Agenda item

University Plaice, 21 Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2EU

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – UNIVERSITY PLAICE, 21 FFORDD CAERGYBI, BANGOR, GWYNEDD LL57 2EU

 

Ar ran yr eiddo:           Mr  Mehemet Ali Usal a Ms Nia Haf Davies (ymgeiswyr)

 

Eraill a fynychwyd:     Cynghorydd June Marshall (Aelod Lleol), Cynghorydd Dinas John Martin, Mrs A Davies (Preswylydd Lleol)

 

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)         Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais i amrywio trwydded eiddo ar gyfer University Plaice, 21 Ffordd Gaergybi, Bangor. Lleolwyd yr eiddo ymysg rhes o fusnesau a siopau ym Mangor Uchaf, ac fe ddarparir lluniaeth hwyr y nos i’w fwyta oddi ar yr eiddo. Natur yr amrywiad arfaethedig oedd ymestyn oriau agor y busnes a’r oriau darparu lluniaeth hwyr y nos ar ddydd Llun, Mawrth, Mercher a Sul i 03:00 y bore. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.

 

Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno sawl cais i ymestyn oriau trwyddedig yr eiddo yn y gorffennol. Nodwyd bod yr Is Bwyllgor yn Hydref 2013, wedi caniatáu iddynt ymestyn oriau agor y busnes ar nos Wener a Sadwrn i 03:30 y bore ac yn Medi 2014, rhoddwyd caniatâd iddynt ymestyn oriau agor y busnes ar nos Iau i 3:00 y bore. Nodwyd bod oriau arfaethedig y cais wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub wrthwynebiad i’r cais ac ni dderbyniwyd sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasaneth Iechyd yr Amgylchedd. Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan yr Aelodau  Lleol yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a throsedd ac anrhefn.  Ychwanegwyd nad oedd gan Cyngor Dinas Bangor wrthwynebiad i egwyddor y cais , ond bod awgrym i’r oriau agor fod yn gyson â sefydliadau eraill tebyg.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

           Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

           Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

           Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

b)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor sefydliadau eraill yn yr ardal cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu, bod Late Stop, Pizza House, Bella House a Craperie yn gymysg o oriau gwahanol  ar ddyddiau gwahanol, yn amrywio o 2:30am i 3:30am.

 

c)         Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol o’i fwriad:

           Bod y fideo wedi profi bod pobl o gwmpas Bangor Uchaf yn ystod oriau man y bore yn chwilio am fwyd

           Un sefydliad sydd ar agor ar hyn o bryd - buasai caniatáu y cais yn cynnig dewis i bobl a hefyd yn gwasgaru torfeydd

           Nid oedd galwad wedi bod i’r Heddlu ers 2010. Perthynas dda gyda’r heddlu - cydweithio da i ddarparu gwybodaeth / tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng

           Bydd goruchwylwyr drysau ar gael ar ddydd Gwener a Sadwrn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phreswylwyr cyfagos, nodwyd bod trigolion yn preswylio yn Britannia Square sydd wedi ei leoli tu cefn i’r adeilad.

 

ch)  Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd Aelod o Gyngor Dins Bangor y sylwadau canlynol:

           Dylai’r oriau fod yn gyson gyda sefydliadau eraill i sicrhau tegwch

           Rhaid osgoi gosod cynsail

           Rhaid gosod terfyn amser

 

d)         Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol (Menai Bangor 1), Y Cynghorydd June Marshall y sylwadau canlynol:

           Bod y fideo yn profi nad yw’r sŵn yn isafol

           Rhaid sicrhau cysondeb oriau

           Siomedig nad oedd yr heddlu wedi cyflwyno sylwadau. Cyfeiriodd at ddatganiad a wnaed gan yr Heddlu yn 2013 a oedd yn nodi nad oedd angen i un sefydliad reoli'r farchnad

           Bangor Uchaf yn ardal breswyl

           Pobl fregus ac oedrannus yn byw yn Britannia Square. Annheg eu bod yn gorfod ymdopi â phroblemau sŵn

           Bydd damwain yn siŵr o ddigwydd gyda phobl ar y stryd

 

Mewn ymateb i gwestiwn nododd yr aelod nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion yn benodol i’r eiddo dan sylw, ond cwynion cyffredinol yn ymwneud a sŵn, potiau planhigion yn cael eu dwyn a tharo drysau ar Ffordd y Coleg. Nid oedd ganddi unrhyw wrthwynebiad  at yr ymgeisydd dim ond pryder ynglŷn ag oriau agor estynedig a’r sŵn fuasai yn debygol o aflonyddu’r cymdogion. Atgoffwyd yr Is Bwyllgor  bod myfyrwyr hefyd yn byw ym Mangor Uchaf sydd angen llonyddwch. Ategwyd bod y problemau yn codi yn ystod y tymor addysg - rhaid sicrhau cyfaddawd.

 

Nododd hefyd ei siom nad oedd yr Heddlu yn bresennol.

Derbyniwyd y sylw.

 

dd)       Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd Mrs A Davies, preswylydd lleol y sylwadau canlynol:

           Yn breswylydd lleol ac yn aelod o Gymdeithas Gwarchod Bangor Uchaf

           Dyletswydd i warchod y gymdogaeth a gwarchod trigolion lleol rhag trosedd

           Angen rheoli niwsans sŵn a niwsans cyhoeddus

           Rhaid sicrhau bod y palmentydd yn lân

           Rhaid sicrhau bod gan staff sydd yn gweini bwyd dystysgrif briodol

           Rhaid ceisio cymuned iach

 

e)         Cydnabuwyd sylwadau  Aelod Lleol (Menai Bangor 2) y Cynghorydd Mair Rowlands a oedd  yn gwrthwynebu’r cais ar sail niwsans cyhoeddus, trosedd ac anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

 

f)          Cydnabuwyd sylwadau’r Gwasanaeth Tân - nid oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais

 

ff)        Wrth grynhoi ei gais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn ddyn busnes ac eisiau cymryd mantais o’r sefyllfa. Nododd bod rhaid cydnabod bod Bangor yn ddinas brysur  a bod hawl gan fyfyrwyr fod yn annibynnol. Petai y cais yn cael ei gymeradwyo byddai'r torfeydd yn clirio yn gynt - rhaid ystyried cau'r clybiau nos yn gynt ac nid y llefydd bwyd.

 

Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.

 

Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef

 

           Trosedd ac Anhrefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais i wyro’r drwydded eiddo. Gwyrwyd y drwydded yn unol â’r cais, i ddarparu lluniaeth hwyr yn nos rhwng 23:00 a 03:00 ddydd Sul tan ddydd Mercher, am y rhesymau canlynol:

 

1.         Wrth gyrraedd y penderfyniad, ystyriwyd  sylwadau perthnasol y partïon. Yn unol â’r Ddeddf Trwyddedu 2003, rhaid i’r Is Bwyllgor wneud penderfyniad ar sail sylwadau sydd yn berthnasol i un neu fwy o’r amcanion trwyddedu, a dim arall.

2.         Wrth ystyried sylwadau’r Cynghorydd Marshall ac Arfona Davies am bryderon  sŵn ym Mangor Uchaf, mae’r pwysau y gellid ei roi i’r sylwadau yn gyfyngedig iawn, gan nad oedd tystiolaeth ddigonol wedi ei dderbyn  bod unrhyw broblem sŵn y gellid ei briodoli i’r eiddo sydd yn destun y cais. Nid oedd tystiolaeth o broblem sy’n gyfystyr â niwsans cyhoeddus.

3.         Yn yr un modd, roedd yr Is Bwyllgor wedi ystyried sylwadau’r Cynghorydd Rowlands parthed niwsans cyhoeddus a throsedd ac anhrefn. Yn anffodus, fodd bynnag, nid oedd yr aelod wedi cyflwyno tystiolaeth o’r digwyddiadau o’r fath y gellid eu priodoli i’r eiddo. Oherwydd hyn ychydig iawn o bwysau y gellid ei rhoi i sylwadau’r aelod.

4.         Diystyriwyd sylwadau Cyngor Dinas Bangor a’r Cynghorydd Marshall yn galw am gysondeb gydag oriau eiddo eraill. Nid cysondeb gydag oriau eiddo eraill yw’r prawf perthnasol o dan y Ddeddf, ond a yw’r cais yn cyd-fynd â’r amcanion trwyddedu?

5.         Ar sail diffyg tystiolaeth o broblemau ynghlwm â’r eiddo sydd yn tanseilio’r amcanion, roedd yr Is Bwyllgor  yn fodlon bod y cais am estyniad amser yn briodol er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd  o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

Dogfennau ategol: