Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd  Mair Rowlands (Aelod Lleol)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Datgan unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

 

Cofnod:

Amlygodd y Cadeirydd bod cais wedi dod i law gan yr ymgeisydd yn eitem 4 isod i gyflwyno tystiolaeth fideo yn ystod y gwrandawiad. Amlygodd y Cyfreithiwr, o dan yr amgylchiadau bydd rheoliad 18 o’r Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005 yn berthnasol. Gan fod yr ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth hwyr bydd angen i bob parti yn bresennol y gwrandawiad roi caniatâd i’r ymgeisydd i ddangos y clip. Os byddai un parti yn gwrthwynebu ni fydd modd i’r Is-bwyllgor ystyried y fideo.

 

Gadawodd yr Is-bwyllgor yr ystafell a chafodd y partïon gyfle i wylio cynnwys y fideo.

 

Pan ddychwelodd yr Is-bwyllgor i’r ystafell cadarnhaodd y partïon nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r fideo yn cael ei gyflwyno fel tystiolaeth.

 

4.

CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 225 KB

University Plaice, 21 Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2EU

 

Ystyried y cais uchod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – UNIVERSITY PLAICE, 21 FFORDD CAERGYBI, BANGOR, GWYNEDD LL57 2EU

 

Ar ran yr eiddo:           Mr  Mehemet Ali Usal a Ms Nia Haf Davies (ymgeiswyr)

 

Eraill a fynychwyd:     Cynghorydd June Marshall (Aelod Lleol), Cynghorydd Dinas John Martin, Mrs A Davies (Preswylydd Lleol)

 

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)         Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais i amrywio trwydded eiddo ar gyfer University Plaice, 21 Ffordd Gaergybi, Bangor. Lleolwyd yr eiddo ymysg rhes o fusnesau a siopau ym Mangor Uchaf, ac fe ddarparir lluniaeth hwyr y nos i’w fwyta oddi ar yr eiddo. Natur yr amrywiad arfaethedig oedd ymestyn oriau agor y busnes a’r oriau darparu lluniaeth hwyr y nos ar ddydd Llun, Mawrth, Mercher a Sul i 03:00 y bore. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.

 

Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno sawl cais i ymestyn oriau trwyddedig yr eiddo yn y gorffennol. Nodwyd bod yr Is Bwyllgor yn Hydref 2013, wedi caniatáu iddynt ymestyn oriau agor y busnes ar nos Wener a Sadwrn i 03:30 y bore ac yn Medi 2014, rhoddwyd caniatâd iddynt ymestyn oriau agor y busnes ar nos Iau i 3:00 y bore. Nodwyd bod oriau arfaethedig y cais wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub wrthwynebiad i’r cais ac ni dderbyniwyd sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasaneth Iechyd yr Amgylchedd. Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan yr Aelodau  Lleol yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a throsedd ac anrhefn.  Ychwanegwyd nad oedd gan Cyngor Dinas Bangor wrthwynebiad i egwyddor y cais , ond bod awgrym i’r oriau agor fod yn gyson â sefydliadau eraill tebyg.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

           Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

           Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

           Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

b)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor sefydliadau eraill yn yr ardal cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu, bod Late Stop, Pizza House, Bella House a Craperie yn gymysg o oriau gwahanol  ar ddyddiau gwahanol, yn amrywio o 2:30am i 3:30am.

 

c)         Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.