Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n nol i godi wyth ty fforddiadwy (un par a dau teras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i'r ystad a gerddi i'r tai unigol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones
Cofnod:
Cais amlinellol gyda rhai materion
wedi’u cadw’n nôl i godi wyth tŷ fforddiadwy (un pâr a dau teras o dri)
ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i’r ystâd a gerddi
i’r tai unigol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais, gan nodi bod y cais ar safle sy’n ymylu ar ffin ddatblygu Pentref Lleol
Brynrefail ac yn golygu addasu’r fynedfa bresennol, creu ffordd stad newydd a
gosod 8 tŷ ar ffurf hanner cylch.
Tynnwyd sylw mai cais amlinellol ac mai dangosol yn unig ydoedd y
manylion ar y cynlluniau. Defnyddiwyd y
safle fel iard loriau yn y 1980au ond daeth i ben yn 1985 ac oherwydd ei
ddefnydd blaenorol fe ystyrir yn safle tir llwyd.
Cyfeirwyd at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd
â’r sylwadau pellach a dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Llanddeiniolen fel a
nodwyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol
a oedd yn datgan cefnogaeth i’r cais a dim gwrthwynebiad.
O safbwynt egwyddor y datblygiad, noda
Uned Strategol Tai’r Cyngor bod darparu 8 tŷ fforddiadwy yn cyfarch
anghenion yn yr ardal. Nodwyd bod
datganiad Cynllunio a Chartrefi Fforddiadwy yn cadarnhau y bydd dyluniad a
gosodiad mewnol dangosol y tai yn cwrdd ag anghenion ac felly y gellid
trosglwyddo’r tai i gymdeithas dai.
Derbyniwyd copi o lythyr gan Grwp Cynefin yn dangos parodrwydd mewn
egwyddor i ddatblygu tai ar y safle.
Tynnwyd sylw at baragraffau 5.7 – 5.11
yn yr adroddiad a oedd yn nodi bod materion mwynderau a thrafnidiaeth yn
dderbyniol. O safbwynt materion
bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol drwy osod amodau
priodol. Nodwyd nad oedd y safle o fewn
Parth Llifogydd C ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan Dwr Cymru, Cyfoeth
Naturiol Cymru na Uned Draenio’r Cyngor.
Yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl faterion
cynllunio a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus argymhellwyd i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i ymrwymiad cyfreithiol priodol yn ymwneud â
sicrhau bod yr 8 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac
amodau cynllunio perthnasol. Ond
gofynnwyd am ddiwygio amod 8 a restrwyd yn yr adroddiad i ddarllen “bod y datblygwr
yn cario allan y datblygiad yn unol a’r asesiad
a gyflwynwyd gan yr asiant er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud
yn briodol o safbwynt llygredd”.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant
yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol i
leddfu rhai o’r pryderon:
1.
Llysiau’r
dial – bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol o’r broblem ac o ganlynaid wedi cyflogi
contractwr cymwys i drin y rhywogaeth ac wedi cychwyn y drinaeth ers Awst
diwethaf a’i fod yn gyfyngedig i rannau o’r safle. Byddai’r ymgeiswyr yn barod
i drafod sut i waredu’r gweddill yn unol ag amod 6 yn yr adroddiad.
2.
Angen
digonol o dai fforddiadwy – targed Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy
ydoedd 20,000 erbyn 2021. Ni adeiladwyd
tŷ cymdeithasol newydd yn Brynrefail ers o leiaf 30 mlynedd a dim ond 9
tŷ cymdeithasol cyffredinol allan o 190 sydd yn weddill. Bod taer angen cymysgedd o dai cymdeithasol y
gall bobl fyw ynddynt gyda Tai Teg wedi nodi bod 28 teulu wedi dangos diddordeb
mewn byw ym Mrynrefail. Bod y cynnig yn
cwrdd â’r angen lleol a bod cytundeb gyda Grwp Cynefin iddynt brynu rhai o’r
plotiau er mwyn eu datblygu fel tai rhent fforddiadwy
3.
Dŵr
wyneb a llifogydd – nad oedd yr ardal ym Mharth Llifogydd C ac fe fyddai’r
mater o reoli dŵr wyneb yn un i’w drafod yn unol ag amod Dŵr
Cymru
4.
Risg
o dir llygredig - sicrhawyd bod asesiad
pen desg eisoes wedi ei gyflawni ac yn nodi bod y safle yn ffafriol i’w
ddatblygu ond bod yr ymgeiswyr yn barod i archwiliad mwy manwl i weld os oedd
llygredd daear yn bodoli ai peidio
5.
Mynediad
– er nad yn fater cynllunio, bod gan yr ymgeiswyr hawliau priodol i gael
mynediad i’r safle ar gyfer y bwriad dan sylw sydd yn cydymffurfio â gofynion
rheolaeth ffyrdd
6.
Bod
y bwriad yn dderbyniol o ran gofynion a’r ymgeiswyr wedi gweithio’n galed i
sicrhau bod y cynnig yn cyfarfod yr angen am dai fforddiadwy ac yn dderbyniol o
safbwynt mwynderau cymdogion, mynediad, yr amgylchedd ac isadeiledd
(c)
Nododd
yr Aelod Lleol tra wedi ystyried y cais gydag meddwl agored, teimlai bod y cais
yn uchelgeisiol o ystyried bod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn argymell 9
tŷ ar gyfer Rhiwlas ac 8 tŷ ar gyfer
Penisarwaun gyda’r cais gerbron yn gais am 8 tŷ a oedd tu allan i
ffin Brynrefail ac yn bentref llawer
llai.
Barn gwreiddiol y Cyngor Cymuned ydoedd gwrthwynebu
oherwydd nad oedd cynrychiolydd o
Brynrefail ar y Cyngor Cymuned.
Yn dilyn trafodaeth gyda thrigolion Brynrefail
roeddynt yn gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y datblygiad yn rhy fawr i’r
pentref. Yn ogystal, mynegwyd bryder am
barcio yn y pentref ac y byddai’r datblygiad yn cynnyddu’r broblem
trafnidiaeth. Gwelwyd yn ddiweddar
ormodedd o geir wedi parcio ar y stryd a hyd yn oed ceir wedi parcio tu allan
i’r cae chwarae ac oherwydd diffyg palmant y plant yn gorfod cerdded wrth ymyl
y llinell wen ynghanol y ffordd i ac o’r cae chwarae.
Nodwyd ymhellach bod problem llysiau’r dial yn
parhau i fodoli, ac er bo trigolion Brynrefail yn cytuno bod y safle yn ddolur
llygaid roeddynt o’r farn bod y datblygiad yn rhy fawr.
(ch) Cynigiwyd ac eilwyd i’w ganiatáu.
(d) Cynigwyd, eilwyd a phleidleiswyd ar welliant i
ymweld â’r safle ac fe gariwyd y bleidlais.
(dd) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Ei bod
yn bwysig i wrando ar farn yr Aelod Lleol a phwysigrwydd i fynd i ymweld â’r
safle o ystyried y gwrthwynebiad lleol
·
Gofynnwyd
a fyddai’r ymgeiswyr yn cyfrannu tuag at offer chwarae i blant y pentref yn
unol â hawliau plant i chwarae yn ddiogel
·
Dylai
llwybr diogel arwain i’r cae chwarae
·
Gofynnwyd
a oedd y cynllun yn cynnwys mannau parcio digonol ar gyfer y datblygiad
(e) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr
Cynllunio a’r Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth:
·
Nad
oedd maint y datblygiad yn cyrraedd y trothwy o’r angen i wneud cyfraniad
ariannol ar gyfer offer chwarae a bod y cae chwarae dan sylw yn agos i’r safle
ac o fewn pellter cerdded
·
Bod
mannau parcio digonol ar y cynllun ac y byddir yn rhoi amod i sicrhau nifer
priodol i gydfynd â’r nifer o dai sydd yn rhan o’r datblygiad
·
Ni
chredir y byddai’r datblygiad yn gwaethygu problemau parcio presennol ar y
stryd
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Rheolwr Cynllunio drefnu i’r Pwyllgor Cynllunio fynd i ymweld â’r safle.
Dogfennau ategol: