Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Craig
ab Iago, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Charles Jones, Eric Merfyn Jones a
Sion Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
YMGYNGHORIAD AR HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO SAFONAU'R GYMRAEG PDF 347 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (a Iaith) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ac Iaith) yn cyflwyno
crynodeb o’r Hysbysiad Cydymffurfio a’r prif bwyntiau
y gofynnid i’r pwyllgor eu trafod
ac ymateb iddynt. Nodwyd y byddai ymgynghori hefyd gyda’r Grŵp
Rheoli a’r Tîm Rheoli Corfforaethol
cyn i’r Aelod
Cabinet ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad
ar ran y Cyngor. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
ar gynnwys y safonau:- 1. Cyflenwi
Gwasanaethau (1-87) ·
Safonau 2, 3, 21, 28, 32, 72 – Mae’r
egwyddor o gyflenwi gwasanaethau yn ôl yr angen yn hytrach nag yn ôl y dewis yn
egwyddor sylfaenol, a dylai fod yn egwyddor drwy Gymru
gyfan. Os rhoddir dewis, mae pobl yn
dueddol o ddweud nad oes ots ganddynt, a gallai hynny arwain at leihau’r
defnydd o’r Gymraeg. ·
Safon rhif 12 – Awgrymir bod lle i
roi’r Gymraeg flaenaf wrth hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu
wasanaethau canolfannau galwadau. ·
Safon 30 – Mae’r Cyngor yn
darparu cyfieithu ar y pryd ym mhob cyfarfod cyhoeddus a gynhelir,
ac mae’r Gymraeg wedi ei normaleiddio i’r graddau fod y cyhoedd yn gwbl
ymwybodol bod modd iddynt siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus a gynhelir gan y Cyngor. ·
Safon rhif 49 – Nid yw’n arferol
i’r Cyngor hwn lunio fersiwn Cymraeg a Saesneg o ddogfen ar wahân. ·
Safonau 67-68 – Yn unol â Chynllun
Iaith y Cyngor, mae holl staff y derbynfeydd yn gwbl ddwyieithog. O ganlyniad, nid yw’r staff yn gwisgo
bathodynnau i ddangos bod gwasanaeth Cymraeg ar gael, ac nid oes arwyddion yn datgan
fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa. Unwaith eto, mae lle i ddadlau bod polisi’r
Cyngor fel ag y mae yn fwy na digonol ar gyfer y gofynion. ·
Cyffredinol – ·
Mae Cynllun Iaith y Cyngor eisoes yn mynd y
tu hwnt i ran helaeth o’r safonau hyn.
Dylid sicrhau nad yw geiriad y safonau yn glastwreiddio’r Cynllun Iaith
a’u bod yn adlewyrchu’r sefyllfa sydd wedi datblygu yn naturiol yng Ngwynedd dros y blynyddoedd drwy arferiad a gweithdrefnau. ·
Rhaid cadw mewn cof y trefniadau ad-drefnu ar
gyfer yr Awdurdodau Lleol ac effaith bosib’ hyn ar gydymffurfiad â’r Safonau maes o law. 2. Llunio
Polisi (88-97) ·
Croesawir y ffaith bod y Cyngor yn llunio
polisïau sydd ddim yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg fel mater o
drefn, ond cytunwyd y byddai ffurfioli’r drefn drwy roi strwythur mewn lle i
brofi bod ystyriaeth lawn wedi’i roi i’r Gymraeg, yn ffordd o hybu hynny mewn
ffordd gadarnhaol. ·
Na ddymunir creu gwaith papur ychwanegol, ond
yn hytrach gellid plethu cyfundrefn i dystiolaethu i’r drefn bresennol o
gyflwyno polisïau i’r Cabinet. 3. Gweithredu
(98-144) ·
Dylai’r safonau ganiatáu i’r Cyngor hwn
barhau i weithredu yn unol â’i Gynllun Iaith o
safbwynt gweinyddiaeth fewnol oherwydd gallai rhoi’r pwyslais ar ‘ddewis’ iaith
effeithio yn negyddol ar statws y Gymraeg yn hytrach na’i chryfhau drwy arwain
at aelodau o staff yn dewis derbyn gwybodaeth yn Saesneg yn hytrach nag yn
Gymraeg. · Y gallai’r ffaith y byddai gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |