Agenda item

Cais ôl-weithredol ar gyfer codi un rhes o paneli solar mewn cae.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Owain Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Cais ôl-weithredol ar gyfer codi un rhes o baneli solar mewn cae.

 

(a)          Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y paneli solar domestig wedi eu gosod yn eu lle.  Lleolir y safle yng nghefn gwlad agored rhwng Tai’n Lôn a Nasareth ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Nodwyd bod arwynebedd y paneli oddeutu 66m sgwâr, ac yn mesur 22m wrth 3.3m o uchder ac yn creu 10kw o bŵer.  Nodwyd mai pwrpas ceisiadau ôl-weithredol ydoedd rheoli’r datblygiad a chyfeiriad at bolisi cenedlaethol sy’n datgan yn glir y dylid atgyweirio’r sefyllfa ac nid cosbi’r unigolion sydd yn torri rheolau a rhaid ystyried y cais ar ei rinweddau ei hun.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.  Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais.  

 

Prif ystyriaethau’r cais ydoedd effaith gweledol y datblygiad ar yr AHNE a derbyniwyd sylwadau hwyr gan Uned AHNE yn datgan gan fod y datblygiad yn fychan ac er yn weladwy o rai mannau gerllaw, ni ystyriwyd ei fod yn amharu’n annerbyniol ar yr AHNE ond efallai y byddai’n fuddiol plannu rhagor o goed i sgrinio’r datblygiad o’r llwybr cyhoeddus.

 

Gydag amodau perthnasol i sicrhau bod y ceblau yn dan-ddaearyddol, ystyrir bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol.  Cydnabyddai cynnwys yr adroddiad yr effaith ar ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus ac roedd y swyddogion cynllunio o’r farn ei fod yn dderbyniol a dim ond yn effeithio darn bychan iawn o’r llwybr ac felly ddim angen amodau tirweddu.  Argymhellir i ganiatáu’r cais yn unol â’r amodau amlinellwyd yn yr adroddiad.   

 

(b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         Bod y datblygiad yn ffurfio rhan o welliannau parhaus i Erw Wen

·         Pan brynwyd yr eiddo bod ganddo un o’r sgoriau gwaethaf o ran perfformiad ynni a chyfraddiad effaith amgylcheddol ac erbyn hyn bod y sgôr perfformiad wedi codi ac yn cydymffurfio â  gofynion amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020

·         Bod lleoliad y paneli solar yn bwysig o ran cydymffurfio â chanllawiau llywodraeth leol ynghyd a chydbwyso anghenion yr amgylchedd a’r ardal 

·         Bod gosodiad y paneli bron yn adlewyrchu ongl y bryn a’u bod wedi eu gosod mewn man isel yn y cae

·         Bod rhan isaf y cae ynghyd â’r coed aeddfed yn cael effaith powlen naturiol wrth sgrinio'r paneli o’r gogledd, y dwyrain a’r gorllewin.  I’r de, ceir dwy res o goed sydd yn creu gwelediad lleiaf posibl o’r paneli

·         Bwriedir plannu coed yn y rhan isaf o’r cae rhwng y paneli a buarth yr eiddo yn ogystal â phlannu gwrychoedd ar ffin y llwybr troed

·         Ni fyddai newid i ddefnydd y tir ac y byddai da byw yn gallu pori hyd at y ffens terfyn

·         Bod y bwriad yn un bychan domestig a fydd yn caniatáu i unrhyw weddill ynni fedru dychwelyd i’r grid cenedlaethol er budd eraill 

 

(c)          Atgoffwyd y Pwyllgor bod yr Aelod Lleol wedi datgan diddordeb ac wedi gadael y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais gerbron.

 

            Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)     Yn ystod y drafodaeth nododd Aelod ei ddymuniad i gynnwys amod yn ymwneud a dadgomisynu a chytunwyd i hyn gan y swyddog cynllunio.

 

Penderfynwyd:          Caniatáu’r cais yn unol á’r amodau canlynol ynghyd ag amod dad-gomisynu fel amlinellir yn (ch) uchod): 

 

            1. Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau

2. Rhaid i unrhyw gysylltiad gwifren o’r paneli fod yn danddaearol neu fel y cytunir

    yn wahanol  gyda’r  ACLl o flaen llaw.

3. Dad-gomisynu

 

 

 

Dogfennau ategol: