I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat
o’r newydd.
Ategwyd bod datganiad o gollfarn wedi ei
gyflwyno yn nodi bod gan yr
ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol
i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, ac yn unol
â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Rhoddwyd gwybodaeth am gefndir y troseddau a nododd
bod tri o’r troseddau wedi digwydd ar noson Galan Gaeaf lle aeth cast o chwith.
Cyfeiriwyd at y troseddau eraill fel rhai hanesyddol. Ategwyd bod yr ymgeisydd
yn gweithio fel gyrrwr i gwmni lleol a’i fod hefyd wedi
derbyn trwydded gyrru cerbyd hacni gan Cyngor
Môn (Rhagfyr 31ain 2016). Nodwyd nad oedd gwrandawiad wedi ei gynnal ac mai
cais i gyflwyno gwybodaeth ar bapur yn unig ydoedd.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais.
Derbyniodd yr
Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion canlynol :
• gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
• ffurflen gais yr ymgeisydd
• sylwadau llafar yr ymgeisydd
a’i gynrychiolydd
• adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS
PENDERFYNODD YR
IS-BWYLLGOR OHIRIO Y CAIS
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor y rhesymau canlynol dros eu penderfyniad :
·
Roedd y cofnod
DBS yn datgan bod euogfarnau lluosog ar gyfer
trosedd o ddifrod gyda’r un mwyaf diweddaraf yn 2011.
·
Yn ystod y gwrandawiad amlygwyd bod yr ymgeisydd
wedi derbyn trwydded cerbyd gyrru cerbyd hacni
/ hurio preifat gan Cyngor
Sir Ynys Môn (CSYM) ar 31 Rhagfyr 2016 (cyflwynwyd cerdyn adnabod trwydded i dystiolaethu hyn). Amlygwyd nad oedd manylion
trwydded CSYM wedi eu datgelu ar y ffurflen
gais wreiddiol, ond dadleuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod
Uned Trwyddedu Cyngor Gwynedd (CG) yn ymwybodol o drwydded CSYM. Er hynny, nid oedd unrhyw fanylion am y penderfyniad wedi ei rannu,
megis dyddiad y cafodd Uned Trwyddedu CG eu hysbysu, pa swyddog a hysbyswyd
a thrwy ba ddull o gyfathrebu. Cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd
gan yr Uned Trwyddedu CG wybodaeth am drwydded
CSYM.
·
Bod angen gwybodaeth bellach ynglŷn â thrwydded CSYM cyn bod mewn
sefyllfa i wneud penderfyniad terfynol.
·
Bod angen i Uned Trwyddedu CG wneud ymholiadau gydag Uned Trwyddedu CSYM ar y materion canlynol:
a. Cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi derbyn trwydded gyrru cerbyd hacni
/ hurio preifat
b. Gwirio cynnwys
dogfen bolisi CSYM ar geisiadau am
dderbyn trwydded gyrru cerbyd hacni
/ hurio preifat
c. Gwneud cais
am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau pam cafodd
y drwydded ei chaniatáu, er gwaethaf collfarnau ar y datganiad DBS.
·
Bod posib gwrthod y cais ar sail cymal 16.1: Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd, ‘gwahardd rhoi trwydded pan fydd gan yr ymgeisydd
euogfarnau lluosog ar gyfer troseddau
difrod troseddol, lle digwyddodd y gollfarn ddiwethaf yn llai na 10 mlynedd
cyn y cais’. Fodd bynnag, roedd
yr aelodau yn awyddus i gael
mwy o wybodaeth am drwydded CSYM cyn bod mewn
sefyllfa i wneud penderfyniad.
·
Bod yr ymgeisydd
mewn cyflogaeth ac felly, i raddau
yn fodlon na fyddai yn cael
ei niweidio gan y gohiriad
·
Petai'r wybodaeth
am drwydded CSYM wedi ei gyflwyno
gyda’r cais buasai modd i Uned Drwyddedu CG fod wedi gwneud ymholiadau
priodol gydag Uned Drwyddedu CSYM gan osgoi'r angen i ohirio.
·
Bod angen sicrhau gwrandawiad teg a gwarchod diogelwch y cyhoedd.
Mynegodd cynrychiolydd
yr ymgeisydd ei anfodlonrwydd gyda’r penderfyniad ac y byddai yn
gwneud cwyn swyddogol am yr
Uned Trwyddedu.
Dechreuodd y cyfarfod
am 10 :40am a daeth i
ben am 11:30am