Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd
Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Louise Hughes
(Cyngor Gwynedd), Cyng.
Rob Williams (BRIG), Y Cyng. David Richardson (sylwedydd
yn cynrychioli Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o gysylltiad personol gan yr
aelodau isod am y rhesymau a nodir: (a)
Cyng. Gethin Williams – aelod
o’r Clwb Hwylio, aelod o’r
Ymddiriedolaeth Cymunedol (b)
Cyng. Julian Kirkham - yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi (c)
Mr
John Johnson – wedi gwneud cais i weithredu fferi (d)
Mr
Mike Ellis – aelod o bwyllgor
Ras y Tri Copa (e)
Mrs Wendy Ponsford – aelod
o’r Clwb Hwylio, aelod o’r
Ymddiriedolaeth Cymunedol (f)
Cyng. Rob Triggs – aelod
o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio (g)
Mr
Martin Parouty – gweithredwr
masnachol yn yr harbwr, aelod
o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol (h)
Dr John Smith – aelod
o’r Clwb Hwylio, aelod o’r
Ymddiriedolaeth Cymunedol Ni fu i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd yn ymwneud â’u buddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2016. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofno Penderfynwyd: Derbyn
a chymeradwyo’r cofno |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 82 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig. (Copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:- (a)
Cod Diogelwch Morwrol Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn
sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen
yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (b) Mordwyo Mewn ymateb i ymholiad gan y Cyng. Rob Triggs
ynglyn â bwi i farcio peipen arllwys dŵr i’r môr, eglurwyd y derbyniwyd
ymddiheuriad gan Dŷ’r Drindod nad oeddynt wedi cysylltu ymlaen llaw a bod
y bwi yn cydymffurfio â’r gofynion a bod Dŵr Cymru allan o drefn gan na fu
iddynt hysbysu’r Cyngor fod bwriad ganddynt i gomisiynu gwaith gan Dŷ’r
Drindod oddi fewn ffiniau’r harbwr. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (c) Cynnal a Chadw Gofynnwyd
i aelodau’r Pwyllgor os oedd ganddynt unrhyw bryder a oedd angen sylw cyn
gwyliau’r Pasg ac fe nodwyd y materion canlynol: (a) Arwydd newydd ger Ty Crwn (ii)
Clo’r
giat y brif llithrfa angen ei sythu allan gan nad oes modd ei gloi ar hyn o
bryd (ch) Materion
Staff (i) Adroddwyd bod cytundeb
Cymhorthydd Harbwr Abermaw (tymhorol) wedi dod i ben ar 30 Medi 2016 ond fe
estynnwyd y cyfnod dros fisoedd y gaeaf gyda deilydd y swydd wedi ei leoli ym
Mhorthmadog. Nodwyd ymhellach bod yr
Uwch Swyddog Harbyrau i ffwrdd o’i waith yn sal ar hyn o bryd ac os oedd unrhyw
broblemau yn codi gofynnwyd i Aelodau gysylltu â’r Gwasanaeth ym Mhwllheli. (d) Materion
Gweithredol (i) Derbyniwyd adroddiad gan Sefydliad y Bad
Achub ynglyn ag arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraeth Abermaw a thrwy
Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn, y Cyngor Tref, a Sefydliad y Bad Achub y
byddir yn trafod ymhellach yr hyn a ellir ei gyflawni erbyn gwyliau Sulgwyn. Pwysleislwyd bod yn rhaid bod yn ofalus o
leoliad yr arwyddion oherwydd effaith y tywod yn Abermaw. O ran cynnal a chadw’r arwyddion, rhagwelir y
byddir yn gorfod eu tynnu yn ystod y gaeaf. (ii) Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan Aelod lle
gall unigolion gwympo i sianel yn ardal y baddon ar adegau llanw isel nododd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gofynnir i’r Harbwr Feistr gynnal
archwiliad o’r safle ac ystyried pa fath o arwyddion i’w gosod ger bron dros
dro. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (e) Angorfeydd – Ras y Tri Copa Derbyniwyd
cais gan Bwyllgor Ras y Tri Copa am ganiatad i osod blociau concrid ac
angorfeydd “ôl a blaen” yn ardal lle mae’r dŵr dwfn parhaol yn yr Harbwr. Esboniodd cynrychiolydd Pwyllgor Ras y Tri Copa pa mor bwysig yw’r ras i Abermaw yn nhermau cysylltiadau cyhoeddus ac economi’r ardal gan bod y ras yn denu cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ardal o bob cwr o’r byd. Pe byddir yn hysbysebu Harbwr Abermaw mewn cylchgronnau, a.y.b. fe fyddai’n golygu cost enfawr i’r Cyngor a’r Bwrdd Twristiaeth ond credir bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL a.
Rheolaeth Pwynt Penrhyn
Cofnod: (a)
Rheolaeth Pwynt Penrhyn Atgoffodd
y Cyng. Julian Kirkham y Pwyllgor o broblemau parcio sydd ar gynnydd
ym Mhwynt Penrhyn gan faniau
campio ac yn anwybyddu rhybuddion “Dim Parcio Dros Nos”, ac yn defnyddio twnel
y rheilffordd fel toiledau. Adroddwyd bod Clerc y Cyngor Cymuned
yn ymchwilio, mewn ymgynghoriad gyda’r Adran Gyfreithiol,
am ffyrdd i reoli’r math yma o barcio. Gofynnwyd
a fyddai modd i’r Harbwr Feistr
pan yn y cyffiniau i archwilio a sicrhau bod yr arwydd i fyny
ac yn gadarn. (b)
LLithrfa Pwynt Penrhyn Mewn
ymateb i sylw wnaed ynglyn â’r
ramp sydd wedi ei ddifrodi, esboniodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd opsiwn
ond ei dynnu
oddi yno a chymerwyd y cyfle i ddiolch i Gyngor Cymuned Arthog am £800 at y costau. (c)
Diweddariad ar statws Gwobr y Faner Las Adroddodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth
wedi cyflwyno ceisiadau ar ran y Cyngor a’r cymunedau ond
bod y canllawiau bellach yn cyfeirio am yr angen at gael
achubwyr bywyd ar bob traeth. Rhagwelir y byddir yn derbyn
canlyniadau ym mis Mai. Nododd
Aelod pe byddir yn gorfod
cael achubwyr bywyd byddai’n gost aruthrol a gofynnwyd pwy fyddai’n
gyfrifol am y gost. Mewn
ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig pe byddir yn
aflwyddiannus mewn derbyn Gwobr y Faner Las, ni ragwelai
y byddai’n cael effaith negyddol ar y traethau. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 7 Tachwedd 2017. Cofnod: Penderfynwyd: Nodwyd y
cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 7 Tachwedd 2017. |