Agenda item

Adeiladu fferm solar gyda gwaith cysylltiol i gysylltu â'r rhwydwaith dosbarthu trydan, ffordd fynediad, compownd adeiladu dros dro, ffensys diogelwch a gwelliannau ecolegol a tirweddu.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Adeiladu fferm solar gyda gwaith cysylltiol i gysylltu â'r rhwydwaith dosbarthu trydan, ffordd fynediad, compownd adeiladu dros dro, ffensys diogelwch a gwelliannau ecolegol a thirweddu.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod safle’r cais yn mesur oddeutu 11.56 hectar ac yn cynnwys chwe cae amaethyddol graddfa 3 a 4. Disgrifiwyd y caeau fel caeau pori gwastad gyda llethr ysgafn wedi eu rheoli yng nghefn gwlad agored gyda rhes drwchus o goed aeddfed i’r dwyrain o’r safle a gwrychoedd o amgylch mwyafrif o ffiniau’r caeau. Ategwyd bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli ac mae’r ANHE oddeutu 2km i’r gogledd orllewin.

 

Nodwyd bod polisi C27 CDUG yn caniatáu cynigion am gynlluniau ynni adnewyddadwy cynaliadwy a rheoli ynni cyn belled ag y gellir cydymffurfio a chyfres o feini prawf sydd yn ymwneud ag effaith ar ansawdd gweledol y dirwedd a ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol. O ran tirlunio'r  safle adroddwyd bod bwriad gadael yr ardal o dan y paneli solar fel tir pori ac ystyriwyd bod y manylion tirlunio a gyflwynwyd yn dderbyniol., Er hynny, amlygwyd bod angen cyflwyno a chytuno ar gynllun rheolaeth tirlunio i sicrhau bod tirlunio yn cael ei gynnal a’i gadw i safon uchel dros oes y cynllun. Bydd angen atgyfnerthu gwrychoedd a phlannu coed ychwanegol ac unwaith bydd y rhain wedi datblygu, bydd y sgrinio yn effeithiol.

 

Er bod y safle wedi ei leoli o fewn 200m i dri beudy rhestredig gradd II fferm Llwyndyrys ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar osodiad yr adeiladau rhestredig nac ar berthynas yr adeiladau rhestredig a’r tir amaethyddol cyfagos. Nodwyd bod bwriad y datblygiad yn dderbyniol a rhannau o’r datblygiad yn unig fydd yn weledol. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau lleol i’r cais. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau perthnasol ac felly ei fod yn dderbyniol i’w ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio.    

 

(b)       Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·              Bod yr ynni yn ynni glân ac adnewyddadwy

·              Bod y tir yn dir amaethyddol o ansawdd isel, ond bod modd parhau i bori defaid arno

·              Bod cyfathrebu da gyda’r gymuned leol - Nid oedd gwrthwynebiad lleol i’r cais

·              Bod bwriad plannu gwrychoedd ychwanegol

·              Bod y tir yn cael ei ddatblygu drwy hyrwyddo cynllun bioamrywiaeth

·              Bod tri defnydd i’r tirar gyfer pori defaid, gwasanaethau ecolegol ac ynni adnewyddadwy

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

(c)          Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Angen herio’r datganiad bod ansawdd tir Llŷn o safon iselgwahanol ydyw ac nid salach. Y tir yn gynefin prin i rywogaethau

·         Pryder ar ardrawiad ffermydd solar ar y Sir ac felly angen adroddiad llawn ar y nifer sydd yn cael eu cyflwyno / caniatáu

·         Bod y datblygiad yn creu effaith weledol o’r ANHE

·         Pryder bod y ffordd yn gul drwy Llwyndyrys ac felly angen sicrhau bod llif y traffig o dan reolaeth

·         Nad oedd newid i ddefnydd y tir - defaid yn parhau i gael pori.

·         Bod angen cynnal amaeth fel diwydiantcreu arian ychwanegol i ffermwyr

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r argymhelliad

 

Amodau

 

1.           5 mlynedd

2.           Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau

3.           Rhaid lleoli’r paneli yn y lleoliadau a ddangosir ar y cynlluniau neu fel y cytunwyd mewn ysgrifen gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol

4.           Cytuno deunyddiau allanol yr holl adeiladau, ffens a pholion camerâu

5.           Cytuno deunyddiau/lliwiau'r fframiau a’r gorchudd di-llacharedd.

6.           Ymgymryd â’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio yn y tymor plannu cyntaf ar ôl cychwyn.

7.           Cyflwyno a chytuno ar gynllun rheolaeth tirlunio hir dymor.

8.           Amodau priffyrdd

9.           Cynllun rheoli llif ac amseroedd traffig gwaith

10.         Amodau bioamrywiaeth – sy’n cynnwys, cyflwyno cynllun Dwr Wyneb, cyflwyno Cynllun Rheoli Bioamrywiaeth, dim clirio yn ystod y cyfnod nythu, cytuno manylion y ffens a chytuno ar gynllun goleuo.

11.         Cyflwyno rhaglen archeolegol cyn dechrau’r gwaith.

12.         Dylid gosod unrhyw geblau trydan o’r datblygiad i’r cysylltiad trydanol o dan ddaear ac fel y’i cytunir yn gyntaf gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

13.         O fewn 12 mis i'r paneli solar a ganiateir drwy hyn beidio cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan, rhaid eu tynnu’n barhaol oddi ar y tir ac adfer y safle yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol.

14.         Diogelu cyrsiau dwr.

          15.         Gweithredu’n unol a’r Strategaeth Ddraenio

          16.         Cyfnod gweithredol y safle/dadgomisiynu

17.         Cytuno cynllun goleuo

Dogfennau ategol: