I ysytried cais gan Mr A
(copi arwahan i’r Aelodau yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr
adroddiad yn argymell gwrthod y cais
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y drosedd o drais yn 2014
yn un o daro yn ôl pan wnaeth ei gynbartner ymddwyn yn ymosodol tuag ato.
Nododd ei fod yn gyrru tacsis ers 2008 ac wedi derbyn trwydded ar ôl y
gollfarn yn 2014. Daeth y drwydded i ben yn 2019. Amlygodd cyflogwr yr
ymgeisydd ei bod yn ei adnabod ers dros 20mlynedd ac nad oedd wedi derbyn
unrhyw gwynion am ei ymddygiad yn y cyfnod hwnnw. Ategodd bod y digwyddiad o
daro yn ôl yn un allan o gymeriad. Nid oedd ganddi unrhyw bryderon nac
amheuaeth dros barhau i’w gyflogi ac roedd yn ymddiried ynddo.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r
ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar a gyflwynodd
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
Yn Mawrth 1983
derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Blaenau Ffestiniog am gyfres o
5 cyhuddiad yn gysylltiedig â chymryd cerbyd heb awdurdod yn groes i Adran
12(1) Deddf Dwyn 1968. Am y troseddau hyn derbyniodd gyfanswm mewn dirywon o
£113, ei wahardd rhag gyrru am 12 mis a derbyn pwyntiau ar ei drwydded gyrru.
Yn mis Chwefror 1984 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Blaenau Ffestiniog am
un cyhuddiad o ddwyn o eiddo nad oedd yn eiddo preswyl - hyn yn groes i Adran9
(1) (B) Deddf Dwyn 1968. Cafodd ryddhad amodol o 12 mis, gorchymyn i dalu
costau o £3 ac iawndal o £29. Ym mis Mai 2014 derbyniodd gollfarn gan Lys
Ynadon Gwynedd am un cyhuddiad o guro yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol
1998. Derbyniodd orchymyn cymunedol gyda gorchmynion goruchwyliaeth a gwaith di
dal, costau o £85 a gordal dioddefwr o £60.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r
nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei
wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae adran 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais. Fe nodir ym
mharagraffau 6.3 - 6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd
yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn rhestru troseddau
ac mae ymosodiad cyffredin yn cael ei gynnwys yn y rhestr.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff
8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr ymgeisydd
gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd cyn
dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill,
byrgleriaeth, mynd a cherbyd heb ganiatâd a lladrata.
Mae paragraff 12.2 o’r
Polisi yn nodi y bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes cofnod o
waharddiad gyrru am gyfnod o 12 mis neu
fwy, oni bai bod 18 mis wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.
Mae paragraff 16.1 o’r
Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r
polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos
diffyg parch at les eraill ac eiddo. O
dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd
wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod troseddau 1983 a 1984 yn ymwneud
a throseddau o anonestrwydd. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi
digwydd dros 35 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff
8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.
Wrth ystyried y
drosedd o yrru a arweiniodd at waharddiad gyrru, amlygwyd bod y gwaharddiad
wedi dirwyn i ben 35 o flynyddoedd yn ôl ac felly nid oedd paragraff 12.2 yn
goroesi fel sail i wrthod y cais.
Daeth yr
Is-bwyllgor i benderfyniad bod collfarn 2014 yn un o drais, fodd bynnag gan fod
y drosedd wedi digwydd dros 5 mlynedd yn ôl, nid yw yn sail i wrthod y cais.
Er i’r Is-bwyllgor
ddod i’r casgliad nad oedd y collfarnau unigol yn sail i wrthod y cais,
penderfynwyd ystyried y collfarnau gyda'i gilydd o dan baragraff 16.1.
Daethpwyd i’r canlyniad bod y collfarnau oedd yn ymwneud ag anonestrwydd a
thrais yn dangos hanes o aildroseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill
neu at eiddo. O ganlyniad, roedd yr
ystyriaeth hon yn sail i wrthod y cais. Nid yw darpariaethau'r Polisi yn
orfodol a bod modd gwyro oddi wrth yr argymhellion os yw ffeithiau’r achos yn
caniatáu hynny. Wrth ystyried a ddylid gweithredu disgresiwn i wyro oddi wrth y
sail, rhoddwyd ystyriaeth i ddifrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad
cyflawni, dyddiad collfarnu, oed yr ymgeisydd yn troseddu y ddedfryd a roddwyd,
patrwm o droseddu yn ogystal ag unrhyw ffactor berthnasol arall.
Rhoddwyd ystyriaeth
benodol i’r
·
eglurhad a dderbyniwyd i gefndir y collfarnau
·
bod collfarnau 1983 ac 1984 wedi digwydd dros 35
mlynedd yn ôl
·
nad oedd perthnasedd rhwng y troseddau hanesyddol
hyn a throsedd 2014
·
bod yr ymgeisydd eisoes wedi bod yn ddeilydd
trwydded gyrru tacsi ers 2008. Er nad oedd ateb na rheswm dros i’r ymgeisydd
dderbyn trwydded ar ôl collfarn 2014, mynegwyd bod y gwrandawiad yn ffurfioli’r
drefn.
·
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi bod yn gyrru tacsi heb
unrhyw ddigwyddiad wedi ei gofnodi ers collfarn 2014 - ysytriwyd hyn yn elfen
gref o blaid yr ymgeisydd i wyro oddi wrth y sail i wrthod y cais.
Wedi pwyso a mesur
y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gwyro oddi
wrth y Polisi a phenderfynu bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.