Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn nodi bod Cyngor Gwynedd wedi cynnal Adolygiad Strategol o Ddigartrefedd yn unol â gofynion Deddf Tai Cymru (2014). Ategwyd bod canfyddiadau’r adolygiad yn gosod sylfaen i ddatblygu Strategaeth Ddigartref a bod y Gwasanaeth Tai ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gamau gweithredu lleol fyddai’n ymateb i amcanion a gofynion y Strategaeth.

 

Cyfeiriwyd at y crynodeb gweithredol oedd wedi cael ei gynnwys gyda’r adroddiad oedd yn cynnig dadansoddiad manwl o lefelau a natur digartrefedd, awdit o’r gwasanaethau ac adolygiad o’r adnoddau sydd ar gael i’w gwario ar ddigartrefedd yn y Sir. Ategwyd bod y crynodeb gweithredol yn darparu tystiolaeth ar gyfer Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ochr yn ochr â Chynllun Gweithredu Darpariaeth Leol Digartrefedd Gwynedd.

 

Derbyniwyd cyflwyniad ar ffurf power point gan yr Uwch Reolwr Tai a’r Rheolwr Digartrefedd a Tai Cefnogol yn crynhoi prif ganfyddiadau'r adolygiad a’r ystyriaethau sydd wedi eu hadnabod. Amlygwyd bod cynllun gweithredol lleol (2018-2022) wedi ei llunio fel ymateb i’r adolygiad ac ar gael ar wefan y Cyngor

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith mai credyd cynhwysol yn ei gael ar waith y Tim Digartrefedd, atgoffwyd yr aelodau nad oedd gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno i Wynedd hyd yma ac mai ymgeiswyr newydd yn unig sydd yn derbyn y cymorth. Er hynny, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i baratoi unigolion a theuluoedd ar gyfer y newid a bod swyddog priodol ar gael i gynorthwyo gydag unigolion bregus. Anogwyd yr aelodau i gyfeirio unrhyw geisiadau am gyngor  i’r Swyddogion Atebion Tai sydd ag arbenigedd yn y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r nifer uchel sydd yn cael eu troi allan o’u cartrefi oherwydd diffyg talu rhent, amlygwyd bod y Tim Digartrefedd yn awyddus iawn i gydweithio gyda’r Cymdeithasau Tai ac y byddai gwybodaeth am unigolyn / deulu yn cael ei rannu i geisio datrysiad cyn i rywun gael eu troi allan. Ategwyd bod gan y Cymdeithasau Tai gamau i geisio atal digartrefedd ac os yw’r camau hynny i gyd wedi eu cymryd bydd y Gwasanaeth Digartrefedd yn camu i mewn i gynorthwyo a chynnig cefnogaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti y Gwasanaeth i ymdrin â'r cynnydd yn y niferoedd sydd yn gofyn am gymorth nodwyd nad oedd adnoddau digonol gan y Gwasanaeth Digartrefedd i ymdopi a’r  gwaith ychwanegol. Awgrymodd yr Aelod Cabinet y gellid cyflwyno adroddiad fyddai’n amlygu bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r her y byddant yn ei wynebu i ymateb i’r cynnydd. Ategodd Pennaeth y Gwasanaeth bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y person yn ganolog i’r gwasanaeth a drwy ragweld y  bydd cynnydd pellach yn y galw, nodwyd bod bid ariannol wedi ei gyflwyno i gryfhau’r capasiti ar gyfer y galw cynyddol yma. Bydd rhaid gwneud y defnydd gorau o’r adnodd a cheisio blaenoriaethu

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd eisiau gweld effaith Credyd Cynhwysol yn faich ychwnaegol ar swyddogion y Gwasanaeth ac y dylid amlygu unrhyw bryderon i’r Pwyllgor cyn i’r sefyllfa ddirwyio.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd Taliadau Tal Dewisol a honiad bod Cyngor Gwynedd yn dychwelyd yr arian sydd ddim yn cael ei ddefnyddio, awgrymwyd y dylid gofyn i’r Pennaeth Cyllid am ddiweddariad. Ategodd y Rheolwr Digartrefedd bod Cyngor Gwynedd yn gwneud defnydd llawn o gyllideb Taliadau Tal Dewisol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â darpariaeth ar gyfer pobl ifanc sydd yn gadael carchar nodwyd bod swyddog penodol yn cydlynu'r gwaith yma drwy adnabod anghenion llety cyn ymadael a’r carchar. Ategwyd bod y Swyddog ar restr fer gwobr ‘Cymorth Cymru’ gan fod y cynllun wedi ei adnabod fel un arloesol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen ystyried darpariaeth y sector breifat - angen sicrhau bod safon y tai yn cyrraedd y gofynion statudol

·         Bod yr adolygiad yn cyfleu’r problemau ond dim datrysiadau

·         Bod angen dod a mwy o dai gwag yn nol i ddefnydd

·         Wylfa - angen cydweithio gyda Môn i geisio adnabod elfennau fydd yn creu effaith

·         Bod angen rhannu ymarfer da gyda chynghorau eraill

·         Awgrym i adolygu’r system pwyntiau - nid yw’r drern bresennol yn adlewyrchu sefyllfa argyfyngus unigolion / teuluoedd

·         A yw dyfodiad Airbnb yn lleihau niferoedd eiddo sydd ar gael ar gyfer cartrefi

·         Awgrym i greu rhestr o’r ddarpariaeth sydd ar gyfer y digartrefedd fesul ardal

·         A oes modd i’r Cyngor sefydlu cwmni hyd braich i ddarparu tai cymdeithasol

 

            Nododd yr Aelod Cabinet bod adolygiad yn cael ei wneud o’r system bwyntiau      ac y bydd cyfle i ymgynghori ar y cynigion. Amlygwyd hefyd  y bydd Strategaeth Tai yn cael ei gyflwyno yn fuan fydd yn adnabod meysydd      penodol ac yn gyfle i ystyried syniadau amgen a chreadigol.

 

            Penderfynwyd:

·         derbyn y wybodaeth

·         llongyfarch y Gwasaneth am gyrraedd rhestr fer ‘Cymorth Cymru’

·         gofyn i’r Aelod Cabinet gyfarch sylwadau’r aelodau wrth lunio’r Strategaeth Tai

 

Dogfennau ategol: