skip to main content

Agenda item

Dymchwel ty presennol a chodi ty newydd yn ei le.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le.

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y tŷ bwriededig yn cynnwys storfa gardd, cyntedd, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi ar lawr daear, a lle byw ac ystafell bwyta / cegin gyda theras blaen ac ochr ar y llawr cyntaf.  Ceir lle parcio ar ffurf “tynnu mewn” i’r blaen o’r eiddo.  Yn dilyn trafod y bwriad gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos y to wedi ei orchuddio a llechi ynghyd ag asesiad llwybr cerbydol.   Lleolir y safle mewn ardal breswyl oddi mewn i ffin ddatblygu Abersoch er bod rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin. Lleolir y safle hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

 

Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd trigolion lleol a derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu’r cais sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

           

            Tynnwyd sylw at y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol sef:

 

1.    Bod egwyddor y datblygiad yn cydymffurfio gyda meini prawf ar gyfer dymchwel ac ail-adeiladu tŷ

2.    Mwynderau gweledol – bod dyluniad y tŷ arfaethedig yn un cyfoes gyda ffenestri sylweddol a theras ar y llawr cyntaf a tho brig wedi ei orchuddio ynghyd â llechi naturiol sydd yn lleihau pryderon ynglyn â dyluniad modern y tŷ.  Er bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i’r AHNE, ei fod hefyd yn safle ble saif tŷ ar hyn o bryd ger tai preswyl presennol.  Tynnwyd sylw bod y dyluniad diwygiedig, er yn fodern, o raddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.  Bwriedir cloddio’r safle er creu tŷ deulawr a fyddai tua’r un uchder â’r tŷ unllawr presennol.  Er nad yw’n dilyn patrwm tai yn y cyffiniau credir bod y dyluniad diwygiedig yn gweddu a chyfoethogi’r ardal leol o’i gymharu â’r adeilad presennol. Er bod yr Uned AHNE wedi mynegi pryderon ynglyn â dyluniad y tŷ newydd, credir bod diwygio dyluniad to y tŷ newydd yn debygol o leihau’r pryderon hyn.   Ystyriwyd felly bod y bwriad fel y’i diwygiwyd yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr AHNE.

3.    Mwynderau cyffredinol a phreswyl – Derbyniwyd 3 llythyr o wrthwynebiad ar sail dyluniad, effaith ar yr AHNE, effaith y bwriad ar derfyn y safle, effaith ar ddraen dŵr aflan a diogelwch ffyrdd.  Er bod y tŷ yn fwy na’r un presennol mae’r dyluniad fel bod y ffenestri  ac agoriadau yn edrych dros y ffordd sirol a thir amaethyddol.  O safbwynt traffig a sŵn yn deillio o’r bwriad, ni ystyrir y byddai’r tŷ arfaethedig yn ychwanegu yn sylweddol ar y sefyllfa bresennol nac yn achosi niwed i’r gymdogaeth leol.  Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cydnabod y bydd angen diogelu draen dŵr aflan cymydog yn ystod gwaith adeiladu ynghyd â thrafod y mater gyda Dŵr Cymru pe caniateir y cais.  Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol.

4.    Materion Trafnidiaeth a mynediad – Ceir mynediad i’r eiddo presennol yn uniongyrchol oddi ar ffordd sirol ble mae lle parcio ar ffurf “tynnu mewn”.  Yn dilyn cais gan yr Uned Trafnidiaeth am fwy o wybodaeth ynglyn â threfniant parcio a throi o fewn y cwrtil derbyniwyd gwybodaeth pellach a oedd yn dderbyniol ac yn welliant i’r trefniant presennol.

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r holl faterion cynllunio perthnasol ynghyd â’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

(b)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygodd Aelodau unigol y pwyntiau canlynol:

 

·         Bod dyletswydd ar y Pwyllgor Cynllunio i roi ystyriaeth i sylwadau’r Swyddog AHNE  oherwydd bod datblygiadau o’r fath yn cael effaith gronnol ar edrychiad yr AHNE a theimlai un Aelod na allai gefnogi’r cais oherwydd y rheswm hwn

·         bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r datblygiad

·         a fyddai’r tŷ arfaethedig o fewn cyrraedd pobl leol

·         ymddengys bod llawer iawn o geisiadau yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer dymchwel tai a’u hail-adeiladu yn Abersoch a gofynnwyd a fyddai modd ystyried canllawiau atodol a / neu ystyried y polisi pan fydd adolygiad

 

 

   (ch)Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio

 

·      mai tŷ marchnad agored ydoedd testun y cais a oedd yn cael ei ddisodli gan dy marchnad agored newydd ac nad oedd tai fforddiadwy yn berthnasol yn y cyswllt hwn

·      bod y polisïau yn rhai cyfredol ac yn gyfreithiol ni ellir newid y polisi i gyfyngu defnydd y tŷ newydd.  Gellir monitro ceisiadau o’r math yma yng Ngwynedd a Môn i’r dyfodol

·      bod y datblygiad arfaethedig o fewn y ffin datblygu gyda’r egwyddor o ddymchwel a chodi tŷ arall yn ei le yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol

·      yn yr un modd rhaid i’r Pwyllgor Cynllunio roi ystyriaeth lawn i gynnwys yr adroddiad gerbron gan swyddogion proffesiynol sydd wedi rhoi ystyriaeth lawn i sylwadau ynglyn â’r AHNE

 

          Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu’r cais:

              

O blaid y cynnig i ganiatáu’r cais (5):  Y Cynghorwyr Louise Hughes, Eric Jones, Dilwyn Lloyd, Edgar Owen, Catrin Wager

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatáu’r cais (5):  Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Huw Gruffydd Wyn Jones, Eirwyn Williams, Gruffydd Williams, Owain Williams

 

         Atal (1): Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

Ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd gwrthodwyd y cais yn seiliedig ar osodiad yr AHNE a’r effaith gronnol y caiff datblygiad o’r fath ar welediad yr AHNE.

 

Mewn ymateb i’r uchod, tynnodd y Rheolwr Cynllunio sylw at y dyluniad diwygiedig mewn defnydd to llechi yn hytrach na tho sinc a bod hyn yn faterol i’r Pwyllgor wrth ystyried y cais.  Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ymhellach nad oedd modd ei wrthod  o ran egwyddor ac mai’r prif fater dan sylw ydoedd dyluniad y arfaethedig.  Awgrymwyd yn gadarn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad i’w wrthod ac o ganlyniad yr ymgeisydd yn mynd i apêl a’r Cyngor yn wynebu costau. 

 

          Cynigwyd ac eilwyd gwelliant i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.           

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Rheolwr Cynllunio drefnu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

 

Dogfennau ategol: