Agenda item

Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL).

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Aled Ll. Evans

Cofnod:

Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a  wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL)

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod  y cais wedi ei ohirio  yn y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6 Gorffennaf 2015 ar gais yr Aelod Lleol.

 

         Nodwyd mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn modurdy presennol yn Llety Plu, Llangybi. Mae’r modurdy sengl presennol yn mesur oddeutu 6.3m o hyd ac oddeutu 5.1m o led (32m²) ac wedi ei leoli yng nghornel cwrtil yr eiddo. Mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad yn manylu mai’r rheswm dros yr estyniad fyddai ar gyfer darparu mwy o le i gadw offer a pheiriannau sy’n rhan o hobi casglu’r perchennog. Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roddi i ymestyn y modurdy, sef cais C13/0162/41/LL, oedd hefyd yn cynnwys ehangu cwrtil y safle. Mae’r cwrtil eisoes wedi ei ehangu ond nid yw’r estyniad wedi ei gychwyn. Mae’r estyniad arfaethedig yn wahanol yn yr ystyr ei fod yn lletach na’r modurdy presennol i gyfeiriad y llwybr cyhoeddus.

 

         Nodwyd bod y cais hwn yn ail gyflwyniad o gais C15/0012/41/LL oedd ar gyfer estyniad ychwanegol oedd ychydig mwy na’r cais hwn sydd gerbron ac roedd yn gofyn am 32 m² o arwynebedd llawr ychwanegol (fyddai wedi golygu cyfanswm o 94m² o arwynebedd llawr i’r modurdy cyfan). Fe wrthodwyd y cais yma ym mis Ionawr eleni am dri rheswm: Gor-ddatblygiad o’r safle; Niweidiol i’r Ardal Gadwraeth; Effaith ar Lwybr Cyhoeddus Rhif 6 Llanystumdwy.       

 

         Tynnwyd sylw at Polisi B24 y Cynllun Datblygu Unedol sydd yn argymell caniatáu ymestyn adeiladau o fewn ffiniau datblygu, pentrefi gweledig a chefn gwlad dim ond bod y cynnig yn cwrdd â’r ddau faen prawf isod:

 

·         Bod y dyluniad a’r raddfa’n gweddu i’r prif adeilad a’r ardal leol,

·         Na fydd yr estyniad yn arwain at leihad annerbyniol mewn lle gwag amwynderol o fewn cwrtil y tŷ

 

         Sylweddolwyd fod caniatâd eisoes wedi ei roddi am estyniad i’r modurdy, ond amlygwyd  pryder sylweddol am faint a graddfa’r estyniad arfaethedig o gofio mai adeilad atodol ydoedd. Ystyriwyd bod yr estyniad arfaethedig i’r modurdy yn or-ddatblygiad o ran graddfa, maint a ffurf o’i gymharu â’r prif adeilad ac yn debygol o gael effaith ar osodiad yr ardal gadwraeth a'i fod yn groes i bolisïau B4, B22 a B24 CDUG.

 

(a)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod disgrifio'r datblygiad  fel ‘gor-ddatblygiad ‘estron’ yn mynd braidd dros ben llestri

·         Bod arwynebedd y tŷ yn ddigonol i dderbyn maint yr estyniad i’r modurdy

·         Nad oedd gwrthwynebiad wedi dod i law gan gymdogion

·         Y cwrtil eisoes wedi ei ymestyn

·         Pwrpas yr adeilad yw darparu mwy o le i’r ymgeisydd gadw offer a hen beiriannau

·         Anghydweld gyda’r effaith ar fwynderau gweledol - y datblygiad yn cydymffurfio â nodweddion yr ardal ac felly nid yw yn amharu ar fwynderau gweledol

·         Cynnig bod y Pwyllgor Cynllunio yn ymweld â’r safle cyn penderfynu.

 

         Cynigwyd a eiliwyd i gynnal ymweliad safle

 

PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle ar ddyddiad nesaf Pwyllgor Cynllunio (Pwllheli).

Dogfennau ategol: