Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dim.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd John Wyn Williams fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Diweddariad ar Gyfarfod gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd - oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd CCG.

 

          Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 302 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2015 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2015 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

Cyflwyno adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Y cadarnhad amodol o lwyddiant y grant hyrwyddo defnydd y Gymraeg.

·         Y gwaith o sefydlu’r ganolfan iaith newydd ym Mangor.

·         Cynhadledd ar yr 22ain o Ionawr yn Llanrwst i lansio’r Siarter Iaith ar draws y siroedd y Gogledd.

·         Cynhadledd ar y 13eg o Ionawr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgynghoriad ar fframwaith strategaeth olynol ar y cynllun Mwy na Geiriau.

·         Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 sy’n ymwneud â Chynllunio a’r Gymraeg.

·         Y bwriad i feithrin perthynas gyda’r Dr Rhian Hodges a’r Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwyr ar bolisi a chynllunio ieithyddol.

·         Trafodaethau ar y Safonau Iaith a’u heffaith ar Bolisi Iaith y Cyngor.

·         Y bwriad i gyflwyno argymhellion yr Ymchwiliad Iaith – Defnydd o’r Gymraeg mewn Cyfarfodydd Allanol i’r Cabinet ar y 19eg o Ionawr i’w mabwysiadu ac i weithredu arnynt.

 

Trafodwyd y materion a ganlyn:-

 

(A)      Ymgynghoriad TAN 20

 

Nododd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:-

·         Y bwriadai’r Adran Gynllunio drefnu seminar i’r aelodau ar bnawn yr 8fed o Fawrth er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, y pwyllgor hwn ac eraill i geisio dylanwadu ar y canllaw cenedlaethol drwy gyfrannu eu sylwadau ar y newidiadau arfaethedig.

·         Yn ogystal â hynny, bod yna ganllawiau lleol yn cael eu datblygu a bod yr Aelod Cabinet wedi datgan ei fwriad i drafod y canllaw lleol gyda’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r pwyllgor hwn.

 

Cytunwyd, er hwylustod, i gylchredeg linc i’r TAN 20 presennol ar wefan Llywodraeth Cymru i aelodau’r pwyllgor.

 

(B)      Cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor

 

Holwyd a fyddai modd gwahodd yr arbenigwyr ar bolisi a chynllunio ieithyddol i gyfarfod y Pwyllgor Iaith.  Atebodd yr Aelod Cabinet fod angen trafodaeth bellach gyda’r Brifysgol yn gyntaf i ridyllu’r deunydd academaidd er mwyn gweld beth sy’n berthnasol i’r Cyngor ac y gellid dod yn ôl at y Pwyllgor Iaith ar ôl datblygu’r drafodaeth ymhellach.

 

(C)      Enwau Lleoedd

 

Nododd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:-

 

·         Yn sgil y penderfyniad yn y cyfarfod diwethaf i bwyso am gynnwys cymal ynglŷn â’r Gymraeg yn y Bil Amgylcheddol Hanesyddol, y derbyniwyd ymateb gan Gadeirydd y pwyllgor yn y Senedd sy’n trafod y bil yn datgan bod y bil wedi’i ddiwygio, ym mis Tachwedd 2015, i gynnwys adran sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru (sef adran 33 newydd i’r Bil).

·         Bod y bil wedi’i ddiwygio hefyd i’w gwneud yn ofynnol i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol (a fydd yn cael eu paratoi gan awdurdodau cynllunio lleol) ddarparu dull o gael gafael ar fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod hwnnw sydd wedi’i gynnwys yn y rhestr a gaiff ei llunio a’i chynnal gan Weinidogion Cymru. 

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Cytunwyd i aros i weld beth mae’r canllawiau’n ddweud ac ystyried bryd hynny sut y gall y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYFLWYNIAD GAN Y TIM DYSGU A DATBLYGU

Derbyn cyflwyniad gan y Tim Dysgu a Datblygu ar y broses o ddatblygu staff di-gymraeg.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Swyddog Datblygu Gweithlu / Cyd-gysylltydd Iaith Gymraeg ar y broses o ddatblygu staff di-gymraeg, gan gyfeirio at y sefyllfa bresennol, gwasgariad staff sy’n dysgu Cymraeg drwy’r sir, camau i gefnogi dysgwyr a’r ffordd ymlaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Trafodwyd :-

 

·         Anhawster adnabod pobl yn y system gan nad ydy rheolwyr bob amser yn glir beth ydy’r lefel iaith ar gyfer y swydd, ac o ganlyniad dydy’r staff ddim yn cael eu cyfeirio am hyfforddiant iaith.

·         Yr anhawster yn y maes gofal oherwydd y methiant i gyflawni’r gwasanaeth yn newis iaith y cleient o ganlyniad i anawsterau recriwtio staff.  Nodwyd bod y sefyllfa’n well yng nghartrefi’r Cyngor nag mewn cartrefi preifat.  Awgrymwyd nad oedd y cwmni sy’n darparu gofal ym Mhant yr Eithin, Harlech yn cyflawni gofynion y contract a chytunodd yr Uwch Reolwr Busnes i geisio cadarnhad o’r sefyllfa.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn yr ysgolion a’r colegau i gyfarch yr argyfwng recriwitio yn y maes gofal.

·         Yr awdit mewnol o sgiliau ieithyddol y staff.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Datblygu Gweithlu / Cyd-gysylltydd Iaith Gymraeg am y cyflwyniad ac am y drafodaeth.

 

 

7.

MWY NA GEIRIAU

Derbyn cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Busnes ar gynnydd y Grwp Tasg Mwy na Geiriau.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Busnes ar gynnydd y Grŵp Tasg Mwy na Geiriau, gan gyfeirio at:-

 

·         Y cefndir i fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol a’r ymgynghoriad presennol ar fframwaith strategol olynol fyddai’n sail gryfach i arfogi’r meysydd gofal ac iechyd i weithredu’r strategaeth.

·         Gwaith a chanfyddiadau’r Grŵp Tasg a’r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.  Eglurwyd nad oedd y Grŵp Tasg wedi cyfarfod ers Mai 2015 gan y bu’n aros am y Safonau Iaith newydd er mwyn cael eglurder, ond bod angen ail afael yn y grŵp bellach.  Nodwyd hefyd bod angen ail-edrych ar aelodaeth y Grŵp Tasg er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol.

·         Enghreifftiau o waith da sy’n digwydd yn y gymuned.

·         Yr angen i newid y drefn monitro gan mai 2 swyddog yn unig sy’n cadw golwg dros 60-70 o gartrefi a 100 o ofalwyr cartref.

·         Datblygiadau technolegol yn y maes, megis system dechnoleg gwybodaeth newydd sy’n cofnodi gwybodaeth cleientiaid a chyfieithu peirianyddol yn y maes iechyd a gofal.

·         Y syniad o rannu adnoddau o ran gweithwyr gyda chynghorau eraill a gweld Mwy na Geiriau yn cael ei ledaenu ymhellach.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Trafodwyd :-

 

·         Yr angen i roi blaenoriaeth i ddiwallu’r angen yng Ngwynedd am ofalwyr Cymraeg, neu unrhyw ofalwyr, drwy sefydlu cynllun o gydweithio gydag ysgolion a cholegau dros nifer o flynyddoedd.  Nodwyd, serch hynny, bod yna lawer i fod yn falch ohono yng Ngwynedd a bod rhaid cynnal y momentwm hwnnw.

·         Yr angen i gael mewnbwn ar lefel gorfforaethol i waith y Grŵp Tasg.  Nodwyd bod yna lawer o weithgaredd yn y maes ar lefel lleol a rhanbarthol, ond nad oedd cynllun yn ei le ar gyfer ymateb i’r broblem.

·         Yr angen i ymateb i’r ymgynghoriad ar y fframwaith strategol olynol.  Nodwyd bod yr egwyddorion sylfaenol yn gadarn iawn ynddo, ond mai’r gweithredu oedd y broblem.  Gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau a Chraffu anfon linc i’r ddogfen at yr aelodau ac erfyniodd yr Uwch Reolwr Busnes ar bawb i gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen ac ymateb iddi cyn y dyddiad cau, sef 28 Chwefror.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Gofyn i’r Aelod Cabinet y Gymraeg, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Gofal, gynnal trafodaeth gyda Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, sy’n arwain ar y prosiect hwn, er mwyn gweld sut y gellir clymu Mwy na Geiriau gydag unrhyw strategaeth arall sydd gan y Cyngor i ddarparu yn y maes gofal, ystyried beth mae’r Grŵp Tasg wedi’i wneud hyd yma a beth sydd angen iddo’i wneud, a dod ag adroddiad yn ôl i’r pwyllgor hwn.

(b)       Bod yr aelodau yn cyflwyno unrhyw sylwadau ar y fframwaith strategaeth olynol i sylw’r Uwch Reolwr Busnes cyn 28 Chwefror.

 

Diolchwyd i’r Uwch Swyddog Busnes am y cyflwyniad ac am y drafodaeth.

 

8.

SAFONAU IAITH A PHOLISI IAITH I'R CYNGOR pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr (Democratiaeth a Chyflawni)  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Reolwr (Democratiaeth a Chyflawni) yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor ar bolisi iaith drafft i’r Cyngor cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 3 Mawrth er mwyn ei fabwysiadu.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Pwysleisiwyd bod yr isafswm a osodir gan y Safonau yn rhy isel i gyfarch uchelgais y Cyngor hwn ar gyfer yr iaith Gymraeg mewn sawl un o’r meysydd ac na ddymunid gweld gwanhau sefyllfa bresennol y Cyngor.

·         Mewn ymateb i sylw bod y fersiwn Saesneg o wefan y Cyngor yn cael ei chynnig gyntaf wrth chwilio am Gyngor Gwynedd ar beiriannau chwilio, eglurodd y Swyddog Datblygu Iaith y credai mai cwcis y defnyddiwr unigol oedd yn achosi i’r wefan fynd i’r dudalen Saesneg yn lle’r Gymraeg.  Holwyd a oedd modd mynd ar ôl hynny eto a chytunodd yr Aelod Cabinet i wneud ymholiadau.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Gan fod paragraffau 3.1 a 3.3 o’r polisi yn cyfeirio at gyfrannu mewn cyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, dileu paragraff 3.1 a mewnosod paragraff 3.3 fel paragraff 3.1 newydd.

(b)       Gofyn i’r Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni holi’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol oes yna amserlen o ran pryd y disgwylir i berson di-gymraeg sy’n cael ei benodi i swydd ddysgu’r iaith a beth sy’n digwydd os nad yw’r person hwnnw’n cyrraedd y gofynion o fewn yr amserlen, er mwyn cyflwyno’r polisi i’r Cyngor llawn ym Mawrth.

 

9.

DIWEDDARIAD AR GYFARFOD GYDA CHARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD pdf eicon PDF 184 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn cyflwyno diweddariad ar gyfarfod gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd yn sgil cŵyn a dderbyniodd y Pwyllgor Iaith ynglŷn â gweithrediad CCG o’u Cynllun Iaith a’u bwriad i hysbysebu dwy swydd uwch reolwr heb i’r Gymraeg gael ei nodi fel sgil hanfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

·         Pwysleisiwyd nad oedd y ddirprwyaeth fu’n trafod gyda Phrif Weithredwr CCG yn derbyn yr anawsterau a mynegwyd gwrthwynebiad llwyr i benderfyniad y cwmni i fynd yn groes i’w polisi a’u cynllun iaith eu hunain.

·         Nodwyd y dylid gofyn i CCG am sicrwydd ysgrifenedig nad ydynt am fynd yn groes i’w polisi iaith yn y dyfodol; y bydd y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, fydd yn cael ei hysbysebu’n fuan, a bod y ddau uwch reolwr di-gymraeg a benodwyd yn 2015 yn dysgu Cymraeg.

·         Awgrymwyd bod cyfrifoldeb ar gynghorwyr a phobl yn gyffredinol i geisio cyfeirio’r bobl gywir at y mathau hyn o swyddi.

·         Nodwyd, o safbwynt y Cyngor, bod rhaid sicrhau bod unrhyw gytundebau gyda’r trydydd sector, neu bwy bynnag, yn ei gwneud yn hollol glir bod raid i’r cyrff hynny ymlynu at eu polisïau iaith ac y byddai’n fuddiol cael diweddariad ar hynny wrth i ddyletswyddau neu gyfrifoldebau drosglwyddo i gyrff eraill yn sgil unrhyw doriadau.

·         Nodwyd bod swyddogion y Comisiynydd Iaith yn gwneud darn o waith ar oblygiadau allanoli gwasanaethau i’r iaith Gymraeg ac y byddai’n fuddiol cyflwyno’r gwaith hwnnw i’r pwyllgor er mwyn iddo fod yn ffactor fydd yn fyw ym meddyliau’r Cyngor wrth iddynt orfod gwneud penderfyniadau i allanoli.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Gofyn i’r Swyddog Datblygu Iaith drefnu cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd i drafod y cyfleoedd a’r pryderon uchod, gan ofyn yn benodol am sicrwydd ysgrifenedig ganddynt:-

·         Nad ydynt am fynd yn groes i’w polisi iaith yn y dyfodol.

·         Y bydd y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, fydd yn cael ei hysbysebu’n fuan.

·         Bod y ddau uwch reolwr di-gymraeg a benodwyd yn 2015 yn dysgu Cymraeg.

(b)       Adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn ar ganlyniadau gwaith y Comisiynydd Iaith ar oblygiadau allanoli gwasanaethau i’r iaith Gymraeg.

 

10.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 125 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar y cwynion iaith diweddaraf i law.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.