Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Dilwyn Morgan ac y Prif Weithredwr Dilwyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. W Gareth Roberts ar gyfer
eitem rhif 6, gan fod ei fab yng nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaeth
Ieuenctid, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar
gyfer yr eitem. Derbyniwyd
datganiad o fuddiant gan y Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Peredur Jenkins ar
eitem 7, gan fod y ddau yn llywodraethwyr yn Ysgol Bro Idris, nid oedd hwn yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 MAI 2018 PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 22 Mai 2018, fel rhai cywir |
|
AIL-FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID PDF 118 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn yr
adroddiad a neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu
cronfa i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r
sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer
Ebrill 1af 2019 2.
Dirprwyo’r
hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a
Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNWYD 1. Derbyn yr
adroddiad a neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu cronfa
i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r
sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer
Ebrill 1af 2019 2.
Dirprwyo’r
hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a
Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr aelodau yn ymwybodol o gefndir yr eitem. Ychwanegwyd
fod Rhybudd o Gynnig wedi ei gyflwyno yn ystod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth a
oedd yn gofyn i’r Cabinet ail-ystyried elfennau o’r model newydd. Bu i’r
Cabinet edrych ar bob elfen yn unigol. Newid pwyslais
o’r cymunedol i les unigolyn Pwysleisiwyd mai
newid statudol gan y Llywodraeth yw bod y Gwasanaethau Ieuenctid yn cefnogi
pobl ifanc gyda’u dysgu a’u haddysgu, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sydd ddim
mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg. Er hyn, nodwyd fod y gwasanaeth newydd am
fod yn cynnig gwasanaeth i bawb ac nid i’r unigolion yma yn unig. Ychwanegwyd fod 14% o bobl ifanc yn mynd i
glybiau ac felly nodwyd yr angen am dargedu mwy o bobl ifanc ar draws y sir. Ychwanegwyd: -
Fod
ymgynghoriad wedi ei gynnal gan yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn holi beth
sydd yn bwysig i bobl ifanc - nodwyd y tri pheth a oedd ar y brig oedd Iechyd
Meddwl, Tai a Phroblemau Alcohol a Chyffuriau, a oedd yn cyd-fynd a’r sylwadau
a gafwyd pan drafodwyd a phobl ifanc am y Gwasanaeth Ieuenctid. -
Nodwyd
fod gweithgareddau wedi digwydd ym Mhorthmadog a bod yr adborth yn foddhaol ond
holwyd sut beth oedd yr adborth ar draws y sir. Mynegwyd fod rhaglen o
weithgareddau wedi ei threfnu ar gyfer yr haf, a'u bod yn ganol trefnu fforymau
fel bod modd cael trafodaeth am y math o weithgareddau gyda phobl ifanc. -
Codwyd Connections yn Lloegr, prosiect a fethwyd. Nodwyd fod y
prosiect hwn yn un cenedlaethol a oedd yn benodol ar gyfer gyrfaoedd ac nid ar
gyfer Gwasanaeth Ieuenctid. Bu iddo fethu ond fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn
cynnig llawer mwy ‘na gyrfaoedd yn unig. Effaith ar
ardaloedd difreintiedig Nodwyd fod
Maesgeirchen a Caernarfon yn cael ei gweld fel yr ardaloedd difreintiedig yn
unol â diffiniad Llywodraeth Cymru, ond ychwanegwyd fod ardaloedd difreintiedig
ar draws y sir. Er hyn, ychwanegwyd, fod yr Asesiad Cydraddoldeb mewn adnabod
yr effaith sydd am fod ar y ddwy ardal ac fod y gwasanaeth yn gweithio gyda’r
Cyngor Tref yng Nghaernarfon er mwyn edrych ar opsiynau ac eu bod yn gobeithio
gwneud yr un peth ym Maesgeichen. Ychwanegwyd: -
Mae dwy
ddeiseb wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yng Nghaernarfon yn benodol am Gaernarfon.
Nodwyd fod prosiect SPLASH yn parhau yn ystod y gwyliau a bod gweithgareddau am
gael eu cynnal yn fwy aml yn yr ardal. - Holwyd pa fath ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Catrin Thomas |
|
ADRODDIAD YSGOL BRO IDRIS PDF 99 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Yn gyffredinol, mabwysiadu’r argymhellion yn deillio o adroddiad
annibynnol Gareth Williams er mwyn
galluogi’r Adran Addysg i’w hymgorffori fel rhan greiddiol o brosesau ad-drefnu
a weithredir ganddi ar y cyd a rhan-ddeiliaid eraill mewn dalgylchoedd eraill
i’r dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Yn gyffredinol, mabwysiadu’r
argymhellion yn deillio o adroddiad annibynnol Gareth Williams er mwyn galluogi’r Adran
Addysg i’w hymgorffori fel rhan greiddiol o brosesau ad-drefnu a weithredir
ganddi ar y cyd a rhan-ddeiliaid eraill mewn dalgylchoedd eraill i’r dyfodol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai’r prif reswm dros gynnal yr arolwg annibynnol ar y drefn
o ddatblygu Ysgol Bro Idris oedd er mwyn dysgu gwersi yn arbennig yn sgil y
ffaith fod ehangder a maint y cynllun. Ategwyd fod y comisiwn hefyd yn gyfle i
gyfarch rhai pryderon ymysg cyn-aelodau o staff am rai o agweddau'r broses o
sefydlu’r ysgol. Mynegwyd fod y
drefn o sefydlu ysgol yn bartneriaeth rhwng yr Awdurdod a’r Corff Llywodraethu
Cysgodol. Ychwanegwyd fod yr Awdurdod yn gyfrifol am benderfyniad i agor ysgol
a chyflawnai’r adeilad ond y Corff Llywodraethol sy’n gyfrifol am y camau i
sicrhau fod yr ysgol mewn trefn a phennaeth wedi ei benodi a strwythur staffio
yn weithredol. Cydnabuwyd fod ysgol ddilynol aml-safle yn arwain at ragor o
heriau yn sgil effaith trefniadau ar leoliadau ffisegol. Nodwyd fod yr adran
wedi ystyried yr holl argymhellion ac wedi eu derbyn. Mynegwyd o fabwysiadu’r
argymhellion, bydd modd i’r Adran ar y cyd a rhan ddeiliaid eraill yn eu
hymgorffori fel rhan greiddiol o brosesau ad-drefnu. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth -
Nodwyd
fod yr ysgol yn un arloesol a bod camau yn eu lle er mwyn egwyddorion Dyfodol
Disglair. Ychwanegwyd, er y problemau sydd wedi codi, diolchwyd i’r Pennaeth ac
athrawon am eu gwaith. -
Mynegwyd
pan mae pethau yn mynd o’i le mae angen sicrhau fod yr adran yn dysgu eu gwersi
a sicrhau fod pethau yn cael ei wneud yn wahanol. Awdur: Debbie Ann Williams Jones |
|
BAND B RHAGLEN YSGOLION UNFED GANRIF AR HUGAIN PDF 69 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: -
Cymeradwyo mewn egwyddor blaenoriaethau
cychwynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain yn unol
â’r adroddiad. -
Aros am ganlyniad y broses o sefydlu Cynllun Rheoli Asedau’r
Cyngor cyn mabwysiadu’r rhaglen derfynol Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD -
Cymeradwyo mewn egwyddor blaenoriaethau
cychwynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain yn unol
â’r adroddiad. -
Aros am ganlyniad y broses o sefydlu Cynllun Rheoli Asedau’r
Cyngor cyn mabwysiadu’r rhaglen derfynol TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar
Hugain Llywodraeth Cymru bellach yn dod i ddiwedd gwedd gyntaf y prosiect (Band
A). Ychwanegwyd fod Cyngor Gwynedd wedi ei gydnabod fel un o’r awdurdodau mwyaf
llwyddiannus yn cyflawni eu rhaglen a hyd yma ac o ganlyniad mae’r Llywodraeth
wedi cyfeirio dyraniad ychwanegol o £12m o arian gweddilliol i Wynedd er mwyn
adolygu’r ddarpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Esboniwyd fod y Llywodraeth bellach yn cyfeirio’i golwg ar yr ail wedd a
fydd yn cychwyn yn Ebrill 2019. Derbyniwyd cais gan y Llywodraeth yn gofyn i’r
Awdurdodau i sefydlu eu blaenoriaethau ar fyr rybudd. Nodwyd y bydd angen i’r
Cyngor gyfrannu 50% o’r arian, a tynnwyd sylw yn ogystal ei bod yn braf gweld
plant yn cael eu Dysgu efo’r adnoddau diweddaraf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Nodwyd mai talcen caled y prosiect fydd i ddod o
hyn i’r arian gan fod gofynion gwario’r Cyngor am fod yn uwch ond bydd angen
blaenoriaethu. Awdur: Garem Jackson a Dafydd Gibbard |
|
CYNNIG GOFAL PLANT 30 AWR AR GYFER PLANT 3-4 OED PDF 176 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: -
Cytuno i’r uned gofal plant Gwynedd a Môn,
Adran Plant a Theuluoedd cydweithio gyda Chyngor Conwy gan weithredu fel
Awdurdod Arweiniol i weinyddu gofal plant 30 awr ar gyfer plant 3-4 oed gan
weithredu yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru. -
Fod gweithredu hyn yn amodol fod yr Aelod Cabinet dros Blant a
Phobl Ifanc yn cadarnhau'r trefniadau llywodraethu rhwng-awdurdod a sicrhau fod
cytundeb partneriaeth briodol mewn lle gyda Chyngor Gwynedd a Chynghorau Ynys
Môn a Conwy. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD -
Cytuno i’r uned gofal plant Gwynedd a
Môn, Adran Plant a Theuluoedd cydweithio gyda Chyngor Conwy gan weithredu fel
Awdurdod Arweiniol i weinyddu gofal plant 30 awr ar gyfer plant 3-4 oed gan
weithredu yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru. -
Fod gweithredu hyn yn amodol fod yr Aelod Cabinet dros Blant a
Phobl Ifanc yn cadarnhau'r trefniadau llywodraethu rhwng-awdurdod a sicrhau fod
cytundeb partneriaeth briodol mewn lle gyda Chyngor Gwynedd a Chynghorau Ynys
Môn a Conwy. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y prosiect yn gweithredu bellach
ers bron i flwyddyn ac ers Ebrill 2018 mae’r Llywodraeth wedi cynnwys yr holl
ardaloedd yng Ngwynedd a Môn. Ychwanegwyd fod y prosiect wedi bod yn un
poblogaidd gyda llawer o deuluoedd yn cymryd y cyfle i gael darpariaeth gofal
am ddim i blant 3-4 oed. Mynegwyd fod y sector yn ogystal wedi cymryd y cyfle
ac mae datblygiad wedi ei weld yn y maes. Esboniwyd drefn yr ail wedd o’r prosiect, gan nodi fod y Llywodraeth yn
awyddus i Wynedd a Môn gymryd y rôl adweinyddol gyda Conwy yn ymuno a’r
prosiect. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Bu i’r
aelodau longyfarch y tîm ar eu gwaith, gan bwysleisio ei bod yn arbennig fod y
tîm yn gallu defnyddio meddalwedd i sicrhau fod arian yn cyrraedd y busnesau yn
y sector ar amser a bod hyn wedi arwain ar ddatblygiad yn y sector. -
Holwyd
os yw Gwynedd yn cymryd y rôl arweiniol a fydd angen penodi mwy o staff. Nodwyd
y bydd Swyddog Gweinyddol ychwanegol a bydd un o’r swyddogion sy’n gweithio ar
y prosiect yn cael ei phrynu gan Gyngor Conwy er mwyn gwneud y gwaith sefydlu’r
system yno. -
Ychwanegwyd
fod y prosiect yn un sy’n cael ei groesawu gan ei fod yn annog mamau i fynd yn
ôl i’r gwaith. Mynegwyd fod y Llywodraeth yn y broses o wneud gwaith ymchwil i weld
beth yw’r canlyniadau y flwyddyn gyntaf y prosiect. Awdur: Sioned Owen a Rachel Jones |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23: CAIS AM ADNODDAU O'R GRONFA DRAWSFFURFIO PDF 85 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: I neilltuo £104,747 o’r Gronfa Trawsffurfio, sef
£51,690 yn 2018/19 a £53,057 yn 2019/20 i gefnogi gweithrediad y flaenoriaeth
‘Gwireddu Arbedion’ o fewn cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD I neilltuo £104,747 o’r Gronfa
Trawsffurfio, sef £51,690 yn 2018/19 a £53,057 yn 2019/20 i gefnogi
gweithrediad y flaenoriaeth ‘Gwireddu Arbedion’ o fewn cynllun Cyngor Gwynedd
2018-2023. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais yw hwn er mwyn cyflogi Rheolwr
Prosiect am gyfnod o 2 flynedd er mwyn cefnogi’r rhaglen gwireddu arbedion
newydd. Nodwyd fod yr arian yn dod o’r gronfa draws ffurfio ac mae buddsoddi
arian un tro er mwyn dod o hyd i arbedion parhaol yw pwrpas y swydd. Sgwadiau yn codi o’r drafodaeth -
Ychwanegwyd
fod angen sicrhau fod yr unigolyn yn dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a bod
yn arloesol er mwyn gwarchod gwasanaethau. Awdur: Dewi Wyn Jones |