Lleoliad: Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YQ. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd am y flwyddyn 2017-18. Nododd
aelodau eu dymuniad i’r Cadeirydd presennol barhau. Eglurwyd mai blwyddyn oedd
tymor Cadeirydd felly ni ellir ail-ethol. Nododd aelodau eu dymuniad i aros tan y cyfarfod nesaf i ethol Cadeirydd
i roi cyfle i’r aelodau eraill nad oedd yn bresennol. PENDERFYNWYD
ethol T. Victor Jones yn Gadeirydd am y cyfarfod yma. Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i’r cyn aelodau am eu cyfraniad i’r Cydbwyllgor a croesawodd yr aelodau newydd a oedd yn mynychu eu cyfarfod cyntaf. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol
is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Anwen Davies, Simon Glyn a John Brynmor Hughes (Cyngor Gwynedd) ynghyd â Jina Gwyrfai (Cyngor Cymuned Llanaelhaearn), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) a Wenda Williams (Cyngor Cymuned Aberdaron). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Gruffydd Williams (Cyngor Tref Nefyn) fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd yr ystafell yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017, fel rhai cywir. Adroddodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn
na allwyd gweithredu ar gais y Cydbwyllgor yn y cyfarfod diwethaf i’r Aelod
Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio i ddiwygio cyfansoddiad y Cydbwyllgor i nodi
y dyrennir seddi Aelodau Lleol yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y
Cyngor ac i ddileu’r cymal “Aelodau Cyngor Gwynedd i gael eu cylchdroi yn dilyn
etholiadau lleol”. Eglurodd o’r herwydd bod aelodau Cyngor Gwynedd ar y
Cyd-Bwyllgor wedi eu cylchdroi. Holodd aelod parthed adolygiad Tirweddau’r Dyfodol Cymru. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y broses yn parhau ac fe gyflwynir adroddiad yn diweddaru’r aelodau ar yr adolygiad yn y cyfarfod nesaf. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 260 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn yn cyflwyno Cynllun Rheoli’r AHNE diwygiedig drafft i sylw’r
Cyd-Bwyllgor yn unol â’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i’w drafod cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Eglurwyd bod penodau Rhan 1 a 2 o’r cynllun
wedi bod gerbron y Cyd-Bwyllgor am sylwadau dros nifer o gyfarfodydd. ’Roedd y
cynllun diwygiedig cyflawn gerbron yn cynnwys y Rhaglen Weithredu sef y
gweithredoedd a’r prosiectau manwl y bwriedir eu cyflawni yn ystod y
blynyddoedd nesaf. Gofynnwyd i’r
Cyd-Bwyllgor ystyried y Cynllun Rheoli diwygiedig drafft, awgrymu newidiadau
neu welliannau a derbyn y cynllun diwygiedig drafft fel sail ar gyfer
ymgynghori cyhoeddus. Nodwyd yn dilyn yr
ymgynghoriad cyhoeddus bwriedir dychwelyd i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r
ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion i newid y Cynllun. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau
canlynol gan aelodau unigol: ·
Yr angen
i ddiweddaru gwybodaeth yn y Cynllun; ·
Holodd
aelod o ran oes y Cynllun, gan y nodir ei fod yn gynllun am y cyfnod 2015 i
2020 ond ni fabwysiedir tan 2017; ·
Y byddai
cynnwys lluniau a graffiau yn y Cynllun yn ei fywiogi a’i wneud yn haws i’w
ddarllen; ·
O ran
ffigyrau twristiaeth, roedd ffigyrau 2011 STEAM wedi eu cynnwys ond bod
ffigyrau 2015 ar gael. Tynnwyd sylw yn y cyfarfod diwethaf bod y ffigyrau yn
gamarweiniol gan na ellir cael dadansoddiad mor fanwl; ·
Y
dylid ystyried cyfeirio mwy at Lwybr yr Arfordir, roedd yn denu mwy o bobl i’r
ardal ac fe fyddai cyfeirio at y llwybr yn rhoi pwysau ar yr angen i fuddsoddi
mewn llwybrau eraill, er enghraifft, llwybrau cylchol; ·
Y
dylid cynyddu’r cyfeiriadau yn y Cynllun at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(CDLL) gan gyfeirio at Bolisi AMG1 sy’n cyfeirio at Gynllun Rheoli’r AHNE; ·
Fe
gyfeirir at nifer o astudiaethau yn y Cynllun, a fyddai’n bosib cynnwys
llyfryddiaeth? ·
Nid oedd
Botwnnog wedi ei gynnwys ar y map o’r AHNE; ·
Y
dylid nodi lle trafodir tyrbinau gwynt bod y CDLL yn rhoi cyfyngder uchder o 15
medr a chynnwys crynhoad o faint o dyrbinau gwynt a dderbyniodd caniatâd
cynllunio; ·
O ran
planhigion ymledol, a adnabuwyd Jac y Neidiwr? ·
Pryder
o ran effaith gronnol dymchwel ac adeiladu tŷ newydd gyda cheisiadau o’r
fath o flaen cynllunio yn aml. Fyddai’n bosib i’r Cynllun gyfeirio at yr angen
i arbed tai rhag cael eu dymchwel mewn llefydd fel Abersoch? ·
Pryder
o ran effaith gronnol datblygiadau a’r angen i drafod efo perchnogion meysydd
carafanau o ran y ffordd ymlaen yng nghyswllt sgrinio a chydweddu i’r ardal cyn
difetha beth sy’n denu ymwelwyr i’r ardal; ·
Y
dylid edrych i mewn i ‘Rollback Rights’ fel sydd yn Lloegr, yng nghyswllt
llwybrau arfordir yn disgyn i’r môr gan fod y broses bresennol yng Nghymru yn
hirwyntog ac fe gollir adnodd holl bwysig. Angen pwyso ar Lywodraeth Cymru; · Bod rhaid bod yn ofalus o ran ymestyn hawliau Llywodraeth Cymru o ran gorfodaeth ar dir arfordirol oherwydd yr effaith ar dirfeddianwyr gan gynnwys oblygiadau cyfrifoldebau atebolrwydd ac effaith cŵn yn ymyrryd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CAIS CYNLLUNIO - THE SHANTY, ABERSOCH PDF 409 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod
yr adroddiad yma gerbron y Cyd-Bwyllgor ar gais y Cadeirydd. Eglurwyd bod cais
cynllunio 'The Shanty, Abersoch' (cais rhif C17/0159/39/LL) yn gais i ddymchwel
tŷ a chodi tŷ newydd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Adroddodd bod y Gwasanaeth AHNE yn unol â
chytundeb gwasanaeth wedi cyflwyno sylwadau ar y cais i’r Gwasanaeth Cynllunio.
Tynnwyd sylw at y materion canlynol o ran ystyried yr effaith tebygol ar yr
AHNE: ·
Lleoliad y safle ar yr arfordir yn yr AHNE ·
Pa mor weladwy yw’r safle o fannau cyhoeddus gerllaw ·
Fod adeiladau ar y safle ar hyn o bryd (heb eu rhestru) ·
Yr adeiladau eraill gerllaw (maint, dyluniad, deunyddiau) ·
Maint a dyluniad yr adeilad newydd arfaethedig ·
Y deunyddiau a fwriedir ·
Effaith posibl ar olygfeydd o’r Llwybr Arfordir uwchben y
safle Nododd bod y cais cynllunio
wedi ei drafod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ar 3 Gorffennaf 2017 lle
penderfynwyd gohirio penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Tynnwyd sylw y
byddai’r cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017 yn
dilyn ymweliad safle. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif
bwyntiau canlynol gan aelodau unigol: ·
Y
dyluniad ddim yn gweddu’n hanesyddol; ·
Dylid
gwarchod y tŷ sydd ar y safle gan ei symud i leoliad arall oherwydd ei
bwysigrwydd fel darn o hanes diweddar o’r 1950au; ·
Byddai’r
tŷ bwriedig yn fwy gweledol o’r môr yn hytrach na o’r Llwybr Arfordir; ·
Pryder
o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr ardal; ·
Byddai’r
tŷ bwriedig oddeutu dwywaith ôl troed y tŷ presennol, felly’n
gor-ddatblygiad o’r safle amlwg gan gael effaith weledol. Roedd Abersoch wedi
colli ei gymeriad yn dilyn y ceisiadau cynllunio a ganiatawyd dros y
blynyddoedd; ·
Ddim o
blaid nac yn erbyn y bwriad. Nid oedd gan y Cyngor yr arian i amddiffyn
apeliadau cynllunio ac roedd datblygiadau yn dod a gwaith i bobl leol. Yr angen
i ystyried effaith caniatadau cynllunio i ddymchwel a chodi tŷ ar yr
ardal; ·
Y
bwriad yn groes i bolisïau cynllunio gan nad oedd y tŷ bwriedig yn dilyn
yr un ôl troed; ·
Bod
tŷ wrth ymyl y safle yn debyg i’r tŷ bwriedig; ·
Byddai
caniatáu’r cais yn gosod cynsail a bod dyletswydd ar y Cyd-Bwyllgor i wrthwynebu’r
cais. PENDERFYNWYD cyflwyno’r sylwadau isod i
sylw’r Gwasanaeth Cynllunio mewn perthynas â chais cynllunio ‘The Shanty,
Abersoch’ (cais rhif C17/0159/39/LL): Ø Bod
Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn yn gwrthwynebu’r cais ar sail: ·
Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle
amlwg hon gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol. ·
Byddai’r datblygiad yn ymwthiol. Ø Bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn pryderu o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr AHNE. |
|
ETHOL AELODAU NEWYDD I'R PANEL GRANTIAU PDF 378 KB Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE
Llŷn yn amlinellu cefndir y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, sef ffynhonnell
grant gan Lywodraeth Cymru i’r pum AHNE yng Nghymru i ddyrannu ar gyfer
prosiectau cynaliadwy eu naws yn eu cymunedau. Eglurodd bod ceisiadau am arian o’r Gronfa
yn cael eu hasesu yn unol â meini prawf craidd, amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd
a diwylliannol. Nododd mai cyfanswm y Gronfa eleni oedd
£55,000 i bob ardal, ac o ran AHNE Llŷn bod £32,806 yn weddill. Eglurodd mai’r Uned AHNE a’r Panel Grantiau
sy’n gyfrifol am weinyddu Cronfa ardal
Llŷn. Nododd bod y Panel Grantiau yn ymdrin â phenderfynu ar
geisiadau grant dros £3,000. Ymhelaethodd y swyddog ar rôl y Panel
Grantiau, ac eglurodd fod angen ethol aelodau newydd ar gyfer y pum mlynedd
nesaf, yn dilyn etholiadau fis Mai 2017. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed
derbyn gwybodaeth o ran yr arian a ddyrannwyd eisoes, nododd Swyddog Prosiectau
AHNE Llŷn amlinelliad o’r prosiectau a ddyrannwyd arian o’r Gronfa eleni
ac y byddai’n anfon y wybodaeth at aelodau’r Panel Grantiau. PENDERFYNWYD: (i) Derbyn yr adroddiad. (ii) Ethol yr aelodau canlynol i
wasanaethu ar Banel Grantiau y Gronfa Datblygu Cynaliadwy am y 5 mlynedd nesaf: Y Cynghorydd Gareth Williams, Eirian Allport, Noel Davey, John Gosling, T. Victor Jones, Morgan Jones-Parry, Sian Parri a Gruffydd Williams. |