Cais amlinellol i godi tŷ fforddiadwy
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais amlinellol i godi tŷ fforddiadwy.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle
cyn y cyfarfod.
Tynnwyd sylw y derbyniwyd llythyr gan berchennog
dŷ cyfochrog
yn datgan pryder cryf ynglŷn
ag effaith y bwriad ar eiddo cyfochrog
ers cyhoeddi’r rhaglen.
Mynegwyd
pryder sylweddol ynglŷn â’r datblygiad, ystyriwyd bod y bwriad yn or-ddatblygiad
o’r safle cyfyng ac ni ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd Polisi B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) oherwydd y byddai’n achosi niwed arwyddocaol
i fwynderau’r gymdogaeth leol, yn or-ddatblygiad o safle cyfyng ac yn lleihau gofod
amwynder y ddau dŷ presennol drwy ddefnyddio'r ardd fel llain
ar gyfer y tŷ bwriadedig. Pwysleisiwyd nad
oedd y ffaith mai’r ymgeisydd oedd yn berchen
dau o’r tai cyfagos, yn goresgyn
pryderon am or-ddatblygu’r safle cyfyng.
Tynnwyd sylw y gwrthodwyd cais blaenorol am yr un datblygiad
dan hawliau dirprwyedig. Nodwyd nad oedd
y bwriad cyfredol yn lleihau'r pryderon
cynllunio sylweddol ynglŷn â’r bwriad ac fe argymhellwyd
i wrthod y cais.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
·
Bod y safle o fewn ffin
datblygu’r pentref;
·
Byddai’r datblygiad yn
galluogi person ifanc lleol i aros yn ei gynefin;
·
Bod y gymdogaeth o blaid y
datblygiad;
·
Bod ceisiadau cynllunio am dai
mewn gerddi o faint tebyg wedi eu caniatáu;
·
Bod yr ymgeisydd yn barod i
drafod efo’r Gwasanaeth Cynllunio o ran maint ac uchder y tŷ.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, eglurodd y Rheolwr Cynllunio er mai
cais amlinellol ydoedd roedd rhaid i’r ymgeisydd nodi uchafswm a lleiafswm o
ran mesuriadau ac nid oedd yn bosib negodi ar y mesuriadau wedi i ganiatâd
amlinellol gael ei roi.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Y byddai’r bwriad yn arwain
at ymwthiad gormesol a niweidiol i fwynderau
trigolion eiddo preifat cyfagos;
·
Dim ond un unigolyn oedd wedi
gwrthwynebu’r bwriad;
·
Dylid croesawu’r bwriad, angen tai i bobl
leol gyda phobl ifanc yn
gadael yr ardal;
·
Bod yr ymgeisydd yn barod
i drafod efo’r Gwasanaeth Cynllunio o ran maint ac uchder y tŷ. Dylid caniatáu’r cais ac yna cynnal
trafodaeth.
(ch) Cynigwyd gwelliant i ohirio’r
cais er mwyn
cynnal trafodaeth bellach efo’r ymgeisydd
o ran maint ac uchder y tŷ.
Nododd y Rheolwr Cynllunio na
fyddai lleihau maint y tŷ yn goresgyn pryderon
o ran gor-ddatblygiad oherwydd
o ganlyniad i leihau’r maint, byddai’n debygol y byddai uchder y tŷ yn gorfod
cynyddu gan wneud yr adeilad
yn fwy gormesol.
Eiliwyd y
gwelliant.
Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio er bod y safle o fewn y ffin datblygu roedd
y lleoliad yn cyfyngu'r hyn a
ellir datblygu ar y safle. Nododd
na fyddai
cwtogi’r maint yn goroesi’r rhesymau
gwrthod.
Nododd aelod er ei bod yn
cydymdeimlo efo’r Aelod Lleol ni allai gefnogi’r cais gan y byddai’n or-ddatblygiad ac fe fyddai mwy o le parcio nag ardal hamdden ar y safle.
‘Roedd rhaid cofio y byddai’r datblygiad ar y safle am byth, nid yn unig
i ymateb i anghenion y perchennog
presennol.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant
i ohirio, syrthiodd y gwelliant.
(d) Mewn
ymateb i sylw gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio na fyddai
man addasiadau yn goresgyn pryderon.
Nododd
aelod bod y safle yn rhy fach ar gyfer tŷ o faint rhesymol, er ei bod
eisiau cefnogi pobl leol roeddent yn haeddu tŷ o safon. Ychwanegodd y
byddai’r bwriad yn niweidiol i safon byw cymdogion a’r ymgeisydd.
(dd)
Yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i wrthod y cais:
O blaid y cynnig i wrthod y
cais (6): Y Cynghorwyr Gwen Griffith, Anne
Lloyd Jones, June Marshall, Michael Sol Owen, W. Tudor Owen a John Wyn
Williams.
Yn erbyn y cynnig i wrthod y cais (5): Y Cynghorwyr Simon Glyn, Eric M. Jones,
John Pughe Roberts, Eirwyn Williams ac Owain Williams.
Atal, (0)
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm:
Byddai’r tŷ, oherwydd ei faint a lleoliad yn arwain at ymwthiad gormesol a niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos, yn enwedig oherwydd yr effeithiau dominyddol a gor-edrych a fyddai'n deillio ohono. Mae'r cais felly'n groes i bolisïau B23 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac yn tanseilio polisi PCYFF 1 CDLL.
Dogfennau ategol: