Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd
yn bresennol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod
gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn
eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat
o’r newydd. Ategwyd bod datganiad o gollfarn wedi ei
gyflwyno yn nodi bod gan yr
ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol
i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, ac yn unol
â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Rhoddwyd gwybodaeth am gefndir y troseddau a nododd
bod tri o’r troseddau wedi digwydd ar noson Galan Gaeaf lle aeth cast o chwith.
Cyfeiriwyd at y troseddau eraill fel rhai hanesyddol. Ategwyd bod yr ymgeisydd
yn gweithio fel gyrrwr i gwmni lleol a’i fod hefyd wedi
derbyn trwydded gyrru cerbyd hacni gan Cyngor
Môn (Rhagfyr 31ain 2016). Nodwyd nad oedd gwrandawiad wedi ei gynnal ac mai
cais i gyflwyno gwybodaeth ar bapur yn unig ydoedd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais. Derbyniodd yr
Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion canlynol : • gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd • sylwadau llafar yr ymgeisydd
a’i gynrychiolydd • adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS PENDERFYNODD YR
IS-BWYLLGOR OHIRIO Y CAIS Rhoddodd yr
Is-bwyllgor y rhesymau canlynol dros eu penderfyniad : ·
Roedd y cofnod
DBS yn datgan bod euogfarnau lluosog ar gyfer
trosedd o ddifrod gyda’r un mwyaf diweddaraf yn 2011. ·
Yn ystod y gwrandawiad amlygwyd bod yr ymgeisydd
wedi derbyn trwydded cerbyd gyrru cerbyd hacni
/ hurio preifat gan Cyngor
Sir Ynys Môn (CSYM) ar 31 Rhagfyr 2016 (cyflwynwyd cerdyn adnabod trwydded i dystiolaethu hyn). Amlygwyd nad oedd manylion
trwydded CSYM wedi eu datgelu ar y ffurflen
gais wreiddiol, ond dadleuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod
Uned Trwyddedu Cyngor Gwynedd (CG) yn ymwybodol o drwydded CSYM. Er hynny, nid oedd unrhyw fanylion am y penderfyniad wedi ei rannu,
megis dyddiad y cafodd Uned Trwyddedu CG eu hysbysu, pa swyddog a hysbyswyd
a thrwy ba ddull o gyfathrebu. Cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd
gan yr Uned Trwyddedu CG wybodaeth am drwydded
CSYM. ·
Bod angen gwybodaeth bellach ynglŷn â thrwydded CSYM cyn bod mewn
sefyllfa i wneud penderfyniad terfynol. ·
Bod angen i Uned Trwyddedu CG wneud ymholiadau gydag Uned Trwyddedu CSYM ar y materion canlynol: a. Cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi derbyn trwydded gyrru cerbyd hacni
/ hurio preifat b. Gwirio cynnwys
dogfen bolisi CSYM ar geisiadau am
dderbyn trwydded gyrru cerbyd hacni
/ hurio preifat c. Gwneud cais
am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau pam cafodd
y drwydded ei chaniatáu, er gwaethaf collfarnau ar y datganiad DBS. · Bod posib gwrthod y cais ar sail cymal 16.1: Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd, ‘ ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |