Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

          Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Lesley Day.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

          Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

          Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 281 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2016 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2016 fel rhai cywir.

 

 

5.

CEISIADAU AM ODDEFEB pdf eicon PDF 181 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar ddau gais am oddefeb gan aelodau o Gyngor Tref Tywyn mewn perthynas â thrafodaethau pwyllgor rheoli safle carafanau y mae’r Cyngor Tref yn berchen arno, sef Parc Carafanau a Gwersylla Ynysymaengwyn, oherwydd bod ganddynt fuddiannau sy’n rhagfarnu drwy eu cysylltiadau â safleoedd carafanau cyfagos. 

 

Manylwyd ar y ddau gais yn unigol, sef:-

 

·         Cais gan y Cynghorydd Richard Vaughan, am hawl i siarad yn unig.

·         Cais gan y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, am hawl i siarad a phleidleisio.

 

Cais y Cynghorydd Richard Vaughan

 

Nododd yr Uwch Gyfreithiwr ymhellach:-

 

·         Bod yr ymgeisydd yn gallu defnyddio ei brofiad o redeg busnes tebyg i ddarparu cyngor a gwybodaeth i Bwyllgor Rheoli Safle Carafanau Ynysymaengwyn.

·         Bod rheolwr safle Ynysymaengwyn a’i wraig yn mynychu’r cyfarfodydd hefyd.

·         Mai mater i’r pwyllgor oedd cloriannu pwysigrwydd y Cod Ymddygiad yn erbyn cyfraniad yr aelod i’r Pwyllgor Rheoli.

 

Yn dilyn trafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am oddefeb am y rhesymau a ganlyn:-

·         Tra yn derbyn bod gan yr aelod wybodaeth ac arbenigedd oedd yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i waith Pwyllgor Maes Carafanau Ynysymaengwyn, ‘roedd yn medru darparu’r wybodaeth gan ei fod yn rhedeg maes carafanau masnachol tebyg, cyfagos.  ‘Roedd y buddiant felly yn un sylweddol iawn ac felly ‘roedd y perygl o niwed i hyder y cyhoedd yn uchel.  Nid oedd y pwyllgor o’r farn bod y wybodaeth a’r cyngor allai ddarparu mor arbenigol neu unigryw fel nad oedd modd yn rhesymol ei gael o ffynonellau eraill.

Cais y Cynghorydd Anne Lloyd Jones

 

Nododd yr Uwch Gyfreithiwr ymhellach:-

 

·         Gan nad oedd yr ymgeisydd yn rhedeg safle gyda’r un math o ofynion nac ar yr un raddfa â Pharc Carafanau a Gwersylla Ynysymaengwyn (eithr safle trwyddedig ar gyfer aelodau’r Clwb Carafanau yn unig), nid oedd mewn sefyllfa i gynnig yr un lefel o arbenigedd i Bwyllgor Rheoli Safle Carafanau Ynysymaengwyn.

·         Ei fod ar ddeall bod yr aelod yn weithgar gyda Chwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru ac yn medru adrodd yn ôl o’r maes hwnnw i’r Pwyllgor Rheoli.

·         Mai mater i’r pwyllgor oedd cloriannu pwysigrwydd y Cod Ymddygiad yn erbyn cyfraniad yr aelod i’r Pwyllgor Rheoli.

 

Yn dilyn trafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am oddefeb am y rhesymau a ganlyn:-

·         Nid oedd tystiolaeth fod gan yr aelod arbenigedd neu wybodaeth arbenigol neu unigryw a fyddai gymaint o fudd i waith Pwyllgor Maes Carafanau Ynysymaengwyn fel y byddai’n cyfiawnhau caniatáu iddi gymryd rhan yn nhrafodaethau’r pwyllgor.  ‘Roedd y Pwyllgor Safonau, felly, o’r farn y byddai hyder y cyhoedd yn cael ei niweidio petai’n caniatáu goddefeb yn yr achos hwn.

 

6.

HUNAN-ASESIAD A RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor gynnal asesiad o waith ac allbynnau’r Pwyllgor yn ystod 2015-16 ac ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2016-17.

 

          Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y swyddogaethau a restrwyd yng ngholofn gyntaf yr hunan asesiad gan nodi pa asesiad a gredai oedd yn berthnasol iddynt gan ddefnyddio’r categorïau canlynol:-

 

Categori 1 – Tystiolaeth bod y pwyllgor yn cyflawni’r gofynion yn llawn.

Categori 2 – Tystiolaeth bod y pwyllgor yn cwrdd â’r gofynion sylfaenol, ond bod modd gwneud rhagor i gwrdd yn llawn.

Categori 3 – Dim tystiolaeth bod y pwyllgor yn cyflawni’r gofynion.

 

Gwahoddwyd y pwyllgor hefyd i ychwanegu at y colofnau ‘Tystiolaeth’ a ‘Chamau Pellach’ ac eglurwyd y byddai unrhyw awgrymiadau am gamau pellach yn bwydo trwodd i raglenni gwaith y pwyllgor i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig ac wedi’u tanlinellu):-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3)

Tystiolaeth

Camau pellach

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

1

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm  Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Rhai o’r aelodau wedi mynychu pwyllgorau / cyfarfodydd Cyngor Llawn,  Cabinet a Chynghorau Tref a Chymuned fel sylwebyddion.

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

Parhau i gefnogi gan gynnwys defnydd gwe ddarlledu

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

 

1

Trefnu Hyfforddiant ar gyfer aelodau Cynghorau Tref a Chymuned

 

Trefnu Hyfforddiant ar gyfer aelodau’r Cyngor

 

Ystyried adborth Hyfforddiant a rhaglen newydd

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1

Trefnwyd i gylchredeg arweiniad diwygiedig ar y Cod Ymddygiad gan yr Ombwdsmon i holl aelodau’r Cyngor

 

Rhoddwyd sylwadau ar elfennau o Fil Llywodraeth Leol ( Cymru) 2015

 

Adolygu newidiadau diweddaraf i’r Cod

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

1

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru

 

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir

 

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Parhau i fonitro ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Ystyried y diwigiadau i’r Cod ymddygiad a sut i rannu’r newid.

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

 

1

Mynychodd aelodau'r gynhadledd safonau yng Nghaerdydd ac adrodd yn ôl.

 

Trefnu Hyfforddiant ar gyfer aelodau Cynghorau Tref a Chymuned

 

Trefnu Hyfforddiant ar gyfer aelodau’r Cyngor

 

Rhaglen Hyfforddiant newydd

Rhoi goddefebau i aelodau

 

1

Ymdriniwyd â 2 gais am oddefebau gan aelodau o’r Cyngor a Chynghorau Tref a Chymuned

 

Cymerwyd trosolwg o’r gyfundrefn i sicrhau cysondeb a phriodoldeb.

 

 

Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

1

Cynhaliwyd 1 gwrandawiad yn 2015/16

 

 

 

 

 

 

Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

(Dim byd i’w fesur)

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath

 

 

Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

2

Cynhaliwyd sesiynau hyfforddi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWYGIADAU I'R COD YMDDYGIAD ENGHREIFFTIOL pdf eicon PDF 13 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor nodi diwygiadau i rai elfennau allweddol o’r Cod Ymddygiad presennol, yn sgil cyflwyno Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 ar 1 Ebrill, 2016.  Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor ystyried goblygiadau’r newidiadau i gynghorau tref a chymuned.

 

Eglurwyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor llawn fabwysiadu’r Cod Ymddygiad diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Nodi’r newidiadau i God Ymddygiad yr Aelodau.

(b)     Ysgrifennu at glercod y cynghorau cymuned a thref i dynnu sylw at y newidiadau a’r camau sydd angen eu cymryd mewn ymateb i hynny.

 

8.

COFRESTR BUDDIANNAU AELODAU pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).

 

Cofnod:

          Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn nodi ei bod yn ofynnol bellach i’r Cyngor gyhoeddi’r Gofrestr Buddiannau Aelodau yn electronig ac yn cyflwyno diweddariad ar y broses.

 

          PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

9.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 109 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.