Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Menna Baines, Anwen Davies, R.Medwyn Hughes, Linda Ann Wyn Jones, Beth
Lawton a Peter Read. Hefyd y Cynghorydd
W.Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd
yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a
nodir: ·
Y Cynghorydd Cai Larsen yn eitem 5 (Strategaeth
Digartrefedd) oherwydd ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd Cartrefi Cymunedol
Gwynedd ·
Y Cynghorydd Dewi Roberts yn eitem 6 ( Recriwtio a
Chadw Staff Gofal Cartref) oherwydd bod ei wraig yn gweithio i’r Adran Gofal
fel gofalwraig Nid oeddynt o’r
farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2018 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol 13 Medi, 2018 fel
rhai cywir. |
|
STRATEGAETH DIGARTREFEDD PDF 82 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago I dderbyn adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn nodi bod Cyngor
Gwynedd wedi cynnal Adolygiad Strategol o Ddigartrefedd yn unol â gofynion
Deddf Tai Cymru (2014). Ategwyd bod canfyddiadau’r adolygiad yn gosod sylfaen i
ddatblygu Strategaeth Ddigartref a bod y Gwasanaeth Tai ar hyn o bryd yn
ymgynghori ar gamau gweithredu lleol fyddai’n ymateb i amcanion a gofynion y
Strategaeth. Cyfeiriwyd at y
crynodeb gweithredol oedd wedi cael ei gynnwys gyda’r adroddiad oedd yn cynnig
dadansoddiad manwl o lefelau a natur digartrefedd, awdit
o’r gwasanaethau ac adolygiad o’r adnoddau sydd ar gael i’w gwario ar
ddigartrefedd yn y Sir. Ategwyd bod y crynodeb gweithredol yn darparu
tystiolaeth ar gyfer Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ochr yn
ochr â Chynllun Gweithredu Darpariaeth Leol Digartrefedd Gwynedd. Derbyniwyd
cyflwyniad ar ffurf power point
gan yr Uwch Reolwr Tai a’r Rheolwr Digartrefedd a Tai Cefnogol yn crynhoi prif
ganfyddiadau'r adolygiad a’r ystyriaethau sydd wedi eu hadnabod. Amlygwyd bod
cynllun gweithredol lleol (2018-2022) wedi ei llunio fel ymateb i’r adolygiad
ac ar gael ar wefan y Cyngor Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r effaith mai credyd cynhwysol yn ei gael ar waith y Tim Digartrefedd, atgoffwyd yr aelodau nad oedd gwasanaeth
llawn Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno i Wynedd hyd yma ac mai ymgeiswyr
newydd yn unig sydd yn derbyn y cymorth. Er hynny, nodwyd bod gwaith yn cael ei
wneud i baratoi unigolion a theuluoedd ar gyfer y newid a bod swyddog priodol
ar gael i gynorthwyo gydag unigolion bregus. Anogwyd yr aelodau i gyfeirio
unrhyw geisiadau am gyngor i’r Swyddogion
Atebion Tai sydd ag arbenigedd yn y gwasanaeth. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r nifer uchel sydd yn cael eu troi allan o’u cartrefi oherwydd
diffyg talu rhent, amlygwyd bod y Tim Digartrefedd yn
awyddus iawn i gydweithio gyda’r Cymdeithasau Tai ac y byddai gwybodaeth am
unigolyn / deulu yn cael ei rannu i geisio datrysiad cyn i rywun gael eu troi
allan. Ategwyd bod gan y Cymdeithasau Tai gamau i geisio atal digartrefedd ac
os yw’r camau hynny i gyd wedi eu cymryd bydd y Gwasanaeth Digartrefedd yn camu
i mewn i gynorthwyo a chynnig cefnogaeth. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chapasiti y Gwasanaeth i
ymdrin â'r cynnydd yn y niferoedd sydd yn gofyn am gymorth nodwyd nad oedd
adnoddau digonol gan y Gwasanaeth Digartrefedd i ymdopi a’r gwaith ychwanegol. Awgrymodd yr Aelod Cabinet
y gellid cyflwyno adroddiad fyddai’n amlygu bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r
her y byddant yn ei wynebu i ymateb i’r cynnydd. Ategodd Pennaeth y Gwasanaeth
bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y person yn ganolog i’r
gwasanaeth a drwy ragweld y bydd cynnydd
pellach yn y galw, nodwyd bod bid ariannol wedi ei gyflwyno i gryfhau’r capasiti ar gyfer y galw cynyddol yma. Bydd rhaid gwneud y
defnydd gorau o’r adnodd a cheisio blaenoriaethu Nododd y Cadeirydd nad oedd eisiau gweld effaith Credyd Cynhwysol yn faich ychwnaegol ar swyddogion y Gwasanaeth ac y dylid amlygu unrhyw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RECRIWTIO A CHADW STAFF GOFAL CARTREF YNG NGWYNEDD - POBL HYN PDF 88 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd W.Gareth
Roberts I dderbyn adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Busnes yn amlygu canfyddiadau cychwynnol
ymchwiliad gan gwmni CELyn i’r maes recriwtio a chadw
staff gofal cartref yng Ngwynedd. Ategwyd y byddai’r adroddiad terfynol yn cael
ei gyflwyno fel rhan o ymchwiliad craffu gan y Pwyllgor sydd eisoes yn rhan o
raglen waith y Pwyllgor. Nodwyd bod y
sefyllfa wedi dirywio yn ddiweddar gyda rhestrau aros am ofal mewn rhannau o
Arfon a Phen Llyn yn ogystal a Meironnydd erbyn hyn.
Ategwyd bod hyn yn destun pryder i’r Adran ac yn golygu bod nifer o bobl yn
gorfod mynd heb ofal ar draws y Sir. Diolchwyd am yr
adroddiad a mynegwyd mai amserol oedd cyflwyno’r negeseuon cychwynnol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r niferoedd o becynnau sydd yn cael eu cyflwyno yn ôl
gan y sector breifat, nodwyd bod y wybodaeth ar gael a bod y sefyllfa yn cael
ei monitro Nododd Pennaeth y
Gwasanaeth bod canran uchel o weithwyr presennol o fewn oedran ymddeol ymhen 5
i 10 mlynedd a gallai hyn ychwanegu at y broblem i’r dyfodol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Bod angen sicrhau cynnal trafodaethau gyda’r Sector
Breifat ·
Bod angen denu pobl ifanc i lwybr gyrfa mewn gofal
- a oes modd darganfod beth yw’r demograffi a beth
oedd oedran pobl yn dechrau gweithio ym maes gofal ·
Angen targedu mwy o
ddynion i’r maes gofal ·
Nad oedd cael car yn angenrheidiol (fel gofynion
swydd) ymhob cymuned ·
Bod angen uchafu statws
y gwaith ·
Rhaid rhoi ystyriaethau
i gyflog a phwysau gwaith Amlygodd y Pennaeth Gwasanaeth y
byddai cynigion briff yr ymchwiliad i’w hawgrymu
mewn cyfarfod gyda’r Aelod Cabinet, Pennaeth y Gwasanaeth
a Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor er mwyn symud y gwaith
yn ei flaen fel maes blaenoriaeth. Gwnaed cais i'r aelodau gyfeirio eu
henwau ymlaen i’r Rheolwr Craffu os oedd ganddynt
ddiddordeb bod yn rhan o’r ymchwiliad. Awgrymwyd cael aelodau o’r trydydd
sector a phartneriaid i fod yn rhan o’r ymchwiliad hefyd. Diolchwyd
i’r swyddogion am y wybodaeth. Derbyniwyd
yr adroddiad |