Cofnod:
Cyflwynwyd - adroddiad gan Aelod Cabinet
Addysg a Phennaeth Addysg yn cyflwyno gwybodaeth gynnar i aelodau etholedig ar
berfformiad diwedd cyfnodau allweddol y flwyddyn addysgol 2016/17. Ymatebwyd i
gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-
§ Pryder bod asesu’r
Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi’r Cyngor o dan anfantais.
§ Mesurydd Prydau
Ysgol Ddi-dâl yn gamarweiniol ac yn awgrymu bod Gwynedd yn un o’r siroedd
cyfoethocaf yn genedlaethol pan mae rhai ardaloedd o fewn y sir wedi derbyn
mynediad i gronfeydd strwythurol Ewrop oherwydd eu tlodi.
§ Awgrym i
wahaniaethu rhwng perfformiad plant o gartrefi Cymraeg a pherfformiad plant o
gartrefi di-gymraeg er mwyn gallu cymharu gyda siroedd eraill.
§ Mynegwyd siom bod
llenyddiaeth ddim yn bwnc sy’n cael ei gynnwys fel rhan o’r prif fesurydd CA4.
§ Pontio’r berthynas
‘hyd fraich’ sydd yn bodoli rhwng penaethiaid ysgolion ac ymarferwyr y Cyfnod
Sylfaen i waredu’r ddau ddiwylliant o ddysgu mewn ysgolion.
§ Ymyrraeth GwE yn
CA3.
§ Yr effaith mae
sefyll arholiadau yn gynharach yn gael ar ganlyniadau CA4.
Yn ystod trafodaeth ynglŷn â’r ffactorau
sy’n cyfrannu at ganlyniadau'r Cyfnod Sylfaen, nododd Cynrychiolydd Cyfnod
Cynradd Gwe'r pwyntiau canlynol:
§ Mae problemau
ynglŷn ag asesiadau athrawon ac mae GwE wedi gweithio gyda phenaethiaid i
osod allan safonau disgyblion, safonau’r ddarpariaeth a’r disgwyliadau o
safbwynt y penaethiaid a’r uwch dimau rheoli addysg.
§ Mae cael cysondeb
ynglŷn â diffiniad ‘ffit orau’ wrth roi unrhyw fath o asesiad i blentyn yn
anodd iawn. Nodwyd bod y chwe Chyfarwyddwr Addysg Ranbarthol wedi cyd-weithio
gyda GwE i gyhoeddi datganiad rhanbarthol, sy’n gosod allan bod unrhyw asesiad
athro yn seiliedig ar farn broffesiynol athrawon, ac mae canllawiau clir yn
esbonio sut i ddod i’r farn hwnnw.
§ Mae her ychwanegol
yn y Cyfnod Sylfaen eleni. Bydd plant ar ddiwedd y cyfnod yn cael eu hasesu yn
erbyn set o ddeilliannau diwygiedig newydd, ac mae elfennau mwy heriol ynddynt
na’r llynedd. O ganlyniad i’r newid yma, mae GwE yn rhedeg rhaglen hyfforddiant
i athrawon er mwyn i ysgolion gwrdd â’r anghenion a’r disgwyliadau ychwanegol.
Yn ystod trafodaeth ynglŷn â
chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 nodwyd y canlynol:-
§ Mae cwymp wedi bod
yng nghanlyniadau CA4 yng Ngwynedd, ac ar draws Cymru. Pwysleisir bod y manylebau wedi newid yn
sylweddol eleni, yn enwedig yn y prif fesurydd (TL2+), sef Mathemateg,
Gwyddoniaeth, a Chymraeg (Iaith) neu Saesneg (Iaith). Y prif newidiadau yw bod
Mathemateg wedi’i rannu i ddau, sef rhifedd a mathemateg, ac nid yw
llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg yn cyfri i’r TL2+. Oherwydd y newidiadau hyn,
does dim modd dwyn cymhariaeth rhwng canlyniadau CA4 eleni a chanlyniadau’r
blynyddoedd blaenorol. Mae’n rhaid edrych felly ar safle Gwynedd yn y rhanbarth
ac yn genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae Gwynedd yn y safle cyntaf yn
rhanbarthol ac yn bumed yn genedlaethol.
Penderfynwyd:
§ Derbyn, nodi a
diolch am yr adroddiad.
§ Y Pwyllgor i
adolygu’r gwaith sydd ar y gweill yn y Cyfnod Sylfaen i sicrhau eu bod yn dod i
wraidd y broblem.
§ Y Pwyllgor i gael
y ffigyrau ysgolion a cholegau yn llawn wedi iddynt gael eu dilysu.
Dogfennau ategol: