Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau allan
y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem ganlynol gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf LLywodraeth Leol 1972.Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n
gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r
budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan
4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ysytried cais gan Mr A (copi arwahan i’r Aelodau yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr
adroddiad yn argymell gwrthod y cais Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y drosedd o drais yn 2014
yn un o daro yn ôl pan wnaeth ei gynbartner ymddwyn yn ymosodol tuag ato. Nododd ei fod yn gyrru tacsis ers 2008 ac wedi derbyn trwydded ar ôl y
gollfarn yn 2014. Daeth y drwydded i ben yn 2019. Amlygodd cyflogwr yr
ymgeisydd ei bod yn ei adnabod ers dros 20mlynedd ac nad oedd wedi derbyn
unrhyw gwynion am ei ymddygiad yn y cyfnod hwnnw. Ategodd bod y digwyddiad o
daro yn ôl yn un allan o gymeriad. Nid oedd ganddi unrhyw bryderon nac
amheuaeth dros barhau i’w gyflogi ac roedd yn ymddiried ynddo. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r
ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS Yn Mawrth 1983
derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Blaenau Ffestiniog am gyfres o
5 cyhuddiad yn gysylltiedig â chymryd cerbyd heb awdurdod yn groes i Adran
12(1) Deddf Dwyn 1968. Am y troseddau hyn derbyniodd gyfanswm mewn dirywon o
£113, ei wahardd rhag gyrru am 12 mis a derbyn pwyntiau ar ei drwydded gyrru.
Yn mis Chwefror 1984 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Blaenau Ffestiniog am
un cyhuddiad o ddwyn o eiddo nad oedd yn eiddo preswyl - hyn yn groes i Adran9
(1) (B) Deddf Dwyn 1968. Cafodd ryddhad amodol o 12 mis, gorchymyn i dalu
costau o £3 ac iawndal o £29. Ym mis Mai 2014 derbyniodd gollfarn gan Lys
Ynadon Gwynedd am un cyhuddiad o guro yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol
1998. Derbyniodd orchymyn cymunedol gyda gorchmynion goruchwyliaeth a gwaith di
dal, costau o £85 a gordal dioddefwr o £60.
|