Agenda item

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Louise Hughes

Cofnod:

Nododd Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon) oherwydd diddordeb lleol yn yr eitem yr argymhellir gohirio er mwyn ei ystyried yn y cyfarfod nesaf a oedd i’w gynnal yn Nolgellau ar 26 Chwefror.

 

Nododd yr aelod lleol ei bod yn gefnogol i ohirio’r eitem oherwydd y diddordeb yn lleol ac y byddai’n well ei ystyried pan gynhelir y cyfarfod yn Nolgellau.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r eitem. Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.

 

Awgrymodd aelod y dylid cynnal ymweliad safle. Holodd yr Uwch Gyfreithiwr ar ba sail yr awgrymir cynnal ymweliad safle o ystyried bod tystiolaeth ysgrifenedig a lluniau o arwyddion yn y lleoliad wedi eu cynnwys yn y rhaglen. Pwysleisiodd mai ystyriaeth i dystiolaeth o ran defnydd o’r llwybr neu o atal defnydd y gwneir wrth drafod cais o’r fath.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle er mwyn gweld y safle yn ei gyd-destun. Pleidleisiwyd ar y cynnig, fe syrthiodd y cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt os oedd mwy o wybodaeth ar gael o ran y cais, nododd yr Uwch Gyfreithiwr os oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiwn o ran y cais y dylent gysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon) ac y gallent ofyn am weld gwybodaeth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem.

Dogfennau ategol: