Agenda item

Cyflwyno adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Y cadarnhad amodol o lwyddiant y grant hyrwyddo defnydd y Gymraeg.

·         Y gwaith o sefydlu’r ganolfan iaith newydd ym Mangor.

·         Cynhadledd ar yr 22ain o Ionawr yn Llanrwst i lansio’r Siarter Iaith ar draws y siroedd y Gogledd.

·         Cynhadledd ar y 13eg o Ionawr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgynghoriad ar fframwaith strategaeth olynol ar y cynllun Mwy na Geiriau.

·         Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 sy’n ymwneud â Chynllunio a’r Gymraeg.

·         Y bwriad i feithrin perthynas gyda’r Dr Rhian Hodges a’r Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwyr ar bolisi a chynllunio ieithyddol.

·         Trafodaethau ar y Safonau Iaith a’u heffaith ar Bolisi Iaith y Cyngor.

·         Y bwriad i gyflwyno argymhellion yr Ymchwiliad Iaith – Defnydd o’r Gymraeg mewn Cyfarfodydd Allanol i’r Cabinet ar y 19eg o Ionawr i’w mabwysiadu ac i weithredu arnynt.

 

Trafodwyd y materion a ganlyn:-

 

(A)      Ymgynghoriad TAN 20

 

Nododd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:-

·         Y bwriadai’r Adran Gynllunio drefnu seminar i’r aelodau ar bnawn yr 8fed o Fawrth er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, y pwyllgor hwn ac eraill i geisio dylanwadu ar y canllaw cenedlaethol drwy gyfrannu eu sylwadau ar y newidiadau arfaethedig.

·         Yn ogystal â hynny, bod yna ganllawiau lleol yn cael eu datblygu a bod yr Aelod Cabinet wedi datgan ei fwriad i drafod y canllaw lleol gyda’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r pwyllgor hwn.

 

Cytunwyd, er hwylustod, i gylchredeg linc i’r TAN 20 presennol ar wefan Llywodraeth Cymru i aelodau’r pwyllgor.

 

(B)      Cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor

 

Holwyd a fyddai modd gwahodd yr arbenigwyr ar bolisi a chynllunio ieithyddol i gyfarfod y Pwyllgor Iaith.  Atebodd yr Aelod Cabinet fod angen trafodaeth bellach gyda’r Brifysgol yn gyntaf i ridyllu’r deunydd academaidd er mwyn gweld beth sy’n berthnasol i’r Cyngor ac y gellid dod yn ôl at y Pwyllgor Iaith ar ôl datblygu’r drafodaeth ymhellach.

 

(C)      Enwau Lleoedd

 

Nododd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:-

 

·         Yn sgil y penderfyniad yn y cyfarfod diwethaf i bwyso am gynnwys cymal ynglŷn â’r Gymraeg yn y Bil Amgylcheddol Hanesyddol, y derbyniwyd ymateb gan Gadeirydd y pwyllgor yn y Senedd sy’n trafod y bil yn datgan bod y bil wedi’i ddiwygio, ym mis Tachwedd 2015, i gynnwys adran sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru (sef adran 33 newydd i’r Bil).

·         Bod y bil wedi’i ddiwygio hefyd i’w gwneud yn ofynnol i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol (a fydd yn cael eu paratoi gan awdurdodau cynllunio lleol) ddarparu dull o gael gafael ar fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod hwnnw sydd wedi’i gynnwys yn y rhestr a gaiff ei llunio a’i chynnal gan Weinidogion Cymru. 

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Cytunwyd i aros i weld beth mae’r canllawiau’n ddweud ac ystyried bryd hynny sut y gall y Cyngor hwn a’r cymunedau lleol a’r cynghorau bro lleol gyfrannu at y broses.

·         Cyfeiriodd aelod at amharodrwydd Snowdonia Active i ohebu yn Gymraeg a holwyd a oedd modd dwyn pwysau arnynt.  Gofynnodd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni i’r aelod yrru’r manylion perthnasol at y swyddogion, ond rhybuddiodd yr Aelod Cabinet na welai sut y gellid eu gorfodi gan mai cwmni preifat oeddent.  Pwysleisiwyd yr angen i gefnogi cwmnïau i fod yn ddwyieithog, yn hytrach na phwyntio bys.  Mewn ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet fod hynny’n rhan sylfaenol o waith Hunaniaith ac ymhelaethodd y Swyddog Datblygu Iaith ar y gwaith o gynghori’r sector fusnes gan nodi fod y sector awyr agored yn faes anodd gan eu bod yn gwasanaethu llawer o gwsmeriaid o’r tu allan i Gymru.

·         Nodwyd y gellid hawlio grant gan y Bwrdd Iaith yn y dyddiau a fu i gael arwyddion Cymraeg ar fusnesau a faniau a nododd yr Uwch Reolwr - Democratiaeth a Chyflawni y byddai’r ymchwiliad iaith nesaf yn edrych ar welededd y Gymraeg a dylanwad y Cyngor ar hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.