Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Sian Wyn Hughes ac Owain Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: (a) Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. (b) Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr buddiant
personol, yn eitem 6.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1240/14/LL)
oherwydd ei fod yn ffrindiau hefo gwr yr ymgeisydd. Roedd y swyddog o’r farn ei
fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/1134/35/AM); ·
Y Cynghorydd Cemlyn Williams,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.5 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/1240/14/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. (ch) Nododd aelodau eu bod wedi eu lobio gan unigolion yng nghyswllt eitemau 5 (Cais i gofrestru llwybr cyhoeddus) a 6.3 (cais cynllunio rhif C17/1117/20/AM) ar y rhaglen. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2018, fel rhai cywir. |
|
Cyflwyno
adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Louise Hughes Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Nododd Uwch Swyddog
Hawliau Tramwy (Arfon) oherwydd diddordeb lleol yn yr eitem yr argymhellir
gohirio er mwyn ei ystyried yn y cyfarfod nesaf a oedd i’w gynnal yn Nolgellau
ar 26 Chwefror. Nododd yr aelod lleol ei bod yn gefnogol i
ohirio’r eitem oherwydd y diddordeb yn lleol ac y byddai’n well ei ystyried pan
gynhelir y cyfarfod yn Nolgellau. Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r eitem.
Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd. Awgrymodd aelod y dylid cynnal ymweliad
safle. Holodd yr Uwch Gyfreithiwr ar ba sail yr awgrymir cynnal ymweliad safle
o ystyried bod tystiolaeth ysgrifenedig a lluniau o arwyddion yn y lleoliad
wedi eu cynnwys yn y rhaglen. Pwysleisiodd mai ystyriaeth i dystiolaeth o ran
defnydd o’r llwybr neu o atal defnydd y gwneir wrth drafod cais o’r fath. Cynigwyd ac eiliwyd i
gynnal ymweliad safle er mwyn gweld y safle yn ei gyd-destun. Pleidleisiwyd ar
y cynnig, fe syrthiodd y cynnig. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod yng nghyswllt os oedd mwy o wybodaeth ar gael o ran y cais, nododd yr
Uwch Gyfreithiwr os oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiwn o ran y cais y dylent
gysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon) ac y gallent ofyn am weld
gwybodaeth ychwanegol. PENDERFYNWYD gohirio’r eitem. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/1258/39/MG - 21, Ystâd Braich, Mynytho, Pwllheli PDF 240 KB Cais i gymerwadwyo manylion a gadwyd yn ôl ar gyfer gosod siale gwyliau, darpariaeth parcio, cyfnewid tanc septig am system trin preifat yn dilyn caniatad amlinellol C13/1218/39/AM. AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
i gymeradwyo manylion a gadwyd yn ôl ar gyfer gosod siale gwyliau, darpariaeth
parcio, cyfnewid tanc septig am system trin preifat yn dilyn caniatâd
amlinellol C13/1218/39/AM. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi
bod y cais materion a gadwyd yn ôl yn delio gyda graddfa a golwg yr uned wyliau
a thirweddu’r safle yn unig. Nododd bod y safle wedi ei leoli ymysg 23 o sialetau gwyliau presennol o fewn
dyffryn cuddiedig yng nghefn gwlad. Nododd bod egwyddor y bwriad eisoes wedi ei ganiatáu gan y
caniatâd amlinellol. Roedd yr adeilad bwriedig yn sylweddol, ond oherwydd
lefelau tir, ni ystyrir ei fod yn ymddangos yn fwy na’r unedau eraill ar y
safle. Cadarnhaodd nad oedd gan yr aelod lleol wrthwynebiad i’r
cais. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Gorffeniad allanol i gydweddu a gweddill
unedau ar y stad 2. Llechi ar y to. Nodyn: Dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C17/0966/15/LL - HSBC Bank House, 29 Stryd Fawr, Llanberis PDF 244 KB Newid defnydd banc i ddau fflat a newid maisonette presennol i ddau fflat gyda newidiadau cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Kevin Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd banc i ddau fflat a newid maisonette presennol i ddau fflat gyda
newidiadau cysylltiedig. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais i drosi adeilad cyn banc yr HSBC yn
Llanberis, yn bedair fflat hunan gynhaliol. Eglurodd y byddai dwy fflat ar y
llawr gwaelod ac un fflat yr un ar y lloriau eraill. Nododd
y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar
y Cyd, ar sail y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, na fyddai’n hyfyw i ddarparu tai
fforddiadwy ar y safle. Ychwanegodd bod ffigyrau o ran prisiau tebygol yr
unedau yn dangos y byddent yn fforddiadwy heb ymrwymiad tŷ fforddiadwy. O
ganlyniad, roedd yr argymhelliad wedi ei ddiwygio i’r hyn a nodir yn yr
adroddiad, argymhellir i ganiatáu’r cais efo amodau. Tynnodd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i'r bwriad ac er bod sylwadau wedi eu derbyn ynghylch y diffyg
parcio yn y rhan hon o Lanberis, ni ystyrir y byddai’r sefyllfa a achosir gan
bedair fflat am fod yn fwy niweidiol i’r hyn a achoswyd gan y defnydd blaenorol
fel banc a “maisonette”. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b)
Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
A fyddai’n rhaid darparu dihangfa dân allanol gan
fod yr adeilad yn dri llawr? ·
Ddim yn erbyn y datblygiad ond pryder o ran y
ddarpariaeth parcio yn enwedig dros nos o ystyried parcio am gyfnod byr yn
ystod y dydd roedd unigolion wrth fynd i’r banc; ·
Bod y bwriad a fyddai’n darparu unedau 1 a 2
ystafell wely i’w groesawu gyda’r angen am fwy o fflatiau; ·
Ei fod yn drist pan fo banc yn cau ond byddai’r
datblygiad yn ddefnydd da o’r adeilad; ·
Byddai’r bwriad yn dod a defnydd yn ôl i adeilad
gwag, yn darparu unedau ar gyfer pobl ifanc ac yn cyfrannu at yr angen a
adnabuwyd yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl); ·
Fyddai’n bosib pe caniateir y cais osod ymrwymiad
tŷ lleol ar y datblygiad? (c) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion: ·
Bod darparu dihangfa
dân yn fater rheolaeth adeiladu; ·
Cydnabod bod
problemau parcio yn Llanberis ond bod rhaid cymryd i ystyriaeth o ran y defnydd
presennol byddai staff y banc yn parcio am gyfnodau hir yn ogystal â
chwsmeriaid yn mynd a dŵad. O bosib y byddai’r angen am gar yn llai gan
fod y safle mewn lleoliad canol tref, yn agos at gyfleusterau gyda chludiant
cyhoeddus yn mynd heibio’n aml. Roedd yn fater i unrhyw ddarpar brynwr
ystyried; ·
Ni fyddai’n bosib
gosod ymrwymiad tŷ lleol ar y datblygiad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser cychwyn y datblygiad 2. Datblygiad yn llwyr unol â'r cynlluniau 3. Amod Dŵr Cymru Nodiadau: Dŵr Cymru Priffyrdd |
|
Cais Rhif C17/1117/20/AM - Pant Erys, 34 Glan y Môr, Y Felinheli PDF 383 KB Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi tri thŷ, un ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â mynedfa gerbydol, mynedfeydd troed a lle parcio i hyd at 9 cerbyd. Dymchwel storfa bresennol a rhoi adeilad newydd yn ei le i gynnwys storfeydd. (cais diwygiedig i gais a wrthodwyd yn flaenorol - C16/1235/20/AM) AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi tri thŷ, un
ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â mynedfa gerbydol, mynedfeydd troed a lle
parcio i hyd at 9 cerbyd. Dymchwel storfa bresennol a rhoi adeilad newydd yn ei
le i gynnwys storfeydd. (Cais diwygiedig i gais a wrthodwyd yn flaenorol -
C16/1235/20/AM). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi yn ôl
y fersiwn cyfredol o'r Mapiau Cyngor
Datblygu (diweddarir y mapiau yn chwarterol),
saif rhan blaen y safle o fewn Parth Llifogydd
C2. Nododd bod Nodyn Cyngor Technegol 15 “Datblygu a’r Perygl
o Lifogydd” (NCT 15) yn ei wneud yn
eglur ni
ddylid ystyried caniatáu datblygiadau agored iawn i
niwed o fewn Parth C2. Eglurodd bod "datblygiadau sy'n agored iawn i
niwed" yn cynnwys pob math o adeilad preswyl. Amlygodd bod penderfyniadau apêl blaenorol, gan gynnwys llythyr
penderfyniad gan Weinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, yn ei
wneud yn gwbl glir na ddylid caniatáu datblygiadau sy'n agored iawn
i niwed o fewn Parth C2. Ystyrir felly nad
oedd unrhyw opsiwn ond gwrthod
y cais hwn gan fod y datblygiad
yn gwbl groes
i ofynion NCT 15. Nododd bod Polisi ARNA 1: Ardal Rheoli Newid Arfordirol, y CDLl yn datgan y gwrthodir cynigion am dai newydd o fewn yr
Ardal Rheoli Newid Arfordirol (ARhNA). Tynnodd sylw
bod y safle o fewn ardal dan fygythiad llifogydd morol ger arfordir a'i cofrestrir
fel ARhNA, felly yn unol â Pholisi ARNA 1 y CDLl, roedd rhaid gwrthod y cais. Amlygodd bod pryderon o ran y dyluniad yn ogystal â materion priffyrdd o
safbwynt parcio a mynediad dros ramp serth yn arwain yn syth dros y palmant a
oedd yn mynd heibio’r safle. Nododd wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, ni chredir fod y
bwriad yn dderbyniol gan ei fod yn methu bodloni gofynion sylfaenol polisi
cynllunio cenedlaethol a lleol yn benodol yn ymwneud efo llifogydd ond hefyd o
ran trafnidiaeth a dylunio. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y safle eisoes yn ddefnydd
cymysg o fusnesau a anedd-dŷ; ·
Byddai’r bwriad yn gwneud
defnydd o dir llwyd; ·
Bod y ddarpariaeth parcio ar
lefel uchel gyda ramp a llwybr dianc i’r trigolion pe byddai llifogydd
eithafol; ·
Bod y mesuriadau a nodwyd ym
mharagraff 1.2 o’r adroddiad yn anghywir, fe fyddai lloriau’r tai wedi’u codi
2.52m yn uwch na lefel Ffordd Glan y Môr i lefel o 6.22m Uwch Ddatwm Ordnans; ·
Dim ond blaen y safle oedd tu
mewn i Barth Llifogydd C2, sef llai na 20% o arwynebedd y safle. Mynediad o’r
ffordd fawr i’r safle yn unig yr effeithir; ·
Bod y bwriad yn dderbyniol o
ran Polisi ISA 4 o’r CDLl yn ddarostyngedig i
drafodaethau pellach ar y drychiadau a materion trafnidiaeth; · Bod angen pwyso a mesur geiriad polisi o ran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3 |
|
Cais Rhif C17/1134/35/AM - Helidon, Lôn Merllyn, Cricieth PDF 239 KB Cais amlinellol ar gyfer codi tŷ deulawr. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar gyfer
codi tŷ deulawr. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais amlinellol ar gyfer codi
tŷ deulawr o fewn cwrtil presennol eiddo adnabyddir fel Helidon. Amlygodd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin
ddatblygu Cricieth ac o fewn ardal ble roedd cymysgedd o dai unigol a thai pâr
o fewn cwrtilau eithaf sylweddol. Ystyrir y byddai gosod eiddo preswyl
gyda chwrtil a mynedfa ei hun
o fewn y cwrtil yn gadael digon
o le mwynderol ar gyfer y tŷ presennol a’r tŷ
bwriedig, ac y byddai’n cydweddu gyda phatrwm
datblygu’r ardal o ran lleoliad a maint y safle. Tynnodd sylw nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais. Nododd bod gwrthwynebiadau wedi eu
derbyn yn ymwneud â maint y tŷ bwriedig, gan mai
tai deulawr oedd o gwmpas y safle, ystyrir y byddai’n rhesymol gosod amod i
sicrhau mai tŷ deulawr a fyddai’n cael ei godi ar y safle. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd yr aelod lleol
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd
ganddo wrthwynebiad i’r cais nac
i’r argymhelliad. (c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais. Mewn
ymateb i sylw gan aelod,
cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio mai cais
am dŷ deulawr gyda gofod yn
y to oedd gerbron dim cais am dŷ tri llawr. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser 2. Materion a gadwyd
yn ôl 3. Llechi 4. Dŵr Cymru 5. Priffyrdd/parcio 6. Ffenestri 7. Lefelau llawr
gorffenedig 8. Trin ffiniau/tirweddu 9. Eiddo deulawr
yn unig Nodyn: Dŵr |
|
Cais Rhif C17/1240/14/LL - Fferm Glan Rhyd, Ffordd Cae Garw, Rhosbodrual, Caernarfon PDF 256 KB Addasu adeilad allanol i uned wyliau (cynllun diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gais rhif C17/0945/14/LL). AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu adeilad allanol i uned wyliau
(cynllun diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd
o dan gais rhif C17/0945/14/LL). (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais ar gyfer addasu adeilad
allanol i lety gwyliau ynghyd â chodi porth ar edrychiad gorllewinol yr adeilad
a chodi crib y to 500mm yn uwch na’r crib presennol. Nododd
y lleolir yr anheddau agosaf i’r safle oddeutu
66m i’r de ar hyd ffordd sirol
ddi-ddosbarth Ffordd Cae Garw. Er
bod deiseb wedi ei gyflwyno yn
gwrthwynebu’r cais ar sail byddai’r bwriad yn debygol
o danseilio lles y gymuned gan ystyried
dwysedd, defnydd, natur a graddfa’r bwriad credir na
fyddai’n tarfu’n sylweddol ar fwynderau
presennol a chyffredinol deiliaid cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn a cholli preifatrwydd gan ystyried mai un uned wyliau yn
unig fwriedir ei ddarparu. Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei bod wedi gwybyddu trigolion cyfagos o’r cais o flaen llaw; ·
Nid oedd 59% o’r unigolion a
arwyddodd y ddeiseb a gyflwynwyd yn byw ar Ffordd Cae Garw felly ni fyddent yn
cael eu heffeithio; ·
Un uned gwyliau 2 ystafell
wely ar gyfer 4 person yn unig fyddai; ·
Bwriedir cadw cymeriad yr
eiddo presennol; ·
Ni fyddai’r datblygiad yn cael
effaith ar Ffordd Cae Garw. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Teulu ifanc eisio datblygu
adeilad a fyddai’n cyfrannu at yr economi lleol; ·
Trigolion hŷn yn
gwrthwynebu ar sail yr effaith ar y gymuned yn gyffredinol. Gyda phryderon y
byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail; ·
Nid oedd yn gwrthwynebu’r cais
os byddai’r bwriad yn cyd-fynd â’r amodau a argymhellir. (ch) Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd
y byddai’n gwneud defnydd o adeilad amaethyddol diddefnydd. Nid oedd angen
i drigolion bryderu am y datblygiad yn gosod cynsail; ·
Byddai’r bwriad yn ychwanegu
i’r ardal a’r economi yn
ogystal â thynnu’r pwysau yn yr
ardal o ran tai haf; ·
Byddai’r effaith ar drigolion
yn isel; ·
Bod yr adeilad yn cael
ei ddatblygu’n sensitif gyda defnydd
da o’r adeilad; ·
Ei fod yn drist na
ellir caniatáu ceisiadau i drosi
adeiladau amaethyddol yn dai ar
gyfer pobl lleol yn hytrach
na unedau gwyliau yn unig. PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Llechi naturiol. 4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr
o’r ymwelwyr. 5. Cwblhau’r gwaith yn unol gyda'r mesurau
lliniaru sydd wedi eu cynnwys yn rhan 5.1 a 5.2 Mesuriadau Lliniaru a
Gwelliannau Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig Green Man Ecology
dyddiedig 19 Awst, 2017. 6. Amod cydymffurfio gyda Safonau Prydeinig parthed addasrwydd yr offer trin carthion preifat presennol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5 |
|
Cais Rhif C17/1145/18/LL - Coed Bach Pengraig, Argraig, Seion, Llanddeiniolen, Caernarfon PDF 240 KB Sied ar gyfer defnydd coedwigaeth, rhodfa a llecyn parcio (cais rhannol ôl-weithredol). AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Sied
ar gyfer defnydd coedwigaeth, rhodfa a llecyn parcio (cais rhannol
ôl-weithredol). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y rhodfa i wasanaethu’r sied
eisoes yn ei le ac o wyneb llechi/cerrig siâl. Nododd y bwriedir defnyddio’r
sied i storio boncyffion yn sych ar gyfer defnydd personol yr ymgeisydd. Nododd y credir na fyddai’r sied yn creu strwythur
anghydnaws sylweddol o fewn y tirlun lleol gan ystyried ei osodiad, dyluniad
a’i edrychiad o fewn y goedlan. Tynnodd sylw y lleolir yr annedd agosaf i’r sied oddeutu 60m
i’r de-ddwyrain gydag anheddau preswyl eraill o fewn anheddle Seion wedi eu lleoli
oddeutu 120m i’r dwyrain. Gan ystyried graddfa a natur y sied ynghyd â’i
ddefnydd ar gyfer ymgymryd â gweithgareddau coedwigaeth credir na fyddai’r
datblygiad yn amharu’n sylweddol ar fwynderau cyffredinol a phreswyl deiliaid
cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais. Amodau: 1. Yn unol â’r cynlluniau. 2. Lliw gwyrdd tywyll i’r
edrychiadau allanol. 3. Cyfyngu’r defnydd i ddefnydd
coedwigaeth. 4. Cyfyngu’r
datblygiad i ddefnydd personol yr ymgeisydd ac nid ar gyfer
defnydd busnes. 5. Lliw
gwyrdd tywyll i’r gorchudd proffil
dur. |