5 Cais Rhif C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli PDF 272 KB
Dymchwel tŷ
presennol a chodi tŷ newydd yn ei le.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts
Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Dymchwel
tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le.
Roedd
yr Aelodau wedi ymweld â’r safle
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio
16 Hydref 2017 lle penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn i’r aelodau ymweld â’r safle.
Eglurwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel tŷ unllawr presennol ar y safle ac adeiladu tŷ newydd
deulawr yn ei le ynghyd â gwaith cysylltiol. Dyluniad modern oedd i’r tŷ bwriededig gyda tho brig sinc a’r waliau wedi eu gorffen
gyda chyfuniad o rendr gwyn a byrddau pren a charreg.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac oddi fewn i ffin
datblygu Abersoch, gyda rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin. Ategwyd bod y safle o fewn dynodiad yr Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn.
Nodwyd bod y polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a
ddefnyddiwyd o’r blaen ar gyfer datblygiadau yn hytrach na defnyddio tir
gwyrdd.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y
materion a nodwyd yn yr adroddiad ac na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn
debygol o amharu ar fwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd nac yn cael
effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-
·
Ei fod wedi ystyried pryderon
y cymdogion
·
Bod yr addasiadau yn welliant
ac yn tacluso’r safle
·
Bod addasiad o do sinc i do
llechi yn cydymffurfio yn well gyda thai eraill yr ardal
·
Mai defnydd fel cartref fydd
i’r eiddo ac nid tŷ gwyliau;
·
Nad oedd ganddo bellach
wrthwynebiad i’r cais
(c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
(ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Bod
sylwadau yr Uned AHNE o fewn yr adroddiad yn aneglur – anodd dehongli os ydynt
o blaid y bwriad neu beidio
·
Bod Cyngor Cymuned / Tref
yn gwrthwynebu
·
Bod yr addasiadau yn
dderbyniol
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn
ddarostyngedig i'r amodau a ganlyn:
1. 5
dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.
2. Unol a chynllun diwygiedig.
3. Llechi
i’r to.
4. Tynnu
hawliau caniataol ar estyniadau i’r tŷ.
5. Cyflwyno manylion sgrin
preifatrwydd cyn meddiannu'r tŷ.
6. Cadw
/ diogelu lle troi
7. Defnyddiau
( yn cynnwys elfen carreg fel nodwedd yn y dyluniad).
8. Amodau
Dŵr Cymru.
5 Cais Rhif: C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli PDF 271 KB
Dymchwel ty presennol a chodi ty newydd yn ei le.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Dymchwel tŷ presennol a chodi
tŷ newydd yn ei le.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y tŷ bwriededig
yn cynnwys storfa gardd, cyntedd, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi ar lawr
daear, a lle byw ac ystafell bwyta / cegin gyda theras blaen ac ochr ar y llawr
cyntaf. Ceir lle parcio ar ffurf “tynnu
mewn” i’r blaen o’r eiddo. Yn dilyn
trafod y bwriad gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos y to
wedi ei orchuddio a llechi ynghyd ag asesiad llwybr cerbydol. Lleolir y safle mewn ardal breswyl oddi mewn
i ffin ddatblygu Abersoch er bod rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin.
Lleolir y safle hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymatebion
i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd trigolion lleol a derbyniwyd gohebiaeth yn
gwrthwynebu’r cais sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Tynnwyd
sylw at y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol sef:
1.
Bod
egwyddor y datblygiad yn cydymffurfio gyda meini prawf ar gyfer dymchwel ac
ail-adeiladu tŷ
2.
Mwynderau
gweledol – bod dyluniad y tŷ arfaethedig yn un cyfoes gyda ffenestri
sylweddol a theras ar y llawr cyntaf a tho brig wedi ei orchuddio ynghyd â
llechi naturiol sydd yn lleihau pryderon ynglyn â
dyluniad modern y tŷ. Er bod y
safle wedi ei leoli oddi fewn i’r AHNE, ei fod hefyd yn safle ble saif tŷ
ar hyn o bryd ger tai preswyl presennol.
Tynnwyd sylw bod y dyluniad diwygiedig, er yn fodern, o raddfa a
deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.
Bwriedir cloddio’r safle er creu tŷ deulawr a fyddai tua’r un
uchder â’r tŷ unllawr presennol. Er nad yw’n dilyn patrwm tai yn y cyffiniau
credir bod y dyluniad diwygiedig yn gweddu a chyfoethogi’r ardal leol o’i
gymharu â’r adeilad presennol. Er bod yr Uned AHNE wedi mynegi pryderon ynglyn â dyluniad y tŷ newydd, credir bod diwygio
dyluniad to y tŷ newydd yn debygol o leihau’r pryderon hyn. Ystyriwyd felly bod y bwriad fel y’i
diwygiwyd yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith
andwyol ar yr AHNE.
3. Mwynderau cyffredinol a phreswyl – Derbyniwyd 3 llythyr o wrthwynebiad ar sail dyluniad, effaith ar yr AHNE, effaith y bwriad ar derfyn y safle, effaith ar ddraen dŵr aflan a diogelwch ffyrdd. Er bod y tŷ yn fwy na’r un presennol mae’r dyluniad fel bod y ffenestri ac agoriadau yn edrych dros y ffordd sirol a thir amaethyddol. O safbwynt traffig a sŵn yn deillio o’r bwriad, ni ystyrir y byddai’r tŷ arfaethedig yn ychwanegu yn sylweddol ar y sefyllfa bresennol nac yn achosi niwed i’r gymdogaeth leol. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cydnabod y bydd angen diogelu draen dŵr aflan cymydog yn ystod gwaith adeiladu ynghyd â thrafod y mater gyda Dŵr Cymru pe caniateir y cais. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5