skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw. 

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd  John Brynmor Hughes

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer lleoli 10 carafán deithiol ac un carafán sefydlog ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr ymgeisydd yn honni bod y cae wedi ei ddefnyddio ar gyfer lleoli carafanau yn y gorffennol. Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth gan yr asiant hwyr ddydd Gwener ond oherwydd nid oedd hawl cynllunio neu dystysgrif cyfreithloni defnydd mewn lle nid oedd yn bosib rhoi unrhyw bwysau ar y wybodaeth.

 

         Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli tua 100 medr oddi wrth dai cyfagos, tu allan i ffin datblygu fel y’i dynodir o fewn y CDLl, o fewn Ardal Cadwraeth a thu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE).

 

         Nodwyd bod yr Uned AHNE yn datgan pryder y byddai’r safle garafanau newydd, a’r datblygiadau cysylltiedig yn amharu ar yr AHNE a’r Ardal Gadwraeth. Teimlir na fyddai tirlunio yn lleihau ardrawiad y bwriad ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon am amlygrwydd y safle yn y dirwedd o fewn yr AHNE a’r Ardal Gadwraeth.

 

         Adroddwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi datgan y byddai’r bwriad yn debygol o amharu yn sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd.

 

         Nodwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor ac ar sail y materion fel y nodir yn yr adroddiad sef y byddai'r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardal Cadwraeth y pentref, diogelwch ffyrdd ac yn debygol o amharu ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nid oedd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth i’w gweld ar y system dilyn a darganfod ar wefan y Cyngor a ni dderbyniwyd ymateb hyd yn hyn gan yr Uned i ymholiad a gyflwynwyd;

·         Nid oedd y dogfennau ynghlwm â’r cais yn ymddangos ar y system dilyn a darganfod yn amserol;

·         Bod defnydd fel safle Clwb Carafanau eisoes mewn un cae gyda chae arall efo carafanau teithiol arno;

·         Bod y fynedfa bresennol yn beryglus gyda diffyg gwelededd felly roedd dull arall i gael mynediad yn rhan o’r cais;

·         Bod yr Uned Bioamrywiaeth yn ddiweddar wedi cadarnhau nad oeddent erbyn hyn yn gwrthwynebu;

·         Bod digon o le ar y safle i blannu er mwyn sgrinio’r datblygiad.

 

(c)     Cefnogwyd y cais gan aelod oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi'r prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod problemau parcio ar y ffordd felly croesawir bod y cais yn cynnwys maes parcio a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n achlysurol ynghlwm â gweithgareddau yn y Capel;

·         Bod maes carafanau teithiol ar y safle ers y 1950au gyda thystiolaeth i brofi hyn gan yr ymgeisydd;

·         Bod y fynedfa bresennol yn beryglus;

·         Bod yr ymgeisydd yn edrych i wella’r cyfleusterau ar y safle.

 

(ch)      Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio:

·         Ddim yn ymwybodol nad oedd y wybodaeth am y cais ar wefan y Cyngor yn amserol ond efallai bod problem wedi bod;

·         Nid oedd yr asiant wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn cyngor cyn cyflwyno cais lle byddai’r pryderon wedi eu hamlygu;

·         Bod safleoedd a oedd yn gweithredu fel safle Clwb Carfanau efo hyd at 5 uned deithiol, roedd y cais gerbron ar gyfer 10 uned. Derbyniwyd lluniau ond byddai’n rhaid derbyn cais ffurfiol gyda rhagor o dystiolaeth o ran tystysgrif cyfreithloni defnydd;

·         Derbyn bod y ffordd yn beryglus os oedd defnydd fel Clwb Carafanau ar gyfer 5 uned ond byddai creu datblygiad mwy trefol gyda mwy o symudiadau cerbydol ddim yn ateb;

·         Cadarnhau bod materion bioamrywiaeth wedi eu datrys.

 

(d)        Cynigiwyd a eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

            Nododd y cynigydd y prif sylwadau canlynol:

·         Y dylid ymweld â’r safle oherwydd y pryderon o ran mwynderau gweledol, effaith ar fwynderau trigolion cyfagos a’r fynedfa a diogelwch ffyrdd;

·         Cytuno bod angen ystyried os oedd y garafán sefydlog ar gyfer rheolwr yn hanfodol i’r safle;

·         Bod y safle wedi ei ddefnyddio fel safle Clwb Carafanau ers blynyddoedd lawer a thu hwnt gyda darpariaeth ar y safle ar hyn o bryd ar gyfer 10 uned deithiol;

·         Pe byddai’r ymgeisydd yn gwneud cais am dystysgrif cyfreithloni defnydd, a’i fod yn llwyddiannus, byddai’r defnydd yn dod yn awdurdodedig heb amodau. Felly, byddai’n well caniatáu’r cais efo amodau.

 

(dd)      Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Byddai ymweliad safle yn ddoeth o ystyried y materion a nodwyd;

·         Ni ellir damcaniaethu o ran cyfreithloni defnydd, roedd yn fater i’r ymgeisydd brofi bod defnydd hanesyddol. Yn debygol bod angen mwy o wybodaeth yn yr adroddiad o ran defnydd fel safle Clwb Carafanau i fod o gymorth i’r aelodau;

·         Pe byddai’r ymgeisydd wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn cyngor cyn cyflwyno cais byddai’r swyddogion efallai wedi ei gynghori i wneud cais am dystysgrif cyfreithloni defnydd, roedd y cais cynllunio gerbron yn gynamserol yng nghyd-destun ystyriaeth o unrhyw ddefnydd hanesyddol;

·         Byddai ymweliad safle o ochr trafnidiaeth i’w werthfawrogi o ran lleoliad y fynedfa.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

Dogfennau ategol: