Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M. Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017.
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd mai cais llawn ydoedd
ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae agored ar
gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50. Amlygwyd y byddai’r
cais yma yn golygu cynyddu’r nifer o unedau storio i 90 uned (40 cwch a 50
carafán deithiol).
Ystyriwyd
nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd,
diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i
ofynion polisïau lleol a chenedlaethol cynllunio perthnasol.
Argymhellwyd
gwrthod y cais ar sail:
·
diogelwch
ffyrdd gan fod y ffordd mynediad a oedd yn gwasanaethu’r safle ynghyd â’i
gyffordd gyda’r A499 ym Methesda Bach yn is-safonol;
·
y
byddai’r bwriad yn creu nodwedd anghydnaws ac amlwg yn y tirlun;
·
y
byddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol
trigolion lleol;
·
nad oedd graddfa’r bwriad yn
dderbyniol o fewn ei osodiad gwledig.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod galw am fannau storio
carafanau a byddai’r datblygiad yn lleihau’r nifer yn cael eu storio o flaen
tai;
·
Bod yr ymgeisydd yn Gymro Cymraeg lleol;
·
Ei fod yn esiampl o sut i
redeg safle storio o’r fath a doedd dim ond clod gan drigolion;
·
Nid oedd unrhyw ddamwain wedi
bod ar y ffordd na chyffordd yr A499;
·
Bod yr ymgeisydd wedi buddsoddi yn sylweddol yn y
safle o ran golau, teledu cylch cyfyng a choed i
sgrinio’r safle;
·
Y safle wedi ei sgrinio’n dda;
·
Nad oedd trigolion wrth ymyl y
safle yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
Bod Cyngor Cymuned Llandwrog
yn gefnogol i’r cais;
·
Ni fyddai’r bwriad yn ymwthiol
a roedd y safle yn hygyrch gyda phrinder safleoedd o’r fath;
·
Bod yr ymgeisydd yn
gweithredu’n gyfreithiol tra bod safleoedd eraill wrth ymyl yn gweithredu’n
anghyfreithlon;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais gydag amodau os oedd rhaid.
(c) Cynigwyd i ganiatáu’r cais yn groes i
argymhelliad y swyddogion oherwydd ni fyddai’r bwriad yn ymwthiol, nid oedd
cofnod o ddamwain ar y ffordd ac mai mater o farn ydoedd os byddai’n weladwy
o’r safle cuddiedig. Eiliwyd y cynnig.
Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yr Uned
Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad a bod angen tystiolaeth os am fynd yn
groes i’r arbenigwr priffyrdd. Ychwanegodd er mai mater o farn ydoedd o ran yr
effaith weledol, roedd rhaid ystyried maint y safle gyda’r cais yn gofyn i
ychwanegu 40 o garafanau teithiol ar y safle oedd ond yn 2000m2 ac
mewn cefn gwlad agored.
(ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen yn lleol;
·
Nad oedd y safle yn weladwy ac nid oedd maint y
safle yn berthnasol gan ei fod yn guddiedig;
·
Nad oedd damwain wedi bod ar y ffordd;
·
Ni fyddai llawer o symudiad o’r safle;
·
Bod yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad
felly sut y gellir mynd yn groes i’r farn broffesiynol;
·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd a bod y safle yn
weladwy o uchel fannau;
·
Bod dim damwain ar y ffordd felly nid oedd
tystiolaeth o ran diogelwch ffyrdd;
·
Nid oedd y safle’n weladwy ac roedd y cais yn
cyfarch angen lleol.
(d) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Byddai’r bwriad yn
golygu cynnydd o dros 100% o ran defnydd o’r ffordd gan gael effaith sylweddol,
ni ellir ei ddiystyru;
·
Nid oedd y ffaith
nad oedd damwain ar y ffordd yn profi bod y bwriad yn dderbyniol o ran
diogelwch ffyrdd gan nad oedd yr unedau wedi eu defnyddio eto ac fe fyddai cynnydd
sylweddol o ran symudiadau mynd a dod. Roedd rhaid rhoi ystyriaeth i’r farn
broffesiynol.
Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r amodau isod:
1. Amser
2. Yn unol gyda chynlluniau diwygiedig i
ddangos safle o 40
3. 40
o unedau yn unig
4. Storio
yn unig
5. Tirweddu
Dogfennau ategol: