skip to main content

Agenda item

Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd

 

Tynnwyd sylw at y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)          Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu gan nodi mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf par gyda chynllun i greu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos. Eglurwyd bod materion fel tirlunio a dyluniad yn cael eu cadw'n ôl ar gyfer eu hystyried eto/ Amlygwyd bod safle'r cais wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu pentref Bethel fel y'i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac  hefyd wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y Ddogfen Mapiau Gwynedd (cyfeirnod T58). 

 

Mae Polisi PCYFF1 yn datgan caniateir cynigion y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill. Mae Polisi TAI3 yn datgan yn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â strategaeth y cynllun yn cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap addas o fewn ffin datblygu.  Mae Polisi TAI 8 yn datgan dylai pob datblygiad preswyl newydd gyfrannu at wella cydbwysedd tai a diwallu'r anghenion ar gyfer y gymuned gyfan.

 

Ategwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion gorllewinol y pentref Rhagdybiwyd mai parhad o ddeunyddiau oedd yn gyffelyb i'r tai cyfagos fydd yn cael eu defnyddio.     Roedd  cynllun safle a gyflwynwyd gyda'r cais wedi ei selio ar drafodaethau cychwynnol rhwng yr ymgeisydd a'r Uned Drafnidiaeth. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r trefniant yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol. 

 

Yng nghyd – destun isadeiledd amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd ynglŷn ag addasrwydd y gyfundrefn garthffos gyhoeddus bresennol y pentref i ymdopi gydag mwy o dai yn enwedig pan nad oedd gwelliannau wedi eu gwneud gan Dŵr Cymru i gynyddu capasiti'r gyfundrefn i gymryd mwy o ddŵr wyneb a dŵr aflan. Roedd y gwrthwynebwyr yn ymhelaethu drwy ddatgan dylid gwrthod y cais hyd nes bod archwiliadau a gwelliannau wedi eu gwneud ar gyfer y gyfundrefn.  

 

   Adroddwyd, fel rhan o'r broses ymgynghori statudol, ymgynghorwyd gyda Dŵr Cymru a derbyniwyd ymateb ganddynt yn datgan petai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu caniatáu’r cais, y dylid cynnwys amod sy'n atal unrhyw ddŵr wyneb neu/a dŵr ffo gysylltu yn uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r rhwydwaith garthffos gyhoeddus. Er yn cydnabod gwrthwynebiadau'r trigolion lleol ynglŷn â phroblemau presennol y gyfundrefn gyhoeddus i ymdopi gydag ychwaneg o dai ym Methel rhaid oedd ystyried ymateb ffurfiol Dŵr Cymru i'r cais cynllunio oedd yn datgan bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amod priodol.

 

(b)          Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod problemau carthffosiaeth yn Bethel a bod y system yn ddiffygiol

·         Bod gwastraff a budreddi yn codi i’r strydoedd

·         Bod llanast difrifol yn ystod storm ddiweddar

·         Bod y problemau yn amharu ar fwynderau trigolion y pentref

·         Bod y broblem yn un hanesyddol – wedi ei ‘dderbyn’ fel ffordd o fyw

·         Dŵr Cymru wedi cyhoeddi yn gyhoeddus yn 2008 bod problemau yn y pentref

·         Gwaith adfer ambell i bibell wedi ei weithredu ond nid yw’r system yn ei gyfanrwydd yn ymdopi

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod safle y cais o fewn ffiniau datblygu ac yn addas ar gyfer datblygiad tai

·         Bod y datblygiad yn darparu cymysgedd o dai

·         Bod yr Adran Strategol yn datgan yr angen am dai ym Methel

·         Bod Bethel wedi ei adnabod fel pentref gwasanaeth

·         Capasiti yn yr ysgol leol i dderbyn mwy o blant

·         Y cartrefi yn addas ar gyfer cadw teuluoedd ifanc yn y fro Gymraeg

·         Bod trafodaethau ynglyn a’r fynedfa wedi eu cynnal

·         Bod Dŵr Cymru yn fodlon gyda’r cais ac mai un cwyn swyddogol (o Fethel) oedd wedi ei wneud i Dŵr Cymru rhwng Ionawr 2014 a’r presennol

·         Byddai clawdd newydd yn cael ei blannu – yr Adran Bioamrywiaeth wedi ymateb yn ffafriol

 

(ch)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn cydweithio gyda thrigolion y pentref i gyfarch yr angen am dai yn y safleoedd gorau o fewn y pentref

·         Bod tir y safle dan sylw yn anaddas – problemau carthffosiaeth fyddai yn gosod mwy o bwysau ar y system bresennol

·         Bod pob llythyr gwrthwynebiad yn amlygu diffygion yn y system ddŵr / carthffosiaeth

·         Manylion gwaith Dŵr Cymru yn y pentref heb eu trafod

·         Datganiad ffug wedi ei gyhoeddi ac felly angen mwy o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad

 

(d)      Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fod yn cydymdeimlo gyda’r trigolion lleol, ond o ystyried y cais penodol dan sylw, nododd bod Dŵr Cymru, fel ymgynghorai statudol yn nodi bod capasiti digonol ar gyfer y datblygiad. Derbyniwyd bod dffygion eraill ar bibellau ac angen gwirio gwaith cyffredinol cynnal a chadw yn y pentref, ond effaith capasiti ar gyfer y datblygiad oedd dan sylw.

 

(dd)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio'r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth gan Dŵr  Cymru am y system gyfredol o ystyried llifogydd 22/11/17.

 

(e)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod barn Dŵr Cymru yn aneglur, felly angen adolygiad o’r sefyllfa gyfredol ac ymateb llawnach i’r mater ‘capasiti digonol’

·         Bod angen gwybodaeth fwy diweddar

·         Angen ystyried  capasiti y system yng nghyd-destun llifogydd diweddar

(f)            Mewn ymateb i’r cais am fwy o wybodaeth gan Dŵr Cymru, amlygodd y Swyddog Monitro bod rhaid ystyried y cais yn unig a bod Dŵr Cymru wedi rhoi ymateb digonol ar gyfer y datblygiad ac nad oedd angen ystyried problemau ehangach y pentref.

(ff)          Mewn ymateb i sylw, petai'r penderfyniad i ganiatáu, a derbyn bod problemau carthffosiaeth, y byddai modd gosod amod i wella'r system ym Methel a chryfhau achos y gymuned i wella’r sefyllfa, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd modd gwneud hynny drwy y cais, ond bod posib cynnal trafodaethau gyda’r Aelod Lleol a’r Aelod Cabinet perthnasol.

PENDERFYNWYD gohirio y cais

 

Dogfennau ategol: