5 Cais Rhif C17/0893/18/AM - Tir gyferbyn Stad Rhoslan, Bethel, Caernarfon PDF 268 KB
Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â
mynedfeydd newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd
newydd.
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017 er mwyn
galluogi’r swyddogion ymgynghori efo Dŵr Cymru yn dilyn llifogydd diweddar
ym Methel.
Nodwyd
y derbyniwyd ymateb gan Dŵr Cymru a oedd yn parhau i gadarnhau (am y
trydydd gwaith) byddai capasiti digonol ar gyfer y safle heb unrhyw niwed i
asedau ac offer Dŵr Cymru. Roedd hyn yn seiliedig ar ddadansoddi capasiti
hydrolig y system garthffos gyhoeddus leol a’r llif disgwyliedig a all gael ei
gynhyrchu gan y datblygiad arfaethedig.
Eglurwyd mai cais amlinellol
ydoedd ar gyfer codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf pâr a
chreu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos ar safle tu fewn
i ffin datblygu pentref Bethel.
Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Argymhellwyd
i’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 neu gydymffurfio gydag amod priodol i
sicrhau fod 2 o'r 7 tŷ a oedd yn destun y cais yn fforddiadwy ac i amodau
perthnasol.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod wedi cyfarfod efo
Dŵr Cymru yr wythnos flaenorol ac nid oeddent yn ymwybodol o’r problemau
carthffosiaeth;
·
Ei fod yn bryderus na gwblhawyd
asesiad nac arolwg o’r sefyllfa fel rhan o broses llunio’r CDLl;
·
Bod angen am dai yn yr ardal a
bod y cais yn gyfle gwych o ran maint y tai;
·
Gofyn am archwiliad annibynnol
o ran problemau carthffosiaeth cyn adeiladu ar y safle os yn bosib;
·
Ei fod yn edrych ymlaen at
weithio efo’r ymgeisydd o ran budd i’r gymuned.
(c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod
lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y derbyniwyd cadarnhad am y
trydydd gwaith gan Dŵr Cymru bod capasiti digonol yn y system. O ran archwiliad
annibynnol, nid oedd yn bosib i’r Cyngor gynnal archwiliad o’r fath ond fe
ellir gofyn i Dŵr Cymru gynnal archwiliad annibynnol ac fe fyddai’r Cyngor
yn parhau i siarad efo’r aelod lleol a thrigolion.
(ch)
Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed amod i
sicrhau nad oedd dŵr wyneb yn mynd i’r system carthffosiaeth, nododd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu yn unol â sylwadau Dŵr Cymru yr
argymhellir gosod amod na waredir dŵr wyneb yn uniongyrchol i’r system.
Nododd
aelod ei fod yn gefnogol i’r cais a bod derbyn cadarnhad gan Dŵr Cymru am
y trydydd gwaith yn cadarnhau bod capasiti yn y system carthffosiaeth yn golygu
seiliau cadarn i wneud penderfyniad.
Nododd
aelod bod y safle o fewn y ffin datblygu ac y byddai’n cyfarch anghenion tai.
Roedd y cais fel cynllun amlinellol i’w gymeradwyo.
Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
11 Cais Rhif C17/0893/18/AM - Tir gyferbyn Stad Rhoslan, Bethel, Caernarfon PDF 260 KB
Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ
fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi
7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd
Tynnwyd
sylw at y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd
(a)
Ymhelaethodd
y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu gan nodi mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer
codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf par gyda chynllun i
greu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos. Eglurwyd bod
materion fel tirlunio a dyluniad yn cael eu cadw'n ôl ar gyfer eu
hystyried eto/ Amlygwyd bod safle'r cais wedi ei leoli oddi fewn i ffin
datblygu pentref Bethel fel y'i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
ac hefyd wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn
y Ddogfen Mapiau Gwynedd (cyfeirnod T58).
Mae Polisi PCYFF1 yn datgan caniateir cynigion
y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun,
polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill. Mae Polisi
TAI3 yn datgan yn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â strategaeth y
cynllun yn cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap
addas o fewn ffin datblygu. Mae Polisi
TAI 8 yn datgan dylai pob datblygiad preswyl newydd gyfrannu at wella
cydbwysedd tai a diwallu'r anghenion ar gyfer y gymuned gyfan.
Ategwyd bod y
safle wedi ei leoli ar gyrion gorllewinol y pentref Rhagdybiwyd mai parhad o
ddeunyddiau oedd yn gyffelyb i'r tai cyfagos fydd yn cael eu defnyddio. Roedd
cynllun safle a gyflwynwyd gyda'r cais wedi ei selio ar drafodaethau
cychwynnol rhwng yr ymgeisydd a'r Uned Drafnidiaeth. Nid oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r trefniant yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol.
Yng nghyd – destun isadeiledd amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd ynglŷn ag
addasrwydd y gyfundrefn garthffos gyhoeddus bresennol y pentref i ymdopi gydag
mwy o dai yn enwedig pan nad oedd gwelliannau wedi eu gwneud gan Dŵr Cymru
i gynyddu capasiti'r gyfundrefn i gymryd mwy o ddŵr wyneb a dŵr
aflan. Roedd y gwrthwynebwyr yn ymhelaethu drwy ddatgan dylid gwrthod y cais
hyd nes bod archwiliadau a gwelliannau wedi eu gwneud ar gyfer y
gyfundrefn.
Adroddwyd, fel rhan o'r broses ymgynghori
statudol, ymgynghorwyd gyda Dŵr Cymru a derbyniwyd ymateb ganddynt yn
datgan petai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu caniatáu’r cais, y dylid
cynnwys amod sy'n atal unrhyw ddŵr wyneb neu/a dŵr ffo gysylltu yn
uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r rhwydwaith garthffos gyhoeddus. Er yn
cydnabod gwrthwynebiadau'r trigolion lleol ynglŷn â phroblemau presennol y
gyfundrefn gyhoeddus i ymdopi gydag ychwaneg o dai ym Methel rhaid oedd
ystyried ymateb ffurfiol Dŵr Cymru i'r cais cynllunio oedd yn datgan bod y
bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amod priodol.
(b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau
canlynol:
·
Bod
problemau carthffosiaeth yn Bethel a bod y system yn ddiffygiol
·
Bod
gwastraff a budreddi yn codi i’r strydoedd
·
Bod
llanast difrifol yn ystod storm ddiweddar
·
Bod
y problemau yn amharu ar fwynderau trigolion y pentref
· Bod y broblem yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11