Agenda item

Cais llawn i ddiwygio gosodiad allan maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog (8 wedi eu adleoli o fewn y safle) i gymeryd lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a gwellianau amgylcheddol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elwyn Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais llawn i ddiwygio gosodiad maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog  (8 wedi eu hadleoli o fewn y safle) i gymryd lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a gwelliannau amgylcheddol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâd yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer 70 o garafanau sefydlog, a 35 o garafanau teithiol a bod y carafanau teithiol a’r carafanau sefydlog wedi eu lleoli ar ddau gae gwahanol o fewn y safle, ni fyddai’r cais hwn yn golygu ymestyn ffiniau’r safle. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn dyffryn cul naturiol, gyda choed a gwrychoedd aeddfed ar hyd y terfynau.

 

         Nodwyd yr ystyrir bod cynnydd o 10% yn yr unedau statig yn dderbyniol. Yn ogystal ystyrir amnewid 35 uned deithiol gyda 15 uned statig ychwanegol yn welliant i’r safle penodol yma; gan y byddai’n golygu llai o lif traffig cyffredinol ar hyd y ffyrdd cefn cul a oedd yn arwain i’r safle. Tynnwyd sylw na fyddai’r bwriad yn achosi effaith weledol ychwanegol, a byddai safon y ddarpariaeth a gynigir yn welliant mawr.

 

Nodwyd y byddai’r bwriad yn gwella gosodiad y safle gan ei wneud yn fwy trefnus ac atyniadol o gymharu â’i ffurf bresennol oedd yn fwy cyfyng a dwys, yn ogystal ystyrir y byddai’r gwaith tirlunio a phlannu a fwriedir yn welliant sylweddol i’r sefyllfa bresennol.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y byddai’r bwriad yn golygu gwella mwynderau a lleihau dwysedd y safle.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio bod yr amodRhaid cyflwyno manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth, a gweithredu’r cynllun o fewn amserlen benodolyn unol â’r amod a argymhellwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.      5 mlynedd i gychwyn y datblygiad;

2.      Unol a’r cynlluniau a ganiatawyd;

3.      Defnydd gwyliau yn unig

4.      Cyfyngu nifer y carafanau sefydlog ar y safle i 92 yn unig, dim carafanau teithiol;

5.      Rhaid cyflwyno manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth, a gweithredu’r cynllun o fewn amserlen benodol;

6.      Cynllun tirweddu a phlannu i’w weithredu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r datblygiad neu cyn y meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y caniatâd hwn (p’run bynnag ddaw gyntaf);

7.      Cyflwyno manylion ar gyfer y man chwarae o fewn mis o gychwyn gwaith, a’i gwblhau cyn y meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y caniatâd hwn;

8.      Y datblygiad i gael ei ymgymryd ag ef yn gaeth unol a’r mesurau ac argymhellion yr adroddiad ecolegol a gyflwynwyd;

9.      Lliwiau'r carafanau sefydlog i’w cytuno yn ysgrifenedig cyn eu gosod ar safle.

Dogfennau ategol: