5 Cais Rhif C17/0826/17/LL - Crud y Nant, Bethesda Bach, Caernarfon PDF 260 KB
Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M. Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017.
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd mai cais llawn ydoedd
ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae agored ar
gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50. Amlygwyd y byddai’r
cais yma yn golygu cynyddu’r nifer o unedau storio i 90 uned (40 cwch a 50
carafán deithiol).
Ystyriwyd
nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd,
diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i
ofynion polisïau lleol a chenedlaethol cynllunio perthnasol.
Argymhellwyd
gwrthod y cais ar sail:
·
diogelwch
ffyrdd gan fod y ffordd mynediad a oedd yn gwasanaethu’r safle ynghyd â’i
gyffordd gyda’r A499 ym Methesda Bach yn is-safonol;
·
y
byddai’r bwriad yn creu nodwedd anghydnaws ac amlwg yn y tirlun;
·
y
byddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol
trigolion lleol;
·
nad oedd graddfa’r bwriad yn
dderbyniol o fewn ei osodiad gwledig.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod galw am fannau storio
carafanau a byddai’r datblygiad yn lleihau’r nifer yn cael eu storio o flaen
tai;
·
Bod yr ymgeisydd yn Gymro Cymraeg lleol;
·
Ei fod yn esiampl o sut i
redeg safle storio o’r fath a doedd dim ond clod gan drigolion;
·
Nid oedd unrhyw ddamwain wedi
bod ar y ffordd na chyffordd yr A499;
·
Bod yr ymgeisydd wedi buddsoddi yn sylweddol yn y
safle o ran golau, teledu cylch cyfyng a choed i
sgrinio’r safle;
·
Y safle wedi ei sgrinio’n dda;
·
Nad oedd trigolion wrth ymyl y
safle yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
Bod Cyngor Cymuned Llandwrog
yn gefnogol i’r cais;
·
Ni fyddai’r bwriad yn ymwthiol
a roedd y safle yn hygyrch gyda phrinder safleoedd o’r fath;
·
Bod yr ymgeisydd yn
gweithredu’n gyfreithiol tra bod safleoedd eraill wrth ymyl yn gweithredu’n
anghyfreithlon;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais gydag amodau os oedd rhaid.
(c) Cynigwyd i ganiatáu’r cais yn groes i
argymhelliad y swyddogion oherwydd ni fyddai’r bwriad yn ymwthiol, nid oedd
cofnod o ddamwain ar y ffordd ac mai mater o farn ydoedd os byddai’n weladwy
o’r safle cuddiedig. Eiliwyd y cynnig.
Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yr Uned
Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad a bod angen tystiolaeth os am fynd yn
groes i’r arbenigwr priffyrdd. Ychwanegodd er mai mater o farn ydoedd o ran yr
effaith weledol, roedd rhaid ystyried maint y safle gyda’r cais yn gofyn i
ychwanegu 40 o garafanau teithiol ar y safle oedd ond yn 2000m2 ac
mewn cefn gwlad agored.
(ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen yn lleol;
· Nad oedd y safle yn weladwy ac nid oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
9 Cais Rhif C17/0826/17/LL - Crud y Nant, Bethesda Bach, Caernarfon PDF 257 KB
Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M. Jones
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Estyniad i safle storio
cychod/carafanau presennol
(a)
Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn
ydoedd ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae
agored ar gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50.
Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail diogelwch
ffyrdd gan fod y bwriad yn gynnydd sylweddol yn y niferoedd o unedau a fwriedir
eu cadw ar y safle ac o ganlyniad y nifer o gerbydau'n tynnu carafanau fyddai
yn debygol o ddefnyddio'r ffordd gul rhwng y safle a'r A499 ym Methesda Bach.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar fryncyn agored
yng nghefn gwlad agored oddi fewn i ardal a ddiffinnir gan y ddogfen Asesiad
Capasiti a Sensitifrwydd yn ‘dirlun tonnog amaethyddol sy'n cynnwys caeau o
raddfa fechan ynghyd â phatrwm caeau anwastad ac afreolaidd sydd â golygfeydd
eang o'r tirlun ei hun’. Buasai
caniatáu’r cais cyfredol hwn yn amharu'n andwyol ar batrwm a chymeriad y tirlun
hwn.
Byddai cynyddu'r nifer o garafanau teithiol o 10 i
50 (yn ychwanegol i'r 40 cwch sydd eisoes a chaniatâd yng Nghrud y Nant) yn
gynnydd sylweddol ei effaith ar ddiogelwch ffyrdd.. Mewn ymateb i'r
ymgynghoriaeth statudol roedd yr Uned Drafnidiaeth wedi mynegi eu gwrthwynebiad
i'r cais cyfredol hwn ar sail y byddai'r bwriad yn golygu cynnydd sylweddol yn
y niferoedd o unedau y bwriedir eu storio ar y safle. Gan ystyried bod y ffordd
i’r safle yn is-safonol ar sail ei natur gul a throellog ynghyd â diffyg mannau
pasio/encilfeydd, byddai’n creu anhwylustod i ddefnyddwyr sydd yn defnyddio a
gwasanaethu'r safle ac yn tanseilio egwyddorion diogelwch da
Ystyriwyd bod safleoedd mwy addas ar gael yn lleol
ar gyfer defnydd storio (Defnydd Dosbarth B8) gydag enghraifft o gais diweddar
wedi ei ganiatáu ar gyfer storio carafanau teithiol a cherbydau oddi fewn i
Stad Ddiwydiannol Penygroes
Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail
gofynion Polisi TRA4 o'r CDLL nac yn dderbyniol ar
sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd, diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl
na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol
cynllunio perthnasol.
(b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd unigolyn ar ran yr ymgeisydd y prif
bwyntiau canlynol:
·
Bod
y safle yn saff (gyda theledu cylch cyfyng), yn hwylus ac wedi ei reoli yn dda
·
Ychydig
iawn o symudiad cerbydau oedd yn digwydd
·
Nad
oedd damweiniau ers sefydlu'r safle 12 mlynedd yn ôl
·
Mai
honiad yn unig oedd difrod i’r wal
·
Nad
oedd y busnes yn amharu dim ar gymdogion cyfagos
·
Y
byddai'r safle yn amlwg o dir uchel ond, wedi ei sgrinio yn dda gyda choed
·
Nad
oedd Cyngor Cymuned Llandwrog yn gwrthwynbu’r
cais
·
Bod
trafodaethau cychwynnol i gyfyngu cyflymder o 40mya i 30mya ar y briffordd.
(c)
Nododd
yr Aelod lleol gefnogaeth i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:
· Bod y safle yn cynnig
gwarchodaeth dda
· Bod trefniant da o
symud a rheoli'r safle
· Dim gwirionedd i’r
honiadau o ddifrod i waliau
· Bod yr ymgeisydd wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9