Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (a Iaith) (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ac Iaith) yn cyflwyno
crynodeb o’r Hysbysiad Cydymffurfio a’r prif bwyntiau
y gofynnid i’r pwyllgor eu trafod
ac ymateb iddynt.
Nodwyd y byddai ymgynghori hefyd gyda’r Grŵp
Rheoli a’r Tîm Rheoli Corfforaethol
cyn i’r Aelod
Cabinet ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad
ar ran y Cyngor.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
ar gynnwys y safonau:-
1. Cyflenwi
Gwasanaethau (1-87)
·
Safonau 2, 3, 21, 28, 32, 72 – Mae’r
egwyddor o gyflenwi gwasanaethau yn ôl yr angen yn hytrach nag yn ôl y dewis yn
egwyddor sylfaenol, a dylai fod yn egwyddor drwy Gymru
gyfan. Os rhoddir dewis, mae pobl yn
dueddol o ddweud nad oes ots ganddynt, a gallai hynny arwain at leihau’r
defnydd o’r Gymraeg.
·
Safon rhif 12 – Awgrymir bod lle i
roi’r Gymraeg flaenaf wrth hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu
wasanaethau canolfannau galwadau.
·
Safon 30 – Mae’r Cyngor yn
darparu cyfieithu ar y pryd ym mhob cyfarfod cyhoeddus a gynhelir,
ac mae’r Gymraeg wedi ei normaleiddio i’r graddau fod y cyhoedd yn gwbl
ymwybodol bod modd iddynt siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus a gynhelir gan y Cyngor.
·
Safon rhif 49 – Nid yw’n arferol
i’r Cyngor hwn lunio fersiwn Cymraeg a Saesneg o ddogfen ar wahân.
·
Safonau 67-68 – Yn unol â Chynllun
Iaith y Cyngor, mae holl staff y derbynfeydd yn gwbl ddwyieithog. O ganlyniad, nid yw’r staff yn gwisgo
bathodynnau i ddangos bod gwasanaeth Cymraeg ar gael, ac nid oes arwyddion yn datgan
fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa. Unwaith eto, mae lle i ddadlau bod polisi’r
Cyngor fel ag y mae yn fwy na digonol ar gyfer y gofynion.
·
Cyffredinol –
·
Mae Cynllun Iaith y Cyngor eisoes yn mynd y
tu hwnt i ran helaeth o’r safonau hyn.
Dylid sicrhau nad yw geiriad y safonau yn glastwreiddio’r Cynllun Iaith
a’u bod yn adlewyrchu’r sefyllfa sydd wedi datblygu yn naturiol yng Ngwynedd dros y blynyddoedd drwy arferiad a gweithdrefnau.
·
Rhaid cadw mewn cof y trefniadau ad-drefnu ar
gyfer yr Awdurdodau Lleol ac effaith bosib’ hyn ar gydymffurfiad â’r Safonau maes o law.
2. Llunio
Polisi (88-97)
·
Croesawir y ffaith bod y Cyngor yn llunio
polisïau sydd ddim yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg fel mater o
drefn, ond cytunwyd y byddai ffurfioli’r drefn drwy roi strwythur mewn lle i
brofi bod ystyriaeth lawn wedi’i roi i’r Gymraeg, yn ffordd o hybu hynny mewn
ffordd gadarnhaol.
·
Na ddymunir creu gwaith papur ychwanegol, ond
yn hytrach gellid plethu cyfundrefn i dystiolaethu i’r drefn bresennol o
gyflwyno polisïau i’r Cabinet.
3. Gweithredu
(98-144)
·
Dylai’r safonau ganiatáu i’r Cyngor hwn
barhau i weithredu yn unol â’i Gynllun Iaith o
safbwynt gweinyddiaeth fewnol oherwydd gallai rhoi’r pwyslais ar ‘ddewis’ iaith
effeithio yn negyddol ar statws y Gymraeg yn hytrach na’i chryfhau drwy arwain
at aelodau o staff yn dewis derbyn gwybodaeth yn Saesneg yn hytrach nag yn
Gymraeg.
·
Y gallai’r ffaith y
byddai gan y Safonau fwy o rym na Chynllun Iaith y Cyngor effeithio yn negyddol
ar allu Cyngor Gwynedd i gario ymlaen i weithredu fel
y mae ar hyn o bryd yng ngoleuni unrhyw her.
4. Cadw Cofnodion (147-154) a Safonau Atodol (155-176)
·
Er bod cadw cofnodion ar gyfer cydymffurfio â’r safonau yn mynd i greu mwy o waith i’r Cyngor hwn,
byddai’r Cyngor yn fodlon ysgwyddo’r baich gan ei fod yn mynd i fod o gymorth o
safbwynt gorfodi cynghorau eraill i weithredu yn yr
un modd. Byddai hefyd yn fodd o
gadarnhau sefyllfa’r Cyngor hwn petai unrhyw fater yn codi.
5. Hybu
(173-174)
·
Mae gan y Cyngor (o
dan Hunaniaith) Strategaeth Iaith i’r sir, a
gyhoeddwyd yn 2014 am gyfnod o 3 blynedd.
Byddai llunio Strategaeth newydd o fewn y flwyddyn, i gydymffurfio â
safonau 145-174 yn ddibwrpas. Mae
amheuaeth hefyd ynglŷn â gallu’r Cyngor i fesur effaith gwireddu uchelgais
unrhyw strategaeth bob 5 mlynedd, gan mai’r Cyfrifiad yw’r unig ffynhonnell
ddata ar gyfer mesur nifer a chanran siaradwyr Cymraeg.
Cyffredinol.
·
Nid yw’r safonau arfaethedig yn cymryd i
ystyriaeth y camau blaengar mae’r Cyngor hwn yn eu cymryd eisoes a rhaid i
hynny gael ei grisialu yn y safonau mewn rhyw ffordd.
Pwysleisiwyd yr angen i roi
cyhoeddusrwydd ehangach i’r ymgynghoriad a’r sylwadau gan
hefyd lobïo am ymestyn y safonau i holl gyrff llywodraeth
ganolog sy’n weithredol yng Nghymru.
PENDERFYNWYD gofyn i’r swyddogion:-
(a) Grynhoi’r pwyntiau a godwyd a chylchredeg ymateb yr Aelod
Cabinet i aelodau’r pwyllgor,
ar ffurf drafft os yw
amser yn caniatáu.
(b) Rhoi cyhoeddusrwydd ehangach i’r ymgynghoriad
a’r sylwadau drwy gyfrwng yr
Uned Gyfathrebu a Rhaeadr.
(c) Lobïo am ymestyn y safonau i holl gyrff llywodraeth ganolog sy’n weithredol
yng Nghymru.
Dogfennau ategol: