Agenda item

Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd â mynedfa newydd.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Elfed Wyn Williams

Cofnod:

Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd â mynedfa newydd.

 

(a)      Ymhelaethodd y Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais cnoi cil wedi ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio ar 27.07.15 gydag argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r bwriad gan fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth oedd yn ymateb i bryderon y Pwyllgor Cynllunio ar sail gor-ddatblygu a diffyg darpariaeth llecyn chwarae yn dilyn cyflwyno’r cais cynllunio gwreiddiol i Bwyllgor yn ôl ym Mawrth, 2015. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn cadarnhau bod y Datganiad Ieithyddol a Chymunedol wedi ei dderbyn a’i asesu’n briodol gan yr Uned Polisi ar y Cyd. Cadarnheir fod Datganiad wedi ei dderbyn a’i asesu’n briodol gan yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd a bod hyn wedi ei gynnwys fel rhan o’r adroddiad a gyflwynwyd yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ar 02.03.15.

 

Nodwyd mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi 17 o dai deulawr gan gynnwys 2 dy fforddiadwy ar safle sydd i’r de-orllewin o Ddeiniolen/Clwt y Bont ar lecyn o dir llwyd sydd wedi ei gynnwys oddi fewn i ffin datblygu’r pentref.  Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys creu agoriad cerbydol i’r ffordd sirol dosbarth III gyfochrog. Eglurwyd bod cais blaenorol am 17 o dai (gan gynnwys 2 dy fforddiadwy) wedi ei ganiatáu yng Ngorffennaf, 2010 gyda chytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau fod 2 dy allan o’r 17 yn dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd cais materion a gadwyd yn ôl o fewn y cyfnod statudol ac mae’r caniatâd bellach wedi rhedeg allan.


Mewn ymateb i’r pryderon a amlygwyd gan y Pwyllgor ynglŷn â gor-ddatblygu a darparu llecyn chwarae cyflwynwyd gwybodaeth ychwanegol llawn yn yr adroddiad. Yn gryno, o ran gor-ddatblygu - nid oes cynnydd yn y nifer o dai a fwriedir yn y cais diweddaraf hwn o’i gymharu â’r cais a ganiatawyd yn flaenorol  yn 2010 ac mae yn dderbyniol o ran argymhelliad dwysedd i bob hectar. O ran darparu llecyn chwarae, nodwyd bod llecyn chwarae bellach wedi ei gynnwys yn y cynllun - ategwyd bod pob tŷ gyda gardd breifat a bod llecynnau chwarae ychwanegol wedi ei lleoli yn y pentref.

Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr ar risgiau tebygol fyddai i’r Cyngor o wrthod y cais (wedi eu rhestru yn glir yn yr adroddiad)  ynghyd a’r ddau opsiwn oedd gan y Pwyllgor:

 

1.   Gwrthod y cais ar sail gor-ddatblygiad o’r safle yn nhermau dwysedd adeiladu. Byddai gwrthod y cais am 17 o dai ar y safle hwn (sy’n gyfystyr a dwysedd adeiladu o 24 tŷ yr hectar mewn cymhariaeth a’r dwysedd o 30 uned yr hectar sy’n cael ei awgrymu gan y Cynllun Datblygu Unedol ac yn genedlaethol) ar sail gor-ddatblygu yn rheswm gwrthod fyddai’n anodd iawn i’w gyfiawnhau yn enwedig o ystyried fod y safle wedi ei leoli tu mewn i’r ffin datblygu, ar dir a ddatblygwyd o’r blaen, ac sydd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio yn 2010 am 17 o dai. Byddai gwrthod am y rheswm yma yn creu risg sylweddol i’r Cyngor ac yn creu risg sylweddol a gwirioneddol o gostau yn erbyn y Cyngor pe bai’r cais yn mynd i  apêl.

 

2.   Gwrthod y cais ar sail gor-ddatblygiad a fyddai’n cael effaith ar fwynderau cyffredinol yr ardal. Mewn ymateb i’r rheswm gwrthod yma credir na fyddai’r bwriad fel y’i cyflwynwyd am 17 o dai  yn cael effaith andwyol ar fwynderau cyffredinol (gan gynnwys mwynderau preswyl ynghyd a mwynderau gweledol) gan gymryd i ystyriaeth lleoliad a gosodiad y tai a’u dwysedd mewn perthynas â’r adeiladwaith cyfagos ynghyd a chymryd i ystyriaeth defnydd diwydiannol blaenorol y safle a’i gyflwr blêr presennol. Buasai yna dal risg gwirioneddol o gostau yn erbyn y Cyngor pe bai’r cais yn mynd i  apêl. 

 

Argymhellwyd y dylid dirprwyo’r hawl i’r Uwch Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb cyfreithiol 106 yn ymwneud â sicrhau bod 2 o’r 17 tŷ a fwriedir yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac yn unol â’r amodau

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn  gwrthwynebu’r cais

·         Anghydweld gyda’r asesiad iaith - nid oedd yn cydweld bod y sylw ‘bod yr asesiad iaith flaenorol’ yn ddigonol. Hyn yn codi cwestiwn, a oes ail asesiad wedi ei gyflwyno?

·         Y bwriad yn edrych allan o le ar gyrion  pentref, ynghanol unedau unigol  - yr effaith yn annerbyniol

·         Cydnabod bod risgiau i’r Cyngor, ond hefyd rhaid rhoi ystyriaeth i risgiau i bentref Deiniolen a Gwynedd o safbwynt adeiladu tai diangen

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais ynghyd â chais am bleidlais gofrestredig

 

(c)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·           Bod y datblygiad yn or-ddatblygiad fydd yn creu effaith andwyol ar gymuned Deiniolen ynghyd â gwasgedd ar yr Iaith Gymraeg.

·           Rhaid gwarchod cymunedau cefn gwlad a gwarchod yr Iaith Gymraeg. Nid yw datblygu tai yn gyfystyr a datblygu cymuned

·           A oes angen tai yn Deiniolen?

·           Rhaid rhoi sylw i sylwadau’r Aelod Lleol

·           Siomedig dros y nifer o dai fforddiadwy fydd yn rhan o’r datblygiad - 5 mlynedd wedi mynd heibio ers yr asesiad cychwynnol - ydy dau dŷ fforddiadwy yn parhau yn dderbyniol a’r gwariant yn parhau yn gywir?

·           Hapus gweld 4 tŷ Fforddiadwy ac nid 2

·           Angen codi'r math cywir o dŷ ynghyd a’r nifer cywir o dai

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Bod rhaid asesu y wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno. Y materion mwyaf oedd yn ymwneud a’r safle oedd materion draenio tir ac felly y safle yn un anodd i’w ddatblygu. O’r ffigyrau gwerthu sydd wedi’u cyflwyno byddai’r tai yn debygol o fod yn fforddiadwy beth bynnag.

          

(d)   Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:

           

O blaid y cynnig i ganiatáu y cais, (5) Y Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, June Marshall, Michael Sol Owen a John Wyn Williams

 

         Atal (2) Y Cynghorwyr: Dyfrig Wynn Jones, John Pughe Roberts

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatáu y cais, (4) Y Cynghorwyr: Tudor Owen, Eirwyn Williams, Owain Williams ac Eurig Wyn.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb cyfreithiol 106 yn ymwneud â sicrhau bod 2 o’r 17 a fwriedir yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac yn unol â’r amodau canlynol:-

 

1.    Amodau safonol parthed amser dechrau’r gwaith/derbyn manylion a gadwyd yn ôl.

2.     Llechi naturiol.

3.    Amodau CNC.

4.    Amod archwiliad desg i asesu risg llygredd (ac unrhyw waith fydd ei angen).

5.    Amodau Priffyrdd.

6.    Amodau Dwr Cymru.

7.    Tynnu hawliau datblygu a ganiateir ar yr unedau fforddiadwy

Dogfennau ategol: