac ac y byddai’r gwaith arfaethedig yn creu elfen drefol iawn. Tra’n nodi bod lle parcio gerllaw ar gyfer
ymwelwyr y capel a’r fynwent ni dderbyniwyd unrhyw gwir dystiolaeth i ddangos
beth ydoedd natur a graddfa’r broblem.
Ystyrir bod y lôn yn ddigon llydan ar gyfer defnydd achlysurol o barcio
ac mae’n debyg mai achlysurol iawn fyddai’r defnydd gan y capel a’r fynwent ond
byddai effaith o greu man parcio mor fawr yn un parhaol.
Tynnwyd sylw bod nifer o feysydd carafanau wedi eu lleoli yn yr ardal ac nad ydynt yn weladwy o safle’r cais a rhaid nodi pryder ynglyn â’r effaith gronnol safleoedd presennol yn yr achos hwn. Ystyrir nad oedd y cais yn cydymffurfio â maen prawf TWR 5 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
5 Cais Rhif: C17/1056/39/LL - Frondeg, Llanengan, Pwllheli PDF 272 KB
Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais ar gyfer lleoli 10 carafán deithiol ac un carafán sefydlog ar gyfer
rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd
mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr ymgeisydd yn honni bod y cae wedi ei ddefnyddio ar gyfer lleoli carafanau yn
y gorffennol. Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth gan yr asiant hwyr ddydd Gwener
ond oherwydd nid oedd hawl cynllunio neu dystysgrif cyfreithloni defnydd mewn
lle nid oedd yn bosib rhoi unrhyw bwysau ar y wybodaeth.
Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli tua 100 medr oddi
wrth dai cyfagos, tu allan i ffin datblygu fel y’i dynodir o fewn y CDLl, o fewn Ardal Cadwraeth a thu mewn i Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE).
Nodwyd bod yr Uned AHNE yn datgan
pryder y byddai’r safle garafanau newydd, a’r datblygiadau cysylltiedig yn
amharu ar yr AHNE a’r Ardal Gadwraeth. Teimlir na fyddai tirlunio yn lleihau
ardrawiad y bwriad ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon
am amlygrwydd y safle yn y dirwedd o fewn yr AHNE a’r Ardal Gadwraeth.
Adroddwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi
datgan y byddai’r bwriad yn debygol o amharu yn sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd.
Nodwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol
o safbwynt egwyddor ac ar sail y materion fel y nodir yn yr adroddiad sef y
byddai'r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol
ar olygfeydd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardal Cadwraeth y
pentref, diogelwch ffyrdd ac yn debygol o amharu ar fwynderau trigolion
cyfagos.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Nid oedd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth
i’w gweld ar y system dilyn a darganfod ar wefan y Cyngor a ni dderbyniwyd
ymateb hyd yn hyn gan yr Uned i ymholiad a gyflwynwyd;
·
Nid oedd y dogfennau ynghlwm
â’r cais yn ymddangos ar y system dilyn a darganfod yn amserol;
·
Bod defnydd fel safle Clwb
Carafanau eisoes mewn un cae gyda chae arall efo carafanau teithiol arno;
·
Bod y fynedfa bresennol yn
beryglus gyda diffyg gwelededd felly roedd dull arall i gael mynediad yn rhan
o’r cais;
·
Bod yr Uned Bioamrywiaeth yn
ddiweddar wedi cadarnhau nad oeddent erbyn hyn yn gwrthwynebu;
·
Bod digon o le ar y safle i
blannu er mwyn sgrinio’r datblygiad.
(c) Cefnogwyd y cais gan aelod oedd
yn gweithredu fel aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi'r
prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod problemau parcio ar y
ffordd felly croesawir bod y cais yn cynnwys maes parcio a fyddai’n cael ei
ddefnyddio’n achlysurol ynghlwm â gweithgareddau yn y Capel;
·
Bod maes carafanau teithiol ar
y safle ers y 1950au gyda thystiolaeth i brofi hyn gan yr ymgeisydd;
·
Bod y fynedfa bresennol yn
beryglus;
·
Bod yr ymgeisydd yn edrych i
wella’r cyfleusterau ar y safle.
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5