I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig.
(Copi’n amgaeedig).
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-
(a)
Cod Diogelwch Morwrol
Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn
sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen
yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(b) Mordwyo
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cyng. Rob Triggs
ynglyn â bwi i farcio peipen arllwys dŵr i’r môr, eglurwyd y derbyniwyd
ymddiheuriad gan Dŷ’r Drindod nad oeddynt wedi cysylltu ymlaen llaw a bod
y bwi yn cydymffurfio â’r gofynion a bod Dŵr Cymru allan o drefn gan na fu
iddynt hysbysu’r Cyngor fod bwriad ganddynt i gomisiynu gwaith gan Dŷ’r
Drindod oddi fewn ffiniau’r harbwr.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(c) Cynnal a Chadw
Gofynnwyd
i aelodau’r Pwyllgor os oedd ganddynt unrhyw bryder a oedd angen sylw cyn
gwyliau’r Pasg ac fe nodwyd y materion canlynol:
(a) Arwydd newydd ger Ty Crwn
(ii)
Clo’r
giat y brif llithrfa angen ei sythu allan gan nad oes modd ei gloi ar hyn o
bryd
(ch) Materion
Staff
(i) Adroddwyd bod cytundeb
Cymhorthydd Harbwr Abermaw (tymhorol) wedi dod i ben ar 30 Medi 2016 ond fe
estynnwyd y cyfnod dros fisoedd y gaeaf gyda deilydd y swydd wedi ei leoli ym
Mhorthmadog. Nodwyd ymhellach bod yr
Uwch Swyddog Harbyrau i ffwrdd o’i waith yn sal ar hyn o bryd ac os oedd unrhyw
broblemau yn codi gofynnwyd i Aelodau gysylltu â’r Gwasanaeth ym Mhwllheli.
(d) Materion
Gweithredol
(i) Derbyniwyd adroddiad gan Sefydliad y Bad
Achub ynglyn ag arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraeth Abermaw a thrwy
Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn, y Cyngor Tref, a Sefydliad y Bad Achub y
byddir yn trafod ymhellach yr hyn a ellir ei gyflawni erbyn gwyliau Sulgwyn. Pwysleislwyd bod yn rhaid bod yn ofalus o
leoliad yr arwyddion oherwydd effaith y tywod yn Abermaw. O ran cynnal a chadw’r arwyddion, rhagwelir y
byddir yn gorfod eu tynnu yn ystod y gaeaf.
(ii) Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan Aelod lle
gall unigolion gwympo i sianel yn ardal y baddon ar adegau llanw isel nododd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gofynnir i’r Harbwr Feistr gynnal
archwiliad o’r safle ac ystyried pa fath o arwyddion i’w gosod ger bron dros
dro.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(e) Angorfeydd – Ras y Tri Copa
Derbyniwyd
cais gan Bwyllgor Ras y Tri Copa am ganiatad i osod blociau concrid ac
angorfeydd “ôl a blaen” yn ardal lle mae’r dŵr dwfn parhaol yn yr Harbwr.
Esboniodd
cynrychiolydd Pwyllgor Ras y Tri Copa pa mor bwysig yw’r ras i Abermaw yn
nhermau cysylltiadau cyhoeddus ac economi’r ardal gan bod y ras yn denu
cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ardal o bob cwr o’r byd. Pe byddir yn hysbysebu Harbwr Abermaw mewn
cylchgronnau, a.y.b. fe fyddai’n golygu cost enfawr i’r Cyngor a’r Bwrdd
Twristiaeth ond credir bod bodolaeth y ras yn amlygu Abermaw ynddo’i hun drwy
wefannau cymdeithasol, a.y.b., a dilynnwyr y ras ac o ganlyniad yn denu budd
enfawr i’r ardal.
Derbyniwyd
esboniad pellach o’r angen am y blociau concrid gan nodi bod y math yma wedi eu
defnyddio ers blynyddoedd ac nad oeddynt wedi symud o wely’r môr. Deallir bod gwrthwynebiad i’r Pwyllgor roi y
blociau yn yr Harbwr ond nid oedd yn wybyddus o’r rhesymau am hyn. Gwnaed cais i osod 15 bloc concrid a hyd yn
hyn roedd y Pwyllgor wedi derbyn 13 o gystadleuwyr i’r ras gyda’r gobaith wrth
gwrs o dderbyn mwy. Defnyddir y blociau
concrid oherwydd eu bod yn rhatach o’i cymharu ag angorfeydd dur a chadwyni. Deallir y defnyddir blociau concrid yn
Aberdyfi a bod Ty’r Drindod yn eu defnyddio.
Amcangyfrifir cost o oddeutu £5,000 i £7,000 a bwriedir cryfhau’r rhai
presennol a gosod cadwyni daear arnynt.
Nodwyd ymhellach bod y blociau a fwriedir eu defnyddio yn llawer iawn
mwy ac y byddent yn cael eu gosod gan y contractwr lleol. Apeliwyd am benderfyniad gan y Pwyllgor
Ymgynghorol oherwydd yr angen i’r contractwr dderbyn cyfarwyddyd er mwyn eu
cael yn barod erbyn mis Ebrill. Roedd
Pwyllgor y Ras yn fodlon i’r Gwasanaeth Morwrol ddefnyddio’r blociau concrid ac
yr angorfeydd wedi’r Ras ac am weddill y tymor heb gost ychwanegol.
Mewn
ymateb gan y Swyddog Morwol a Pharciau Gwledig, rhoddwyd glod i Bwyllgor Ras y
Tri Copa ac yn sicr cydnabuwyd gyfraniad sylweddol y ras i economi’r Harbwr a’r
ardal ehangach o ystyried mai gwirfoddolwyr yn unig sydd ynghlwm i’r
trefniadau, a.y.b. Nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Cyngor wedi cefnogi’r ras yn hanesyddol a bod
y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsodi offer a chelfi yn y gorffennol i hyrwyddo’r
trefniadau.
Nodwyd
ymhellach bod y Gwasanaeth Morwrol gyda meddwl agored o ran y blociau concrid
ac nad oeddynt yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad na chwyn a fu wedi ei
gyflwyno. O safbwynt manylion yr
angorfeydd, gwnaethbwyd lawer o ymchwil yn y gorffennol a chyfeirwyd at y
ddogfennaeth oedd ynghlwm i’r rhaglen yn rhestru manyldeb isafswm angorfeydd y
Cyngor. Yn ychwanegol pwysleiswyd
bwysigrwydd bod yr angor yn cydymffurfio â safonau er cadw cychod yn ddiogel. Yng nghyd-destun y cais, tynnwyd sylw bod
angorfeydd yn bodoli’n barod, ond bod angen sicrwydd pendant o’r nifer
angorfeydd ychwanegol sydd angen ar gyfer y ras.
O
safbwynt defnydd blociau concrid, mynegwyd bryder pe byddai’r cadwyn yn torri
a’r blociau concrid yn aros ar wely’r môr ac yn creu trafferthion mewn blynyddoedd
i ddod, ond ar yr un pryd yn falch bod bwriad i ddefnyddio cadwyn daear.
Mewn
ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn â manyleb blociau concrid, esboniodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod hyn yn anodd a’r unig sylw a gynigwyd
ydoedd bod blociau concrid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol wedi gweithio. Rhagwelir y byddai’n bosibl eu harchwilio
unwaith y flwyddyn ond fe fyddai’n rhaid i hyn fod ar gost Ras Tri Copa.
Amlygwyd
y sylwadau canlynol mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau:
·
Bod
angorfeydd dur yn ddrutach na’r blociau concrid
·
Nad
oedd unrhyw gwynion ysgrifenedig wedi eu derbyn ynglyn â gosod blociau concrid
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol gwnaed y sylwadau canlynol:
Mewn
ymateb i’r uchod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig mai’n debygol bod
rhai o’r angorfeydd presennol angen eu symud, ac fel awdurdod yr Harbwr nodwyd
bod hawl i ofyn i berchennog cwch symud i leoliad newydd a’r gost i’w dalu gan
y perchennog. Fe fydd yr Uwch swyddog
Harbyrau ar y cyd gyda’r Harbwr feistr yn sicrhau fod y gwaith hwn wedi ei
gwblhau cyn brîf dymor yr haf.
Tra’n
cytuno a deall dilema Pwyllgor Ras y Tri Copa
o safbwynt faint o angorfeydd fydd eu hangen awgrymwyd mai’r ffordd orau
ymlaen ydoedd i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig / Harbwr Feistr drafod
ymhellach anghenion Pwyllgor Ras y Tri Copa a defnydd yr angorfeydd gan y
Cyngor yn dilyn y ras. Awgrymwyd i
gynnal cyfarfod fel mater brys ar ol y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.
Penderfynwyd: (a)
Derbyn a nodi’r uchod.
(b)
Cefnogi mewn egwyddor cais
Pwyllgor Ras y Tri Copa i
ddarpariaeth y blociau concrid ar gyfer Ras y
Tri Copa a gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig / Harbwr Feistr drafod
ymhellach gyda swyddogion Pwyllgor y Ras o ran trefniadaeth, lleoliadau,
defnydd yr angorfeydd gan y Cyngor yn dilyn y ras a sicrwydd nad yw’r blociau
concrid yn aros fel gwastraff ar wely môr yr Harbwr mewn blynyddoedd i
ddod.
(f) Symud
Tywod
Adroddodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddir yn symud y tywod wythnos nesaf.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(ff)
Pontwn
Wal y Cei
Adroddodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y cynhaliwyd cyfarfod cadarnhaol ar 1
Chwefror 2017 gyda chynrychiolaeth o grwpiau a mudiadau lleol a’r Cyngor Tref
yn bresennol pryd trafodwyd perchnogaeth a chynnal a chadw’r pontwn. O’r cyfarfod hwn, deallir bod Ymddiriedolaeth
Cymunedol Abermaw yn rhoi ystyriaeth i gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb o’r
pontwn i’r dyfodol. Rhoddwyd ar ddeall
i’r Pwyllgor Ymgynghorol nad oedd y Gwasanaeth Morwrol yn berchen ar y pontwn
ac felly ddim yn gyfrifol o safbwynt ei gynnal a’i gadw neu yn gyfrifol am
drefnu neu ariannu yswirant atebolrwydd cyhoeddus. Mynegwyd ymhellach nad oedd unrhyw warant bod
wal y cei yn ddigon cadarn ar gyfer y pontwn.
Pryderwyd hefyd am bysedd y pontwn a oedd wedi eu lleoli ar hyn o bryd
yn ardal y Baddon a’r angen i weithredu yn ddioed i’w symud oddi yno ac os oedd
unrhyw anhawster gyda lleoliad byddai’r Harbwr Feistr yn fodlon trefnu lleoliad
i’w cadw dros dro.
Nododd
Aelod bod yr Ymddiriedolaeth Cymunedol wedi rhagdybio, gan bod y pontwn mewn
defnydd ers pedair blynedd a hanner bellach, ei fod wedi ei yswirio gan y
Cyngor am y cyfnod hwnnw.
Mynegodd
Aelod bwysigrwydd i ymdrin a’r uchod yn ddioed.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r uchod.
(c) Gofyn i’r Harbwr Feistr ymchwilio i’r posibilrwydd o leoliad addas
ar gyfer symud y bysedd dros dro a chysylltu
gydag aelodau’r Ymddiriedolaeth Cymunedol Abermaw ynglyn â threfniant i’w
gludo.
(g) Ystorfa
Betrol
Adroddodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, yn dilyn cais o’r cyfarfod diwethaf
ynglyn a’r posibilrwydd i storio a gwerthu petrol ar y cei ar gyfer cychod pwer
yn unig, ei fod wedi trafod gyda swyddogion Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor a
oedd o’r farn na fyddai’n bosibl i wneud hyn oherwydd cymhlethdodau gyda’r
rheoliadau. Yn unol â chanllawiau Adran
Weithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) nid oedd y Gwasanaeth wedi bod yn codi’r
ffi gywir am ddisel coch ac fe fyddai’n rhaid cywiro’r broses. Hyderir hefyd erbyn gwyliau’r Sulgwyn y byddir
yn gallu cynnig gwasanaeth talu gyda cherdyn am ddisel, ffioedd, a.y.b. Byddai’n ofynnol felly i hysbysu cwsmeriaid
o’r drefn newydd fyddai’n golygu dim credyd unwaith bydd gwasanaeth talu a
cherdyn yn weithredol yn yr harbwr.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(ng) Trwydded
Perchennog a Thrwydded Cychwyr
Adroddodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod gan Abermaw adnodd gwych rhwng Abermaw
a Fairbourne drwy’r gwasanaeth ysgraff ond bod angen ystyried tynhau’r
trefniadau. Nodwyd bod tair trwydded
wedi eu caniatau ar gyfer ysgraff a fyddai’n cludo teithwyr rhwng Abermaw a
Phwynt Penrhyn gydag 1 trwydded yn cael ei ganiatau ar gyfer cwch a fydd yn
cynnig mordeithiau oddi amgylch yr aber hyd at y dollbont yn unig. Gofynnwyd am farn y Pwyllgor Ymgynghorol
ynglyn â:
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:
Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y dyddiad yn unol â
gofynion y ddeddf berthnasol a phe byddai angen cychwyn ynghynt na 7 diwrnod
cyn y Pasg, byddai’n ofynnol trafod gyda’r Harbwr Feistr y posibilrwydd o
drwydded gaeaf sy’n cydymffurfio a rhan arall o’r ddeddf.
Penderfynwyd: (a) Cymeradwyo i barhau gyda’r broses presennol
o weithredu ac adolygu’r sefyllfa ym mis Hydref ar sut y gweithredwyd y
gwasanaeth.
(h)
Materion eraill
Mewn
ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn â lansio o Pwynt Penrhyn, adroddodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddir yn cyflogi Cymhorthydd Harbwr o’r 1
Ebrill ond yn anffodus nid oedd capasiti’r Gwasanaeth yn caniatau i staff fynd
drosodd i reoli Pwynt Penrhyn. Eglurwyd
ymhellach bod yr Harbwr Feistr yn gyfrifol am gofrestriadau cychod sydd yn
cofrestru yn yr Harbwr a gwirio’r dogfennau perthnasol.
Ychwanegwyd
y derbyniwyd 7 cais llynedd gan wirfoddolwyr yn Abermaw i gynorthwyo gyda
gweithrediadau o amgylch yr Harbwr a chroeswir hyn eto eleni gan ofyn i’r
Harbwr Feistr ddynodi gwaith iddynt cyn belled a bo cymwysterau’r unigolion yn
dderbyniol.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(b)
Materion Ariannol
Cyfeiriwyd
at grynodeb o gyllideb yr Harbwr a oedd ynghlwm i’r Rhaglen.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r gyllideb.
(c)
Ffioedd a Thaliadau 2017/18
Cyfeiriwyd
at y daenlen ffioedd a oedd yn nodi cynydd o 2% ar gyfartaledd gyda ffi angora
cychod masnachol yn codi 6%.
Tynnwyd
sylw hefyd at ffi ychwanegol angorfa gan Stad y Goron o £25.00 a fyddir yn ei
gasglu gan y Gwasanaeth Morwrol a fydd yn cael ei ad-dalu i’r Goron.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r ffioedd.
Dogfennau ategol: