skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw. 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac fe welwyd y safle o dri lle gwahanol sef o’r fynedfa bresennol, y fynedfa arfaethedig a heibio’r tŷ presennol.  Nodwyd bod yr asiant wedi cadarnhau nad yw’r garafan sefydlog ar gyfer rheolwr yn rhan o’r cais.  Bwriedir creu llecyn parcio ar gyfer 25 o gerbydau ymwelwyr i’r fynwent a defnyddwyr y capel cyfagos. 

 

          Nodwyd bod y safle o fewn Ardal Cadwraeth a’r AHNE a’r swyddogion wedi datgan pryder y byddai’n amharu ar y tirlun ac ni fyddai tirlunio yn lleihau ardrawiad y bwriad ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon am amlygrwydd y safle yn y dirwedd.   Tynnwyd sylw hefyd at y diwygiadau a’r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr asiant a oedd ar y ffurflen sylwadau hwyr, ond yr unig fater a oedd yn faterol  i’r cais gerbron ydoedd diddymu’r garafan statig ar gyfer warden o’r cais.

 

          O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle o faint cyfyng gyda charafanau wedi eu lleoli o amgylch y terfynau a nodir nad oedd ardal amwynder wedi ei ddangos ac ni fyddai digon o le ar gyfer darpariaeth o’r fath oherwydd maint y llecyn. 

 

          Lleolir y safle ar lethr gyda gwrychoedd o gwmpas y safle ond nid yw’r tirlunio presennol yn ddigonol i guddio nac integreiddio’r unedau arfaethedig i’r tirlun. Tra nodir bod y cynllun yn datgan y bwriedir adeiladu gwrych newydd ar gyrion rhan o’r trac newydd ni fyddai hynny’n ddigonol ar gyfer creu datblygiad derbyniol.

 

          Datgan yr ymgeisydd bod y fynedfa bresennol yn beryglus ac anhwylus ac felly fod rhan o’r bwriad yn ymwneud gyda gwaith sylweddol i greu trac newydd ynghyd â llefydd parcio ar gyfer ymwelwyr i’r fynwent a’r capel cyfagos.  Ystyrir y byddai’r elfen yma yn cael effaith sylweddol niweidiol ar y tirlun, ac yn ystod yr ymweliad safle, gwelwyd y lle parcio a maint y trac ac y byddai’r gwaith arfaethedig yn creu elfen drefol iawn.  Tra’n nodi bod lle parcio gerllaw ar gyfer ymwelwyr y capel a’r fynwent ni dderbyniwyd unrhyw gwir dystiolaeth i ddangos beth ydoedd natur a graddfa’r broblem.  Ystyrir bod y lôn yn ddigon llydan ar gyfer defnydd achlysurol o barcio ac mae’n debyg mai achlysurol iawn fyddai’r defnydd gan y capel a’r fynwent ond byddai effaith o greu man parcio mor fawr yn un parhaol.

 

          Tynnwyd sylw bod nifer o feysydd carafanau wedi eu lleoli yn yr ardal ac nad ydynt yn weladwy o safle’r cais a rhaid nodi pryder ynglyn â’r effaith gronnol safleoedd presennol yn yr achos hwn.  Ystyrir nad oedd y cais yn cydymffurfio â maen prawf TWR 5 sy’n ymwneud â charafanau teithiol.

 

          Golyga’r cais greu maes carafanau teithiol o’r newydd ond datgan yr ymgeisydd bod y safle wedi ei ddefnyddio ers blynyddoedd a chyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf un datganiad statudol, datganiad trethi 2017 a lluniau i gefnogi hynny.  Er hyn,  ni dderbyniwyd cais i gyfreithloni’r elfen yma drwy Dystysgrif Cyfreithloni yn unol â’r drefn arferol ac fel sydd wedi ei wneud ar safleoedd eraill yn y Sir yn y gorffennol.

 

          Ystyrir nad oedd y bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor nac ychwaith yn seiliedig ar bolisiau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, effaith niweidiol sylweddol ar drigolion cyfagos yn ogystal a phryderon  dioglewch ffyrdd. Argymhellwyd i wrthod y cais yn unol a rhesymau 1-4 a restrir yn yr adroddiad gan bod y pumed rheswm wedi cael ei gyfarch fel amlinellir uchod.   

           

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod maes carafanau wedi bod ar y safle ers 1957 a chefnogir hyn gan lythyr o ddatganiad statudol a bod y swyddogion cynllunio wedi ei dderbyn

·         Yn seiliedig ar yr uchod nad oedd raid i’r ymgeisydd gyflwyno Tystysgrif Cyfreithloni

·         Bod y maes presennol  mewn dau gae a phwrpas bellach ydoedd sefydlu un maes mewn un cae

·         Bod sawl llythyr wedi eu hanfon gan deuluoedd sydd wedi defnyddio’r safle ac yn parhau i wneud hynny

·         Bod gan yr ymgeisydd anfoneb treth i’r safle ar gyfer 2017/18 yn nodi “Campsite and premises”

·         Roedd y lôn yn gul a serth ac ddim mewn cyflwr da – byddai lôn newydd o Llanengan o fantais ac yn enwedig i’r gwasanaethau brys.  Hefyd byddai’n cynnwys lôn i’r maes parcio y capel a’r fynwent mewn ardal lle mae’r lôn yn brysur yn yr haf

·         Nid oedd gwrthwynebiad i’r cais yn lleol ond cefnogaeth gadarn

·         Gwelir maintais o’r cynllun

·         Ni fyddai’r lôn newydd na’r maes carafanau yn amlwg gyda chynllun i blannu coed wedi ei ddechrau

 

(c)     Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr, nad oedd y wybodaeth hanesyddol wedi          ei asesu ar sail y cais gerbron.  I wneud hyn rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cais er ystyriaeth     defnydd cyfreithlon y safle a phe byddai’n llwyddiannus gallasai cynnwys yr adroddiad    newid. Ond ar hyn o bryd roedd yn amhosibl rhoi pwysau ar fater lle nad oedd prawf wedi ei    wneud o’r dystiolaeth. 

         

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Tra’n cydnabod yr hyn a ddywed y swyddogion, ac er gwaethaf yr effaith gronnol a gaiff ar gymdogion a golygfeydd yr AHNE, gofynnwyd oni fyddai yn bosibl caniatau neu ohirio’r cais a gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno’r dystiolaeth berthnasol a grybwyllwyd uchod.  

·         Bod yr Adran Briffyrdd wedi datgan bod y mynediad yn mynd i greu problemau ac y dylid cymryd hyn i ystyriaeth

·         Tra’n derbyn bod pryderon a dim tystysgrif cyfreithloni, eto roedd yr Aelod Lleol o’r farn bod y safle mewn bodolaeth ers dros 61 o flynyddoedd.

 

(d)     Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar

         26 Chwefror 2018 wedi trafod yr elfen tystysgrif cyfreithloni ac ategwyd nad oedd yr Adran Gynllunio yn ymwybodol fod unrhyw dystiolaeth bellach wedi ei gyflwyno na chais am dystysgrif cyfreithloni defnydd.  Nodwyd ymhellach bod rhaid i’r cais am dystysgrif cyreithloni dderbyn ystyriaeth ar wahan, ac bod cymhlethdodau yn deillio o’r dystiolaeth i’w ddatrys megis gwybodaeth ynglyn â safle ardystiedig sydd yn safle nad yw angen caniatad cynllunio. Tra’n cydnabod datganiad yr asiant ei fod yn gae gwahanol ac ar raddfa llai, ac hyd yn oed os yw hyn yn gywir, roedd y cais yn parhau i gael effaith niweidiol mwynderol ar ddau dŷ yn ogystal a’r AHNE a’r Ardal Gadwraeth oherwydd graddfa a natur y trac arfaethedig.

 

         Ychwanegodd yr Uwch Gyfreithiwr bod peryg i’r Pwyllgor Cynllunio ganiatau’r cais yn          seiliedig ar amheuaeth o dystiolaeth a phwysleiswyd yr angen i dderbyn tystiolaeth gadarn     cyn rhoi pwys ar yr elfen tystiolaeth cyfreithloni.  

 

         Esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai ymdrin â defnydd y tir ydoedd y       dystysgrif cyfreithloni ac nad oedd yn goresgyn y pryderon ffisegol o safbwynt y rhesymau   am wrthod y cais.  Pwysleisiodd nad oedd cyfiawnhad i’w ganiatau o safbwynt y dystiolaeth   oedd gerbon ac awgrymodd i’r Pwyllgor Cynllunio i wrthod y cais a’u cynghori i ofyn i          swyddogion roi cyngor priodol i’r ymgeisydd i gyflwyno cais am dystysgrif cyfreithloni.  

 

(dd)   Pleidleiswyd ar y cynnig i’w wrthod gan ychwanegu y dylid gwahodd yr ymgeisydd i drafod ymhellach gyda’r swyddogion cynllunio yr elfen tystysgrif cyfreithloni.

 

          PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rhesymau:

 

1.      Byddai'r bwriad, oherwydd ei leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad  gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r bwriad felly yn groes i bolisi AMG 1, PS 19  a TWR 5 CDLl a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd.

 

2.      Byddai'r bwriad, oherwydd ei leoliad a gosodiad, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad gan gael effaith niweidiol ar Ardal Cadwraeth Llanengan yn groes i bolisi AT 1 a PS 20 CDLl.

 

3.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 2 CDLl gan ystyrir ei fod yn amharu’n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn a chynnydd cyffredinol mewn gweithgareddau cyffredinol.

 

4.      Byddai’r bwriad yn cynyddu’r defnydd o fynedfa amaethyddol bresennol sydd gyda lleiniau gwelededd is-safonol a ble byddai symudiadau cyfyngedig i fynd ar ac oddi ar y briffordd yn achosi perygl sylweddol ffyrdd a hynny yn groes i bolisi Polisi  TRA 4 o CDLl

 

Dogfennau ategol: