Gwelliannau i safle carafannau teithiol sy’n cynnwys cynnyddu nifer o 36 i 60 uned, creu 61 llawr caled, ail leoli man chwarae a chreu man chwarae newydd, cysylltiadau gwasanaethau, dymchwel bloc cyfleusterau a chodi adeilad cyfleusterau newydd i gynnwys siop, creu ffordd fewnol a safle parcio, lleoli carafan rheolwr a gwaith tirlunio
AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Wyn Hughes
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Gwelliannau i safle
carafanau teithiol sy’n cynnwys cynyddu nifer o 36 i 60 uned, creu 61 llawr
caled, ail leoli man chwarae a chreu man chwarae newydd, cysylltiadau
gwasanaethau, dymchwel bloc cyfleusterau a chodi adeilad cyfleusterau newydd i
gynnwys siop, creu ffordd fewnol a safle parcio, lleoli carafán rheolwr a
gwaith tirlunio.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Gorfodaeth ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle o
fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn
cwestiynu addasrwydd tanc trin preifat ar safle carafanau teithiol tymhorol a’u
bod yn disgwyl i’r asiant ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar y mater.
Nodwyd bod y bwriad cyffredinol yn dderbyniol ond nad oedd swyddogion wedi
eu hargyhoeddi bod y cynllun yn ei gyfanrwydd yn arwain at welliannau
amgylcheddol a gweledol i wella gwedd y safle yn y dirwedd gan na ystyrir fod
dyluniad yr adeilad cyfleusterau newydd a fwriedir yn parchu’r safle a’i
gyffiniau o ran ei raddfa, maint a ffurf gan gael effaith andwyol annerbyniol
ar olygfeydd amlwg a ffurf a chymeriad y dirwedd yn groes i Bolisi B22 a D20
o’r CDUG a Chanllawiau Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau.
(b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei bod yn gefnogol i’r cais;
·
Nad oedd y cyfleusterau
presennol yn ddigonol a bod yr adeilad cyfleusterau bwriedig yn addas i bwrpas,
yn gweddu â’r adeiladau fferm ac adeiladau mewn safleoedd tebyg;
·
Bod angen gwagle yn nho’r
adeilad cyfleusterau i alluogi stem o’r cawodydd wyntyllu;
·
Y bwriedir darparu
cyfleusterau o safon a fyddai’n diwallu anghenion y cwsmeriaid gan gynnwys
darpariaeth i’r anabl;
·
Mai cornel o’r dderbynfa y
defnyddir i gadw deunyddiau carafanau i werthu i gwsmeriaid er mwyn osgoi
iddynt orfod teithio ymhell;
·
Na fyddai’r adeilad yn amharu
ar olygfeydd o leoliadau cyfagos a byddai gwaith tirlunio;
·
Bod yr ymgeisydd yn buddsoddi
oddeutu £250,000 i wella’r safle a byddai swyddi tymhorol o ganlyniad i’r
datblygiad.
Mewn ymateb i
sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd y
swyddogion yn gwrthwynebu’r cynnydd yn y nifer o unedau nac ychwaith yr angen
am fwy o gyfleusterau ond ‘roedd yr adeilad bwriedig efo edrychiad domestig ac
nid oedd yn gweddu gyda ffurf yr adeiladau sydd ar y fferm bresennol. Ystyrir
bod angen adeilad fyddai’n gweddu i’w leoliad gan ymdebygu i adeilad
amaethyddol neu adlewyrchu adeiladau cyfagos ar y fferm.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i
wrthod y cais.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Y dylid caniatáu’r cais gan nid oedd yr adeilad
cyfleusterau yn ormodol o ystyried y nifer o ymwelwyr a’i fod yn gweddu i’w
leoliad;
·
Y dylid gohirio’r cais er mwyn i’r swyddogion
gynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd o ran dyluniad yr adeilad;
·
Bod safon yn bwysig i gwsmeriaid a byddai
datblygiad o’r math yma yn denu mwy o dwristiaid gan gyfrannu at yr economi.
(ch) Gwnaed gwelliant i ohirio’r cais er mwyn i’r swyddogion gynnal trafodaethau efo’r
ymgeisydd o ran dyluniad yr adeilad cyfleusterau. Eiliwyd y gwelliant.
PENDERFYNWYD
gohirio’r cais er mwyn i’r swyddogion gynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd o ran
dyluniad yr adeilad cyfleusterau.
Dogfennau ategol: