Agenda item

Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017 er mwyn galluogi’r swyddogion ymgynghori efo Dŵr Cymru yn dilyn llifogydd diweddar ym Methel.

 

          Nodwyd y derbyniwyd ymateb gan Dŵr Cymru a oedd yn parhau i gadarnhau (am y trydydd gwaith) byddai capasiti digonol ar gyfer y safle heb unrhyw niwed i asedau ac offer Dŵr Cymru. Roedd hyn yn seiliedig ar ddadansoddi capasiti hydrolig y system garthffos gyhoeddus leol a’r llif disgwyliedig a all gael ei gynhyrchu gan y datblygiad arfaethedig.

 

Eglurwyd mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf pâr a chreu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos ar safle tu fewn i ffin datblygu pentref Bethel.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 neu gydymffurfio gydag amod priodol i sicrhau fod 2 o'r 7 tŷ a oedd yn destun y cais yn fforddiadwy ac i amodau perthnasol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·        Ei fod wedi cyfarfod efo Dŵr Cymru yr wythnos flaenorol ac nid oeddent yn ymwybodol o’r problemau carthffosiaeth;

·        Ei fod yn bryderus na gwblhawyd asesiad nac arolwg o’r sefyllfa fel rhan o broses llunio’r CDLl;

·        Bod angen am dai yn yr ardal a bod y cais yn gyfle gwych o ran maint y tai;

·        Gofyn am archwiliad annibynnol o ran problemau carthffosiaeth cyn adeiladu ar y safle os yn bosib;

·        Ei fod yn edrych ymlaen at weithio efo’r ymgeisydd o ran budd i’r gymuned.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y derbyniwyd cadarnhad am y trydydd gwaith gan Dŵr Cymru bod capasiti digonol yn y system. O ran archwiliad annibynnol, nid oedd yn bosib i’r Cyngor gynnal archwiliad o’r fath ond fe ellir gofyn i Dŵr Cymru gynnal archwiliad annibynnol ac fe fyddai’r Cyngor yn parhau i siarad efo’r aelod lleol a thrigolion.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed amod i sicrhau nad oedd dŵr wyneb yn mynd i’r system carthffosiaeth, nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu yn unol â sylwadau Dŵr Cymru yr argymhellir gosod amod na waredir dŵr wyneb yn uniongyrchol i’r system.

 

Nododd aelod ei fod yn gefnogol i’r cais a bod derbyn cadarnhad gan Dŵr Cymru am y trydydd gwaith yn cadarnhau bod capasiti yn y system carthffosiaeth yn golygu seiliau cadarn i wneud penderfyniad.

 

Nododd aelod bod y safle o fewn y ffin datblygu ac y byddai’n cyfarch anghenion tai. Roedd y cais fel cynllun amlinellol i’w gymeradwyo.

 

            Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 neu gydymffurfio gydag amod priodol i sicrhau fod 2 o'r 7 tŷ sy'n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:-

 

1.      Amodau amser

2.      Materion a gadwyd yn ôl

3.      Deunyddiau allanol gan gynnwys llechi.

4.      Tirlunio.

5.      Priffyrdd.

6.      Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir oddi ar y 2 dŷ fforddiadwy.

7.      Amod Dŵr Cymru parthed gwaredu dŵr wyneb/dŵr ffo o'r safle.

8.      Bioamrywiaeth.

 

 

Dogfennau ategol: