skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Craig ab Iago

Penderfyniad:

1.    Derbyn  yr adroddiad a neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu cronfa i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer Ebrill 1af 2019

 

2.    Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn  yr adroddiad a neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu cronfa i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer Ebrill 1af 2019

 

2.    Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr aelodau yn ymwybodol o gefndir yr eitem. Ychwanegwyd fod Rhybudd o Gynnig wedi ei gyflwyno yn ystod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth a oedd yn gofyn i’r Cabinet ail-ystyried elfennau o’r model newydd. Bu i’r Cabinet edrych ar bob elfen yn unigol.

 

Newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolyn

Pwysleisiwyd mai newid statudol gan y Llywodraeth yw bod y Gwasanaethau Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc gyda’u dysgu a’u haddysgu, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sydd ddim mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg. Er hyn, nodwyd fod y gwasanaeth newydd am fod yn cynnig gwasanaeth i bawb ac nid i’r unigolion yma yn unig.   Ychwanegwyd fod 14% o bobl ifanc yn mynd i glybiau ac felly nodwyd yr angen am dargedu mwy o bobl ifanc ar draws y sir.

 

Ychwanegwyd:

-        Fod ymgynghoriad wedi ei gynnal gan yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn holi beth sydd yn bwysig i bobl ifanc - nodwyd y tri pheth a oedd ar y brig oedd Iechyd Meddwl, Tai a Phroblemau Alcohol a Chyffuriau, a oedd yn cyd-fynd a’r sylwadau a gafwyd pan drafodwyd a phobl ifanc am y Gwasanaeth Ieuenctid.

-        Nodwyd fod gweithgareddau wedi digwydd ym Mhorthmadog a bod yr adborth yn foddhaol ond holwyd sut beth oedd yr adborth ar draws y sir. Mynegwyd fod rhaglen o weithgareddau wedi ei threfnu ar gyfer yr haf, a'u bod yn ganol trefnu fforymau fel bod modd cael trafodaeth am y math o weithgareddau gyda phobl ifanc.

-        Codwyd Connections yn Lloegr, prosiect a fethwyd. Nodwyd fod y prosiect hwn yn un cenedlaethol a oedd yn benodol ar gyfer gyrfaoedd ac nid ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid. Bu iddo fethu ond fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig llawer mwy ‘na gyrfaoedd yn unig.

 

Effaith ar ardaloedd difreintiedig

Nodwyd fod Maesgeirchen a Caernarfon yn cael ei gweld fel yr ardaloedd difreintiedig yn unol â diffiniad Llywodraeth Cymru, ond ychwanegwyd fod ardaloedd difreintiedig ar draws y sir. Er hyn, ychwanegwyd, fod yr Asesiad Cydraddoldeb mewn adnabod yr effaith sydd am fod ar y ddwy ardal ac fod y gwasanaeth yn gweithio gyda’r Cyngor Tref yng Nghaernarfon er mwyn edrych ar opsiynau ac eu bod yn gobeithio gwneud yr un peth ym Maesgeichen.

 

Ychwanegwyd:

-        Mae dwy ddeiseb wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yng Nghaernarfon yn benodol am Gaernarfon. Nodwyd fod prosiect SPLASH yn parhau yn ystod y gwyliau a bod gweithgareddau am gael eu cynnal yn fwy aml yn yr ardal.

-        Holwyd pa fath o fynediad fydd ar gael i bobl ifanc i’r gwasanaeth ieuenctid. Nodwyd fod y staff a rôl o drafod beth yw anghenion y bobl ifanc, yn enwedig gyda’r ardaloedd ble nad oedd y bobl ifanc yn cael mynediad at yr hen wasanaeth.

 

Effaith ar yr iaith Gymraeg

Nodwyd fod yr iaith wedi codi fel rhan o’r ymgynghoriad a bod 0.2% yn teimlo y byddai’r gwasanaeth ieuenctid newydd yn dirywio’r iaith. Mynegwyd fod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn nodi y byddai’r ail-fodelu drwy gynnal mwy o weithgareddau yn y gymuned yn hybu’r iaith. Ychwanegwyd fod cyfleoedd i hybu’r iaith drwy’r gwasanaeth newydd.

 

Ychwanegwyd:

-        Fod modd i’r gwasanaeth newydd gan ei glynu a gwaith y siarter iaith sydd yn cael ei wneud yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd. Ychwanegwyd y bydd y gwasanaeth ieuenctid yn hybu'r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol.

-        Ychwanegwyd fod cyfarfod wedi ei drefnu gyda Hunan Iaith er mwyn trafod ymhellach ar sut i ddefnyddio a dylanwadu pobl ifanc i ddefnyddio’r iaith.

 

Cydweithredu gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned

Nodwyd yn dilyn sylwadau’r Pwyllgor Craffu yn Ionawr fod angen trafodaeth gyda rhai cynghorau cymuned a thref am ffordd o gydweithredu. Er hyn pwysleisiwyd erbyn hynny ei bod yn hwyr yn y broses i drafod. Nodwyd er hyn mae 32 Cyngor Tref wedi cael llythyr ac mae 11 o’r rhai yn awyddus i drafod ymhellach.  Ychwanegwyd fod angen trafodaeth bellach a’r Cynghorau a bydd yr adran yn croesawu trafod sut y bydd modd darparu clwb cymdeithasol.

 

Ychwanegwyd:

-        Os oes modd i drafod a’r Cynghorau ar sut i allu pontio o’r hen wasanaeth i’r gwasanaeth newydd. Nodwyd fod rhai o’r clybiau heb eu diweddaru ers rhyw 20 mlynedd a bod y byd bellach wedi newydd. Er hyn, mynegwyd os oes awydd i gadw’r clwb y dylid ceisio gwneud hynny ond efallai angen sicrhau cronfa i bontio'r ddau gyfnod.

 

Cymorth Briodol i’r Mudiadau Ieuenctid Fu’n Derbyn Nawdd

Nodwyd fod y swyddogion yn gweithio gyda’r mudiadau – yn benodol y prif 3 sef Mudiad Ffermwyr Ifanc Eryri, Mudiad Ffermwyr Ifanc Meirionydd ac yr Urdd. Ategwyd fod y berthynas yn un positif a bydd modd i allu cydweithio gyda'r mudiadau er mwyn darparu gwasanaeth i bobl ifanc.

 

Ychwanegwyd:

-        Os oes aelod o staff yn gweithio yn benodol gyda’r mudiadau, mynegwyd mai'r Swyddog Adfywio a’r Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid yw’r pwyntiau cyswllt ar hyn o bryd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd pryd fyddai'r asesiadau iaith a chydraddoldeb nesaf yn cael ei gynnal ar y gwasanaeth newydd - nodwyd fod adolygiad parhaus ond fod bwriad o greu asesiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf sef Medi 2019.

-        Nodwyd fod angen gadael i’r aelodau etholedig a phobl ifanc wybod beth sydd yn mynd  ymlaen ac y bydd angen adroddiadau cynnydd. Esboniwyd y bydd hyn yn cael ei fabwysiadu yn syth, gan bwysleisio os na fydd cyfathrebu cryf ni fydd y gwasanaeth newydd yn gweithio.

-        Mynegwyd fod arian ar gael yn y Gronfa Trawsffurfio ar gael fel cymorth ar gyfer y cyfnod pontio er mwyn gallu negydu a Chynghorau Cymuned a Thref, Penderfynwyd £50,000 gael ei neilltuo yn benodol ar gyfer hyn.

 

Awdur:Catrin Thomas

Dogfennau ategol: