Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd
- adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor gynnal asesiad o waith ac
allbynnau’r Pwyllgor yn ystod 2015-16 ac ystyried rhaglen waith ddrafft ar
gyfer 2016-17.
Gofynnwyd
i’r aelodau ystyried y swyddogaethau a restrwyd yng ngholofn gyntaf yr hunan
asesiad gan nodi pa asesiad a gredai oedd yn berthnasol iddynt gan ddefnyddio’r
categorïau canlynol:-
Categori 1 – Tystiolaeth bod y pwyllgor yn cyflawni’r
gofynion yn llawn.
Categori 2 – Tystiolaeth bod y pwyllgor yn cwrdd â’r gofynion sylfaenol, ond bod modd gwneud rhagor i gwrdd
yn llawn.
Categori 3 – Dim tystiolaeth bod y pwyllgor yn
cyflawni’r gofynion.
Gwahoddwyd y pwyllgor hefyd i ychwanegu at y colofnau ‘Tystiolaeth’ a
‘Chamau Pellach’ ac eglurwyd y byddai unrhyw awgrymiadau am gamau pellach yn
bwydo trwodd i raglenni gwaith y pwyllgor i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD
(a) Mabwysiadu’r
canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau
italig ac wedi’u tanlinellu):-
SWYDDOGAETH |
ASESIAD (1/2/3) |
Tystiolaeth |
Camau pellach |
Hyrwyddo a chynnal
safonau ymddygiad uchel gan aelodau |
1 |
Mae’r Cadeirydd
ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill. Rhai o’r
aelodau wedi mynychu pwyllgorau / cyfarfodydd Cyngor Llawn, Cabinet a Chynghorau Tref a Chymuned fel sylwebyddion. |
Parhau i fynychu
a chefnogi Parhau i gefnogi
gan gynnwys defnydd gwe ddarlledu |
Cynorthwyo’r aelodau
i gadw at y Cod Ymddygiad |
1 |
Trefnu Hyfforddiant
ar gyfer aelodau Cynghorau Tref a Chymuned Trefnu Hyfforddiant
ar gyfer aelodau’r Cyngor |
Ystyried adborth
Hyfforddiant a rhaglen newydd |
Cynghori’r Cyngor
ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad |
1 |
Trefnwyd i gylchredeg
arweiniad diwygiedig ar y Cod Ymddygiad gan yr Ombwdsmon
i holl aelodau’r Cyngor Rhoddwyd sylwadau
ar elfennau o Fil Llywodraeth Leol ( Cymru) 2015 |
Adolygu newidiadau
diweddaraf i’r Cod |
Monitro gweithrediad
y Cod Ymddygiad |
1 |
Derbyn adroddiadau
rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau Derbyn adroddiadau
blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru Derbynnir adroddiadau
blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir Derbynnir adroddiadau
blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch. |
Parhau i fonitro
ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth Ystyried y diwigiadau
i’r Cod ymddygiad a sut i rannu’r newid. |
Cynghori, hyfforddi
neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn
ymwneud â’r Cod Ymddygiad |
1 |
Mynychodd aelodau'r
gynhadledd safonau yng Nghaerdydd ac adrodd yn ôl. Trefnu Hyfforddiant
ar gyfer aelodau Cynghorau Tref a Chymuned Trefnu Hyfforddiant
ar gyfer aelodau’r Cyngor |
Rhaglen Hyfforddiant
newydd |
Rhoi goddefebau
i aelodau |
1 |
Ymdriniwyd â 2 gais
am oddefebau gan aelodau o’r Cyngor
a Chynghorau Tref a Chymuned Cymerwyd trosolwg
o’r gyfundrefn i sicrhau cysondeb a phriodoldeb. |
|
Ymdrin ag adroddiadau
o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion
a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon |
1 |
Cynhaliwyd 1 gwrandawiad
yn 2015/16 |
|
Awdurdodi’r Swyddog
Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad |
(Dim byd i’w fesur) |
Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r
fath |
|
Ymarfer y swyddogaethau
uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned |
2 |
Cynhaliwyd sesiynau
hyfforddi i glercod cynghorau cymuned yn Hydref 2013 Anfonir adroddiad
blynyddol y Pwyllgor at yr holl gynghorau
cymuned. Canfasiwyd barn y cynghorau cymuned ar hyfforddiant yn seiliedig ar y Cod a dylanwad llywodraethu da. Cynhaliwyd Hyfforddiant ar gefn y gwaith yma mewn 4 canolfan. |
Rhaglen Hyfforddiant
amgen. ‘Roedd angen, fodd bynnag, symud ymlaen i gynhyrchu trefn Ddatrys Leol enghreifftiol at ddefnydd y cynghorau cymuned. |
(b) Cynnwys troed nodyn i’r hunan asesiad yn
cynnwys rhywfaint o’r ystadegau o safbwynt presenoldeb yn yr hyfforddiant ac yn
datgan, o ystyried nad oes gorfodaeth ar aelodau i fynychu, bod y Pwyllgor
Safonau o’r farn ei fod wedi cyflawni ei ofynion yn
dda iawn o ran cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad, ac y dylai
cynghorwyr gymryd yr hyfforddiant fwy o ddifri’.
(c) Cymeradwyo’r rhaglen waith ganlynol ar
gyfer 2016/17:-
27 Mehefin, 2016
·
Adroddiad Blynyddol
·
Honiadau yn erbyn Aelodau
·
Adolygu trefn i aelodau fynychu cyfarfodydd pwyllgorau a chynghorau
cymuned – gwersi a ddysgwyd. (Gofynnwyd i’r aelodau feddwl rhwng hyn a
Mehefin sut y gellid mynd ynghylch hyn.)
3 Hydref, 2016
·
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon
·
Honiadau yn erbyn aelodau
·
Trefn Datrys Lleol Model Cynghorau Cymuned
·
Adolygiad protocolau
23 Ionawr, 2017
·
Cofrestr rhoddion a lletygarwch
·
Cofrestr Datgan Buddiant
·
Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu
·
Honiadau yn erbyn aelodau
27 Mawrth, 2017
·
Hunan Arfarniad a Rhaglen Waith
·
Hyfforddiant
·
Paratoi ar gyfer etholiad 2017 – codi ymwybyddiaeth clercod cynghorau
tref a chymuned ynglŷn â’r disgwyliadau sydd arnynt
o safbwynt darparu gwybodaeth i ddarpar gynghorwyr parthed gofynion y Cod
Ymddygiad.
Dogfennau ategol: