Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd
Louise Hughes. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod
gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn
eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Mynegodd yr Is-bwyllgor siom nad oedd
yr ymgeisydd wedi troi fyny
i’r gwrandawiad.. Amlygwyd bod y Swyddog Trwyddedu wedi derbyn e-bost gan yr ymgeisydd yn
cadarnhau ei fwriad i fynychu’r gwrandawiad. Gofynnwyd i’r Rheolwr Trwyddedu
gysylltu â’r ymgeisydd drwy ei ffôn symudol,
ond ni chafwyd ateb gan yr ymgeisydd. Penderfynwyd parhau gyda’r gwrandawiad yn absenoldeb yr ymgeisydd.. Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor
ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat a
ni chaniatawyd
cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat. Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd ynghyd a thystysgrif cwblhau cwrs gyrru a dau
hysbysiad cosb benodedig a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru 6.1.17 • adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Yn dilyn
dyfarniad gan Lys Ynadon am un drosedd o ladrad yn 2001, amlygwyd yn unol
â pharagraff 8.2 o Bolisi’r
Cyngor y dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd
heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. Gyda’r gollfarn yn dyddio yn
ôl 15 mlynedd, nid oedd yr Is-bwyllgor
yn ystyried bod y gollfarn yma yn sail
i wrthod y cais. Yn dilyn
gwaharddiad am 12 mis, o yfed a gyrru yn
Ebrill 2009 (a gafodd ei leihau i 9 mis yn dilyn cwblhau
cwrs), derbyniwyd, yn unol â chymal
12.10 o Bolisi’r Cyngor y byddai cais yn cael
ei wrthod os oes collfarn ddiweddar
yn erbyn yr ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad o 12 mis
neu fwy, onid oes cyfnod
o 18 mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad. Gyda gwaharddiad y gollfarn yn dyddio
yn ôl i 2010, nid oedd yr Is-bwyllgor
yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod
y cais. Yn dilyn rhybudd gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ymwneud â honiad bod yr ymgeisydd wedi ymosod / cam-drin neu esgeuluso plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf diangen yn Chwefror 2013, nodwyd bod manylion y datganiad DBS yn annelwig. Gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar gefndir yr honiad, bu i’r Is-bwyllgor ei ystyried fel ‘ymosodiad ar blentyn’. Yn ôl cymal 7.2 o Bolisi’r Cyngor, oni cheir amgylchiadau eithriadol bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes troseddau sydd yn ymwneud â phant neu oedolion diamddiffyn Nodwyd nad oedd terfyn amser amodol yn cael ei gynnwys yng nghymal 7.2 a gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar gefndir ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |