Agenda item

Cais llawn i godi 5 tŷ preswyl deulawr, ynghyd ac addasu mynedfa a ffordd gerbydol bresennol, darparu llecynnau parcio a thirlunio

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Eric M. Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Oherwydd bod y Cadeirydd yn datgan diddordeb yn y cais hwn ac yn absenoldeb yr Is-gadeirydd o’r cyfarfod, cynigwyd ac eilwyd i’r Cynghorydd Gwen Griffith gymryd y gadair, ac fe adawodd y Cadeirydd y Siambr yn ystod y drafodaeth.

 

Cais llawn i godi 5 ty preswyl deulawr, ynghyd ac addasu mynedfa a ffordd gerbydol bresennol, darparu llecynnau parcio a thirlunio.

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r prif elfennau sy’n berthnasol i’r cais.  Esboniwyd mai cais llawn oedd gerbron i godi 5 preswyl deulawr gyda newidiadau i fynedfa a ffordd stad bresennol ac wedi ei gyflwyno ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd yn darparu’r tai mewn ymateb i alw yn lleol am dai 2 lofft.

 

Byddai’r tai o ran maint, yn mesur cyfanswm o 79m² fesul uned ac wedi eu gosod fel dau set o dai pâr ag un ty ar ben ei hun. Mae gerddi ffurfiol yn cael eu darparu gyda llecynnau parcio. Yn ogystal, fe welir fod rhan o’r ffordd stad a’r fynedfa bresennol yn cael ei addasu yn bennaf trwy ei lledu. Nodwyd y byddai llecynnau parcio ar wahân i’r tai arfaethedig yn cael eu darparu ar ran o’r safle ar gyfer trigolion presennol Y Garreg a’u hymwelwyr.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor oherwydd  bod y nifer o dai a fwriedir yn fwy na’r hyn a ellir ei benderfynu o dan y drefn dirprwyedig.  Nodwyd bod y  safle yma oddi mewn i ffin datblygu pentref Y Groeslon ag yn dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes. Ar sail hyn yn unig, credir fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Cydnabuwyd bod pryderon wedi eu hamlygu ynglŷn â’r cais yma a rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a gyflwynwyd.

 

Nodwyd bod y cynnig yma yn cael ei gyflwyno ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar gyfer diwallu angen lleol am dai, rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a bod y cynnig yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau sefydledig. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau fel y nodir.

 

(b)  Nododd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei fod yn gefnogol i’r cais am y rhesymau canlynol:

 

·         bod tai’n bodoli ar y safle’n barod ac yn addas ar gyfer tai

·         bod galw am y math yma o dai yn lleol

 

ond mynegodd bryder a oedd y garthffosiaeth yn addas ar gyfer cynnydd yn y defnydd.

 

           

(c)Mewn ymateb i’r pryder, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd Dwr Cymru yn gwrthwynebu’r cais ac yn awgrymu amodau safonol ac felly derbynnir bod digon o gapasiti ar gyfer cynnydd yn nefnydd y garthffosiaeth.

 

(ch) Mewn ymateb i sylwadau wnaed gan Aelodau unigol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu a’r Uwch Gyfreithiwr fel a ganlyn:

 

·         ni roddir cytundeb 106 ar dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd a bod y tai yn fychan ac yn cwrdd ag anghenion tai fforddiadwy

·         pe byddai'r tai yn cael eu rhoi ar y farchnad agored rhywbryd yn y dyfodol, bod gofynion statudol yn cyfarch unrhyw bryderon pe byddai’r Gymdeithas Dai yn mynd i drafferthion.  Penderfynwyd oddeutu 12 mis yn ol ar falans bod y risg o ryddhau’r tai heb 106 i Gymdeithasau Tai  yn hynod isel.  

 

(a)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

Penderfynwyd:          Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.    Amser

2.   Cydymffurfio gyda chynlluniau;

3.   Deunyddiau waliau allanol i’w cytuno;

4.    Llechi a’r doeau’r anheddau a samplau i’w cyflwyno cyn cychwyn datblygu;

5.    Cyflwyno manylion tirlunio i’w cyflwyno er cymeradwyaeth;

6.    Cyfnod gweithredu cynllun tirlunio;

7.    Amodau Dwr Cymru

8.    Amodau Priffyrdd

9.    Bioamrywiaeth

10.  Tynnu PD

11.  Cyfyngu amser gweithio

12.  Amodau Uned Draenio Tir

13.  Cyflwyno a chytuno ar driniaethau ffin

 

 

 

 

Dogfennau ategol: