Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Williams 01286 672729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwr Keith Jones, Dilwyn Ellis Hughes (UCAC), David Healy (Undebau
Athrawon), Karen Vaughan Jones (Cynrychiolaeth Rhieni - Llywodraethwr Ardal
Dwyfor). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I
dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 166 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017, fel rhai cywir. (Copi’n amgaedig) Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd y cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29
Mehefin 2017, fel rhai cywir. |
|
DARPARU CYFLEUSTERAU HAMDDEN - SEFYDLU CWMNI WEDI EI REOLI GAN Y CYNGOR PDF 494 KB I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai, Hamdden a Diwylliant. Mae’r atodiadau ar wahan ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig. Mae’r eitemau
yn eithredig o dan Paragraffau 14 ac 16 o Atodiad 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth yn ymwuneud
a materion ariannol, busnes a chyfreithiol). Mae’r adroddiad blaen yn
agored ond mae’r atodiadau yn cynnwys gwybodaeth masnachol a chyfreithiol
sensitif. Hynny oherwydd y byddai rhyddhau yr atodiadau yn llawn yn caniatáu i
gyflenwyr annibynnol o’r Cyngor ddod i gasgliadau ynglŷn â pherfformiad
ariannol ynghyd â ffioedd rheoli y gwahanol fodelau darparu. Yn sgil hynny,
gall rhyddhau danseilio unrhyw drefniadau caffael i’r dyfodol fyddai’n gadael y
Cyngor yn agored i risg ariannol o safbwynt rheoliadau caffael .Mae hefyd yn
cynnwys cyngor cyfreithiol fyddai yn ddarostyngedig i fraint cyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol yn amlinellu’r sail dros argymell sefydlu Cwmni sydd
wedi ei reoli gan y Cyngor i ddarparu cyfleusterau hamdden o fewn y sir.
Ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:- § Cholli rheolaeth
ddemocrataidd drwy’r sefydlu’r cwmni newydd. § Gwersi a ddysgwyd
o gynghorau eraill sydd wedi mabwysiadu model tebyg. § Pwysigrwydd
ystyried y risg o wrthdaro gan y bydd y cyfarwyddwr yn ymatebol i ddeddf y
Cwmni ac i Gyngor Gwynedd. § Pryder ynglŷn
â statws y Gymraeg mewn canolfannau hamdden a phwysigrwydd rôl y Cyngor i
ddiogelu’r iaith rhag dirywiad pellach. § Bwriad y Cwmni i
gefnogi canolfannau sydd yn fethiant ariannol. § Trefniant rheoli
adeiladau. § Arbedion staff. § Hawl y Cyngor i
benodi aelodau i Fwrdd Rheoli’r Cwmni. § Sicrhau bod y
Cwmni ddim yn mynd lawr yr un trywydd a CCG, lle nad oedd yr iaith Gymraeg yn
hanfodol i swydd y cyfarwyddwr. § Pwysigrwydd penodi
arweinydd ddeinameg, rhagweithiol gyda gweledigaeth ddatblygiadol gref. § Sicrhau
gweledigaeth arloesol i ddatblygu’r gwasanaeth. § Ymrwymiad y cwmni
i weithio tuag at amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Crynhodd y Cadeirydd y prif gasgliadau’r
drafodaeth a nodwyd:- § Y dylid argymell
opsiwn chwech, sef sefydlu cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor. § Bod angen i
Aelodau’r Pwyllgor graffu ymhellach wrth i’r gwaith datblygu manylion y cwmni
ddod i law. PENDERFYNWYD: Argymell opsiwn chwech. |
|
CANLYNIADAU'R HAF 2017 PDF 556 KB Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad gan Aelod Cabinet
Addysg a Phennaeth Addysg yn cyflwyno gwybodaeth gynnar i aelodau etholedig ar
berfformiad diwedd cyfnodau allweddol y flwyddyn addysgol 2016/17. Ymatebwyd i
gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:- § Pryder bod asesu’r
Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi’r Cyngor o dan anfantais. § Mesurydd Prydau
Ysgol Ddi-dâl yn gamarweiniol ac yn awgrymu bod Gwynedd yn un o’r siroedd
cyfoethocaf yn genedlaethol pan mae rhai ardaloedd o fewn y sir wedi derbyn
mynediad i gronfeydd strwythurol Ewrop oherwydd eu tlodi. § Awgrym i
wahaniaethu rhwng perfformiad plant o gartrefi Cymraeg a pherfformiad plant o
gartrefi di-gymraeg er mwyn gallu cymharu gyda siroedd eraill. § Mynegwyd siom bod
llenyddiaeth ddim yn bwnc sy’n cael ei gynnwys fel rhan o’r prif fesurydd CA4. § Pontio’r berthynas
‘hyd fraich’ sydd yn bodoli rhwng penaethiaid ysgolion ac ymarferwyr y Cyfnod
Sylfaen i waredu’r ddau ddiwylliant o ddysgu mewn ysgolion. § Ymyrraeth GwE yn
CA3. § Yr effaith mae
sefyll arholiadau yn gynharach yn gael ar ganlyniadau CA4. Yn ystod trafodaeth ynglŷn â’r ffactorau
sy’n cyfrannu at ganlyniadau'r Cyfnod Sylfaen, nododd Cynrychiolydd Cyfnod
Cynradd Gwe'r pwyntiau canlynol: § Mae problemau
ynglŷn ag asesiadau athrawon ac mae GwE wedi gweithio gyda phenaethiaid i
osod allan safonau disgyblion, safonau’r ddarpariaeth a’r disgwyliadau o
safbwynt y penaethiaid a’r uwch dimau rheoli addysg. § Mae cael cysondeb
ynglŷn â diffiniad ‘ffit orau’ wrth roi unrhyw fath o asesiad i blentyn yn
anodd iawn. Nodwyd bod y chwe Chyfarwyddwr Addysg Ranbarthol wedi cyd-weithio
gyda GwE i gyhoeddi datganiad rhanbarthol, sy’n gosod allan bod unrhyw asesiad
athro yn seiliedig ar farn broffesiynol athrawon, ac mae canllawiau clir yn
esbonio sut i ddod i’r farn hwnnw. § Mae her ychwanegol
yn y Cyfnod Sylfaen eleni. Bydd plant ar ddiwedd y cyfnod yn cael eu hasesu yn
erbyn set o ddeilliannau diwygiedig newydd, ac mae elfennau mwy heriol ynddynt
na’r llynedd. O ganlyniad i’r newid yma, mae GwE yn rhedeg rhaglen hyfforddiant
i athrawon er mwyn i ysgolion gwrdd â’r anghenion a’r disgwyliadau ychwanegol. Yn ystod trafodaeth ynglŷn â
chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 nodwyd y canlynol:- § Mae cwymp wedi bod
yng nghanlyniadau CA4 yng Ngwynedd, ac ar draws Cymru. Pwysleisir bod y manylebau wedi newid yn
sylweddol eleni, yn enwedig yn y prif fesurydd (TL2+), sef Mathemateg,
Gwyddoniaeth, a Chymraeg (Iaith) neu Saesneg (Iaith). Y prif newidiadau yw bod
Mathemateg wedi’i rannu i ddau, sef rhifedd a mathemateg, ac nid yw
llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg yn cyfri i’r TL2+. Oherwydd y newidiadau hyn,
does dim modd dwyn cymhariaeth rhwng canlyniadau CA4 eleni a chanlyniadau’r
blynyddoedd blaenorol. Mae’n rhaid edrych felly ar safle Gwynedd yn y rhanbarth
ac yn genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae Gwynedd yn y safle cyntaf yn
rhanbarthol ac yn bumed yn genedlaethol. Penderfynwyd: § Derbyn, nodi a
diolch am yr adroddiad. § Y Pwyllgor i adolygu’r gwaith sydd ar y gweill yn y Cyfnod Sylfaen i sicrhau eu bod yn dod i wraidd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
STRATEGAETH IAITH UWCHRADD PDF 258 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad, ynghyd â fersiwn ddrafft o Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd, gan y
Swyddog Addysg Ardal a oedd yn cyfarch nifer o gwestiynau a ddarparwyd gan
aelodau’r pwyllgor o flaen llaw. Ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan
aelodau unigol mewn perthynas â:- § Cyfle i’r Pwyllgor
Iaith graffu’r strategaeth. § I ba raddau mae’r
awdurdod yn gallu ymyrryd mewn ysgolion lle mae’r Gymraeg yn dirywio? § Cost canolfannau
trochi iaith a phwy sydd yn talu amdanynt, yn gyd-destun Wylfa B. § Pwysigrwydd rôl
ysgolion i drefnu ‘gigiau’ Cymraeg i hyrwyddo bywyd cymdeithasol yn y Gymraeg. § Pwysigrwydd rôl y
Cynghorau Ysgol i alluogi disgyblion berchnogi’r strategaeth. § Sut mae’r Cyngor
yn hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil gwaith? § Pwysigrwydd
canolbwyntio ac annog pobl ifanc i gyfathrebu’n ddigidol drwy gyfrwng y
Gymraeg. Penderfynwyd: § Derbyn, nodi a
diolch am yr adroddiad. |