Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd  Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd),  Cyng. Rob Williams (BRIG),  Y Cyng. David Richardson (sylwedydd yn cynrychioli Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir:  

 

(a)          Cyng. Gethin Williams – aelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(b)          Cyng. Julian Kirkham  - yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi

(c)          Mr John Johnson – wedi gwneud cais i weithredu fferi

(d)          Mr Mike Ellis – aelod o bwyllgor Ras y Tri Copa

(e)          Mrs Wendy Ponsford – aelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(f)           Cyng. Rob Triggs – aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio

(g)          Mr Martin Paroutygweithredwr masnachol yn yr harbwr, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(h)          Dr John Smith – aelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

 

Ni fu i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd yn ymwneud â’u buddiant personol.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 259 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 8 Tachwedd 2016.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 82 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

(Copi’n amgaeedig).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

(a)                                                  Cod Diogelwch Morwrol

 

Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod. 

 

(b)   Mordwyo

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cyng. Rob Triggs ynglyn â bwi i farcio peipen arllwys dŵr i’r môr, eglurwyd y derbyniwyd ymddiheuriad gan Dŷ’r Drindod nad oeddynt wedi cysylltu ymlaen llaw a bod y bwi yn cydymffurfio â’r gofynion a bod Dŵr Cymru allan o drefn gan na fu iddynt hysbysu’r Cyngor fod bwriad ganddynt i gomisiynu gwaith gan Dŷ’r Drindod oddi fewn ffiniau’r harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 (c)       Cynnal a Chadw

 

Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor os oedd ganddynt unrhyw bryder a oedd angen sylw cyn gwyliau’r Pasg ac fe nodwyd y materion canlynol:

 

(a)  Arwydd newydd ger Ty Crwn

(ii)           Clo’r giat y brif llithrfa angen ei sythu allan gan nad oes modd ei gloi ar hyn o bryd

 

(ch)      Materion Staff

 

(i)         Adroddwyd bod cytundeb Cymhorthydd Harbwr Abermaw (tymhorol) wedi dod i ben ar 30 Medi 2016 ond fe estynnwyd y cyfnod dros fisoedd y gaeaf gyda deilydd y swydd wedi ei leoli ym Mhorthmadog.  Nodwyd ymhellach bod yr Uwch Swyddog Harbyrau i ffwrdd o’i waith yn sal ar hyn o bryd ac os oedd unrhyw broblemau yn codi gofynnwyd i Aelodau gysylltu â’r Gwasanaeth ym Mhwllheli. 

 

(d)      Materion Gweithredol

 

(i)   Derbyniwyd adroddiad gan Sefydliad y Bad Achub ynglyn ag arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraeth Abermaw a thrwy Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn, y Cyngor Tref, a Sefydliad y Bad Achub y byddir yn trafod ymhellach yr hyn a ellir ei gyflawni erbyn gwyliau Sulgwyn.  Pwysleislwyd bod yn rhaid bod yn ofalus o leoliad yr arwyddion oherwydd effaith y tywod yn Abermaw.  O ran cynnal a chadw’r arwyddion, rhagwelir y byddir yn gorfod eu tynnu yn ystod y gaeaf.

 

(ii)  Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan Aelod lle gall unigolion gwympo i sianel yn ardal y baddon ar adegau llanw isel nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gofynnir i’r Harbwr Feistr gynnal archwiliad o’r safle ac ystyried pa fath o arwyddion i’w gosod ger bron dros dro.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(e)     Angorfeydd – Ras y Tri Copa           

Derbyniwyd cais gan Bwyllgor Ras y Tri Copa am ganiatad i osod blociau concrid ac angorfeydd “ôl a blaen” yn ardal lle mae’r dŵr dwfn parhaol yn yr Harbwr.

 

Esboniodd cynrychiolydd Pwyllgor Ras y Tri Copa pa mor bwysig yw’r ras i Abermaw yn nhermau cysylltiadau cyhoeddus ac economi’r ardal gan bod y ras yn denu cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ardal o bob cwr o’r byd.   Pe byddir yn hysbysebu Harbwr Abermaw mewn cylchgronnau, a.y.b. fe fyddai’n golygu cost enfawr i’r Cyngor a’r Bwrdd Twristiaeth ond credir bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

a.    Rheolaeth Pwynt Penrhyn

  1. Llithrfa Pwynt Penrhyn  
  2. Diweddariad ar statws Gwobr y Faner Las

 

Cofnod:

(a)          Rheolaeth Pwynt Penrhyn

 

Atgoffodd y Cyng. Julian Kirkham y Pwyllgor o broblemau parcio sydd ar gynnydd ym Mhwynt Penrhyn gan faniau campio ac yn anwybyddu rhybuddion “Dim Parcio Dros Nos”, ac yn defnyddio twnel y rheilffordd fel toiledau.  Adroddwyd bod Clerc y Cyngor Cymuned yn ymchwilio, mewn ymgynghoriad gyda’r Adran Gyfreithiol, am ffyrdd i reoli’r math yma o barcio.   

 

Gofynnwyd a fyddai modd i’r Harbwr Feistr pan yn y cyffiniau i archwilio a sicrhau bod yr arwydd i fyny ac yn gadarn.

 

(b)          LLithrfa Pwynt Penrhyn

 

Mewn ymateb i sylw wnaed ynglyn â’r ramp sydd wedi ei ddifrodi, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd opsiwn ond ei dynnu oddi yno a chymerwyd y cyfle i ddiolch i Gyngor Cymuned Arthog am £800 at y costau. 

 

(c)          Diweddariad ar statws Gwobr y Faner Las

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth wedi cyflwyno ceisiadau ar ran y Cyngor a’r cymunedau ond bod y canllawiau bellach yn cyfeirio am yr angen at gael achubwyr bywyd ar bob traeth.  Rhagwelir y byddir yn derbyn canlyniadau ym mis Mai.

 

Nododd Aelod pe byddir yn gorfod cael achubwyr bywyd byddai’n gost aruthrol a gofynnwyd pwy fyddai’n gyfrifol am y gost.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig pe byddir yn aflwyddiannus mewn derbyn Gwobr y Faner Las, ni ragwelai y byddai’n cael effaith negyddol ar y traethau.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 7 Tachwedd 2017. 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 7 Tachwedd 2017.