Agenda item

Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Eric M. Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol

(a)             Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae agored ar gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50.   

Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail diogelwch ffyrdd gan fod y bwriad yn gynnydd sylweddol yn y niferoedd o unedau a fwriedir eu cadw ar y safle ac o ganlyniad y nifer o gerbydau'n tynnu carafanau fyddai yn debygol o ddefnyddio'r ffordd gul rhwng y safle a'r A499 ym Methesda Bach.

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar fryncyn agored yng nghefn gwlad agored oddi fewn i ardal a ddiffinnir gan y ddogfen Asesiad Capasiti a Sensitifrwydd yn ‘dirlun tonnog amaethyddol sy'n cynnwys caeau o raddfa fechan ynghyd â phatrwm caeau anwastad ac afreolaidd sydd â golygfeydd eang o'r tirlun ei hun’.  Buasai caniatáu’r cais cyfredol hwn yn amharu'n andwyol ar batrwm a chymeriad y tirlun hwn.

Byddai cynyddu'r nifer o garafanau teithiol o 10 i 50 (yn ychwanegol i'r 40 cwch sydd eisoes a chaniatâd yng Nghrud y Nant) yn gynnydd sylweddol ei effaith ar ddiogelwch ffyrdd.. Mewn ymateb i'r ymgynghoriaeth statudol roedd yr Uned Drafnidiaeth wedi mynegi eu gwrthwynebiad i'r cais cyfredol hwn ar sail y byddai'r bwriad yn golygu cynnydd sylweddol yn y niferoedd o unedau y bwriedir eu storio ar y safle. Gan ystyried bod y ffordd i’r safle yn is-safonol ar sail ei natur gul a throellog ynghyd â diffyg mannau pasio/encilfeydd, byddai’n creu anhwylustod i ddefnyddwyr sydd yn defnyddio a gwasanaethu'r safle ac yn tanseilio egwyddorion diogelwch da

Ystyriwyd bod safleoedd mwy addas ar gael yn lleol ar gyfer defnydd storio (Defnydd Dosbarth B8) gydag enghraifft o gais diweddar wedi ei ganiatáu ar gyfer storio carafanau teithiol a cherbydau oddi fewn i Stad Ddiwydiannol Penygroes

Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA4 o'r CDLL nac yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd, diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol cynllunio perthnasol.

(b)          Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd unigolyn ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y safle yn saff (gyda theledu cylch cyfyng), yn hwylus ac wedi ei reoli yn dda

·         Ychydig iawn o symudiad cerbydau oedd yn digwydd

·         Nad oedd damweiniau ers sefydlu'r safle 12 mlynedd yn ôl

·         Mai honiad yn unig oedd difrod i’r wal

·         Nad oedd y busnes yn amharu dim ar gymdogion cyfagos

·         Y byddai'r safle yn amlwg o dir uchel ond, wedi ei sgrinio yn dda gyda choed

·         Nad oedd Cyngor Cymuned Llandwrog yn gwrthwynbu’r  cais

·         Bod trafodaethau cychwynnol i gyfyngu cyflymder o 40mya i 30mya ar y briffordd.

(c)          Nododd yr Aelod lleol gefnogaeth i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

·       Bod y safle yn cynnig gwarchodaeth dda

·       Bod trefniant da o symud a rheoli'r safle

·       Dim gwirionedd i’r honiadau o ddifrod i waliau

·      Bod yr ymgeisydd wedi buddsoddi yn sylweddol yn y safle ac yn gweithredu yn  gyfreithiol

·      Y safle wedi ei sgrinio yn dda

·      Y galw a’r angen am safleoedd cychod wedi gostwng, ond y galw mewn mannau storio carafanau wedi cynyddu -  yr ymgeisydd yn ymateb i’r angen

·      Bod yr ymgeisydd yn Gymro Cymraeg ac yn byw yn lleol

·      Cymdogion heb wrthwynebu ac yn barod i gadarnhau na fyddai effaith ar eifwynderau preswyl

·      Petai gwahaniaeth barn, awgrym i ymweld a’r safle neu parodrwydd i ail ystyried nifeoredd

(ch)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais yn groes i’r argymhelliad

(d)          Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·      Bod meysydd carafannanu ‘sydd yn ymwthiol o fewn cefn gwlad agored’ yn cael eu caniatau ac felly dim rheswm gwrthod egwyddor y cais yma

·      Bod y safle wedi ei liniaru yn dda – nad oedd yn weladwy o’r ffordd

·      Nad oedd tystiolaeth o ddamweiniau na risgiau wedi ei cyflwyno

·      Bod yr ymgeisydd yn rhoi a chynnal gwasanaeth yn ôl yr angen

(dd)     Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

(e)          Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y datblygiad yn eithaf sylweddol mewn cefn gwlad ac yn llawer mwy na’r hyn oedd yn cael ei gyfleu.

 

PENDERFYNWYD: Gofyn i’r Rheolwr Cynllunio drefnu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

 

 

Dogfennau ategol: