Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Mynegodd yr Is-bwyllgor siom nad oedd yr ymgeisydd wedi troi fyny i’r gwrandawiad..

 

Amlygwyd bod y Swyddog Trwyddedu wedi derbyn e-bost gan yr ymgeisydd yn cadarnhau ei fwriad i fynychu’r gwrandawiad. Gofynnwyd i’r Rheolwr Trwyddedu gysylltu â’r ymgeisydd drwy ei ffôn symudol, ond ni chafwyd ateb gan yr ymgeisydd.

 

Penderfynwyd parhau gyda’r gwrandawiad yn absenoldeb yr ymgeisydd..

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD  nad oedd yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a ni  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

           gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd ynghyd a thystysgrif cwblhau cwrs gyrru a dau hysbysiad cosb benodedig a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru 6.1.17

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Yn dilyn dyfarniad gan Lys Ynadon am un drosedd o ladrad yn 2001, amlygwyd yn unol â pharagraff 8.2 o Bolisi’r Cyngor y dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. Gyda’r gollfarn yn dyddio yn ôl 15 mlynedd, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gollfarn yma yn sail i wrthod y cais.

 

Yn dilyn gwaharddiad am 12 mis, o yfed a gyrru yn Ebrill 2009 (a gafodd ei leihau i 9 mis yn dilyn cwblhau cwrs), derbyniwyd, yn unol â chymal 12.10 o Bolisi’r Cyngor  y byddai cais yn cael ei wrthod os oes collfarn ddiweddar yn erbyn yr ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad o 12 mis neu fwy, onid oes cyfnod o 18 mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad. Gyda gwaharddiad y gollfarn yn dyddio yn ôl i 2010, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod y cais.

 

Yn dilyn rhybudd gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ymwneud â honiad bod yr ymgeisydd wedi ymosod / cam-drin neu esgeuluso plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf diangen yn Chwefror  2013, nodwyd bod manylion y datganiad DBS yn annelwig. Gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar gefndir yr honiad, bu i’r Is-bwyllgor ei ystyried felymosodiad ar blentyn’. Yn ôl cymal 7.2 o Bolisi’r Cyngor, oni cheir amgylchiadau eithriadol bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes troseddau sydd yn ymwneud â phant neu oedolion diamddiffyn Nodwyd nad oedd terfyn amser amodol yn cael ei gynnwys yng nghymal 7.2 a gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar gefndir y gollfarn teimlwyd nad oedd modd ystyried yr amgylchiadau yn rhai eithriadol. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y rhybudd yn berthnasol i’r cymal yma.

 

Yn dilyn hysbysiadau cosb benodedig gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â dwy drosedd: gyrru heb dystysgrif MOT, a gyrru car heb yswiriant, yn Rhagfyr 2016, nid oedd yn amlwg o’r dogfennau a gyflwynwyd  bod y cosbau penodedig wed eu talu / herio. Yn ychwanegol, roedd yr Is-bwyllgor yn pryderu nad oedd  yr ymgeisydd yn cydffurfio â materion diogelwch teithwyr Yn unol â  chymal 12.2 o Bolisi’r Cyngor  > collfarnau moduro, byddai’r ddau drosedd yn gyfystyr â ‘troseddau traffig difrifol’. O dan gymal 12.4,  nodwyd y byddai cais yn cael ei wrthod os yw’r ymgeisydd wedi cyflawni mwy nag un Drosedd Traffig Difrifol, o fewn y 5 mlynedd diwethaf ac ni ddylid ystyried unrhyw gais pellach hyd nes bod cyfnod o 3 blynedd o leiaf wedi mynd heibio. Gyda’r hysbysiadau cosb benodedig wedi eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2017, roedd yr Is bwyllgor o’r farn bod yr hysbysiadau hyn yn berthnasol i’r cymal.

 

Mynegwyd siom nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol i gyflwyno sylwadau ar gefndir ei droseddau  ac i ymateb i gwestiynau perthnasol. Mynegwyd siom hefyd nad oedd  cyflogwr parod yr ymgeisydd wedi cyflwyno geirda na phresenoli ei hunain yn y gwrandawiad

 

Ar sail yr wybodaeth oedd ar gael, i’r Is-bwyllgor, daethpwyd i’r penderfyniad bod y rhybudd a dderbyniwyd yn 2012 a’r ddau hysbysiad cosb benodedig yn 2017 yn rhesymau digonol i’r Is-bwyllgor gadw at y polisi a gwrthod y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai hawl i’r ymgeisydd apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.